Ysgolhaig ac ysgrifwr
Ysgolhaig ac ysgrifwr oedd T. J. Morgan. Ei waith ysgolheigaidd pwysicaf yw ei gyfrol Y Treigladau a'u Cystrawen, a gyhoeddwyd ym 1952, ac sydd erbyn hyn yn lyfr eithaf prin. Dyma'r astudiaeth fwyaf manwl ac awdurdodol o'r pwnc.
Ar ben hynny, ac ar y cyd â'i fab Prys Morgan, Athro Hanes ym Mhrifysgol Abertawe, cyhoeddodd gyfrol ar gyfenwau Cymreig, sef Welsh Surnames (1985).
Ganwyd Thomas John Morgan yn Ynys-y-mwn ym mhentref Y Glais, ger Abertawe, ym 1907, i deulu o weithwyr diwydiannol.
Fe'i addysgwyd yng Ngholeg Prifysgol Abertawe, a Choleg Prifysgol, Dulyn.
Dechreuodd ei yrfa academaidd yn ddarlithydd yn Adran y Gymraeg, Coleg y Brifysgol, Caerdydd, ac yna, wedi cyfnod yn was sifil yn ystod yr Ail Ryfel Byd, fe'i penodwyd yn Gofrestrydd Prifysgol Cymru ym 1951.
Dychwelodd i Abertawe ym 1961 yn Athro'r Gymraeg, a bu yn y swydd honno nes iddo ymddeol.
Rhodri Morgan, Prif Weinidog Llywodraeth y Cynulliad Cenedlaethol, yw ei fab arall. Yn Llandeilo Ferwallt mae cartref y teulu.
Gwaith golygyddol
Ym 1946 penodwyd T. J. Morgan yn gyd-olygydd y cylchgrawn Y Llenor, ac yn ddiweddarach yn olygydd.
Ym 1955 golygodd rifyn arbennig er cof am sylfaenydd y cyfnodolyn a oedd wedi marw ym 1954.
Roedd T. J. Morgan yn gyfaill agos i W. J. Gruffydd ac yn gyfarwydd â chymlethdod ei feddwl: cyfrannodd fonograff gwerthfawr ar Gruffydd i'r gyfres Writers of Wales ym 1970.
Y Llenor oedd prif cylchgrawn y cyfnod o 1922 hyd 1955 ac roedd T. J. Morgan yn rhan annatod o'i lwyddiant.
Pwysigrwydd ei wreiddiau
Fel ysgrifwr roedd T. J. Morgan yn hoff iawn o ddychwelyd i Gwm Tawe am ei ddeunydd, ac ymddiddorai yn nhafodiaith, hiwmor a llên gwerin yr ardal.
Mae ei gyfrolau cyntaf o ysgrifau, Dal Llygoden (1937), Trwm ac Ysgafn (1945) a Cynefin (1948), yn gyforiog o'r cyffyrddiadau ysgafn sy'n nodweddu ei waith: dyn â hiwmor ffraeth ydoedd, a welodd ochr eironig popeth.
Aeth ymlaen i gyhoeddi pedair cyfrol bellach: Amryw Flawd (1966), Dydd y Farn (1969), Hirfelyn Tesog (1969) a Diwylliant Gwerin (1972).
Mae'n hen bryd i rywun paratoi detholiad o'i ysgrifau gorau, oblegid ysgrifennodd Gymraeg caboledig dros ben. Cyhoeddodd hefyd gasgliad dan y teitl Ysgrifau Llenyddol (1951), sy'n dangos ei ymwybod eang catholig, ei ddiddordeb byw yn y celfyddydau cain a'r un meddwl gwibiog a oedd yn gallu trafod pethau cartrefol gyda'r un angerdd ag a drafodai pethau esthetig.
Bu farw T. J. Morgan ym 1986. Fe'i coffheir, ymhlith eraill, gan ffynnon ym Mhontardawe.
Meic Stephens