Hynafiaethydd, hanesydd a beirniad llenyddol
Hynafiaethydd a beirniad llenyddol oedd Thomas Stephens, ac un o haneswyr praffaf ei oes. Gwladgarwr ydoedd: roedd iaith a llenyddiaeth Cymru yn agos iawn at ei galon.
Ond nid oedd yn fodlon dioddef rhagfarnau ac anwybodaeth ynglyn â thraddodiadau ei wlad.
Roedd e bob amser am ddatgelu'r gau a goleddir weithiau gan falchder gwladgarol.
Ef oedd y cyntaf i ddwyn dulliau gwyddonol i feirniadaeth lenyddol Gymreig, ac fe wnaeth fwy nag unrhyw Gymro arall yn ei gyfnod i godi safonau'r Eisteddfod Genedlaethol ac ennill iddi barch ymysg ysgolheigion.
Fferyllydd llengar
Brodor o Bontnedd-fechan yn Sir Forgannwg ydoedd ac fe'i ganwyd yno ym 1821, yn fab i grydd.
Ychydig o addysg ffurfiol a gafodd, ac eithrio Lladin, cyn cael ei brentisio gyda fferyllydd ym Merthyr Tudful pan oedd yn bedwar ar ddeg oed.
Gyda threigl amser, daeth yntau'n fferyllydd trwyddedig, gyda siop yn Stryd Fawr Merthyr, a pharhau yn y busnes am weddill ei oes.
Llwyddiant eisteddfodol
Tua 1840 dechreuodd ennill gwobrau mewn eisteddfodau am draethodau ar destunau hanesyddol a llenyddol.
Yn Eisteddfod Y Fenni ym 1848 derbyniodd Wobr Tywysog Cymru am draethawd ar 'Lenyddiaeth Cymru yn ystod y ddeuddegfed ganrif a'r canrifoedd a'i dilynai', a hwn a ymddangosodd o dan y teitl The Literature of the Kymry ym 1849, sef ei waith llenyddol pwysicaf; golygwyd argraffiad arall gan D. Silvan Evans ym 1876.
Pan gyhoeddwyd y llyfr hwn, cydnabuwyd gan ieithegwyr yng Nghymru a thu hwnt fod Thomas Stephens yn awdurdod ar hynafiaethau Cymru, ac yn arbennig ar waith y Gogynfeirdd.
Cosb am herio rhagfarn
Aeth ymlaen, o dan nawdd rhai o foneddigion yr ardal megis yr Arglwydd Aberdâr (Henry Austin Bruce), yr Aelod Seneddol dros Ferthyr Tudful o 1851 hyd 1868, a Syr Josiah John Guest, y meistr haearn, a'i wraig y Fonesig Charlotte Guest, i gyhoeddi Madoc: an Essay on the Discovery of America by Madoc ap Owen Gwynedd in the Twelfth Century (1893).
Drylliodd y llyfr hwn y gred hoff, ond cwbl ddi-sail, fod Cymry wedi cyrraedd America cyn Columbus.
Ystyriwyd y traethawd fel y cais gorau o lawer yn y gystadleuaeth yn yr Eisteddfod a gynhaliwyd yn Llangollen ym 1858 ond, er iddynt gael eu hargyhoeddi gan dadleuon yr awdur, yr oedd y beirniaid yn hwyrfrydig i ollwng yr hen gred wladgarol, a than arweiniad John Williams (Ab Ithel) penderfynwyd i atal y wobr; ni chystadleuodd Thomas Stephens yn yr Eisteddfod byth wedyn.
Dyn cyhoeddus
Serch hynny, parhaodd gyda'i astudiaeth lenyddol a ieithyddol ac, ar y cyd â Gweirydd ap Rhys (Robert John Pryse), ysgrifennodd Orgraff yr Iaith Gymraeg (1859) a chyfrannodd erthyglau i'r cylchgrawn Y Beirniad ac i Archaeologia Cambrensis.
Roedd Thomas Stephens hefyd yn ffigwr cyhoeddus pwysig ym Merthyr Tudful.
Noddodd nifer o gynlluniau er gwella darpariaethau addysg, lles ac iechyd y dref, lle oedd cyflwr y pethau hyn yn druenus dros ben.
Ymhlith ei gymwynasau yr oedd adeiladu Neuadd Ddirwest a llyfrgell gyhoeddus, ac iddo ef yn bennaf roedd y dref yn ddyledus am Fwrdd Iechyd a Chronfa Gymorth Gethin, er cynorthwyo teuluoedd a oedd wedi dioddef mewn damweiniau yn y pyllau glo. Fe'i penodwyd yn Uwch-gwnstabl Merthyr ym 1858 ac yn rheolwr The Merthyr Express ym 1864.
Yr oedd Thomas Stephens yn ŵr diwyd, hael, hynaws ac annibynol ei farn, ac yn Undodwr o argyhoeddiad.
Meic Stephens