BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Llên
Clogwyni Ynys Sgogwm
R. M. Lockley

Ganwyd: 1903

Magwyd: Yr Eglwys Newydd, Caerdydd


Naturiaethwr ac awdur

Naturiaethwr ac awdur toreithog oedd R. M. Lockley. Roedd yn arbennig o hoff o ynysoedd bach a threuliodd flynyddoedd lawer yn byw ac yn gweithio arnynt, yn gwylio ac yn cofnodi eu bywyd gwyllt ac yn ysgrifennu amdanynt.

Mae ei gyfrolau cynnar yn brin ac yn gasgladwy iawn.

Ymhlith pethau eraill, sefydlodd Gymdeithas Naturiaethwyr Gorllewin Cymru a ddaeth yn y man yn Ymddiriedolaeth Naturiaethwyr Gorllewin Cymru, ac fe oedd un o brif symbylwyr ei gylchgrawn, Nature in Wales.

Cefndir dinesig

Ganwyd Ronald Mathias Lockley ym 1903 yn yr Eglwys Newydd, un o'r maestrefi ar ochr ogleddol Caerdydd.

Disgrifiodd ei fachgendod a'i dynfa gyntaf tuag at fywyd gwyllt yn The Way to an Island (1941) a ail-ysgrifennwyd dan y teitl Myself When Young (1979).

Un o'i hoff bleserau yn fachgen oedd gwersylla yn y coed wrth yr hen gamlas Merthyr-Caerdydd sydd dal i'w weld ym Melin Gruffydd ger yr Eglwys Newydd.

Mae'r ardal erbyn hyn yn warchodfa natur, ac mae un o'r cuddfannau wedi ei enwi ar ôl Lockley.

O 1927 hyd 1949 bu'n ffermio ar Ynys Sgogwm ac yn Ninas, Sir Benfro, ac o 1954 hyd 1963 ymgartrefodd yn Orielton ger Doc Penfro. Disgrifiodd ei flynyddoedd yno yn y gyfrol Orielton: the Human and Natural History of a Welsh Manor (1977).

Hoffter am ynysoedd

Ei fwriad ar yr ynys oedd i fod yn hollol hunan-gynhaliol. Roedd e'n arloeswr ymhlith y rhai a oedd yn poeni am yr amgylchfyd a chwaraeodd ran amlwg yng ngwaith Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro ac fel protestiwr yn erbyn y burfa olew yn Aberdaugleddau.

Ymhlith ei lyfrau eraill mae Dream Island (1930), Island Days (1934) ac I Know an Island (1938).

Mae ei lyfr Shearwaters (1942) yn waith safonol ar yr adar o hyd.

Ei lyfr mwyaf adnabyddus, yn ddi-os, yw The Private Life of the Rabbit (1965), astudiaeth fanwl a gwyddonol, sydd yn cyfleu ei frwdfrydedd a'i ymdeimlad o ryfeddod, heb unrhyw awgrym o sentimentaleiddiwch nac anthropomorffiaeth (sy'n trin anifeiliad fel pobl).

Cafodd y llyfr hwn ddylanwad mawr ar ei gyfaill Richard Adams, awdur y nofel enwog Watership Down (1972).

Gwaith ffuglennol

Roedd R. M. Lockley yn awdur ffuglen hefyd. Ymhlith ei nofelau mae The Island Dweller (1932), The Sea's a Thief (1936) a Seal Woman (1974).

Gadawodd Cymru ym 1970 i fynd i fyw gyda'i ferched yn Seland Newydd, lle cyhoeddodd sawl llyfr am fywyd gwyllt yr hemisffer deheuol, gan gynnwys cyfrol arall o hunangofiant, The House above the Sea (1980), Voyage through the Antarctic (gyda Richard Adams, 1982) a Flight of the Storm Petrel (1983).

Bu farw yn Seland Newydd yn 2000.

Meic Stephens


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy