Bardd a nofelydd
Bardd a nofelydd oedd Rhydwen Williams, un o'r llenorion mwyaf lliwgar a hoffus a gynhyrchwyd gan gwm Rhondda erioed. Os yw hi'n wir ei fod yn afradlon gyda'i dalentau, mefais â'i arian, dyfal fu ei ymdrechion i ddisgrifio ei brofiadau amryfal mewn barddoniaeth a rhyddiaith hyd eithaf ei alluoedd.
Ganwyd ef yn Y Pentre, Cwm Rhondda, ym 1916, a'i fagu yno mewn cartref a chapel Cymraeg.
Ond symudodd ei deulu i Gaer ar ei bymthegfed pen blwydd, a chafodd y diwreiddio hyn effaith andwyol ar ei lencyndod.
Fe drodd yn dipyn o rebel, gan weithio mewn siop a swyddfa cyn mynd i Golegau Prifysgol Cymru yn Abertawe a Bangor.
Gwrthwynebydd cydwybodol
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd bu'n wrthwynebydd ar dir Cenedlaetholdeb Cymreig ac aeth i weithio mewn uned ambiwlans.
Wedi'r rhyfel, dychwelodd i'r Rhondda a mynd yn weinidog gyda'r Bedyddwyr yn Ynys-hir, lle daeth yn gyfaill i J. Kitchener Davies ac yn aelod o Gylch Cadwgan.
Ymddiswyddodd o'r weinidogaeth pan ymunodd â Theledu Granada lle cafodd gyfle i arddel ei ddoniau fel awdur ac actor.
Ennill y Goron
Daeth Rhydwen Williams i fri fel bardd pan ennillodd y Goron yn Eisteddfod 1946 gyda'r awdl 'Yr Arloeswr' (sef J. Kitchener Davies), camp a gyflawnodd drachefn ym 1964 gyda 'Ffynhonnau'.
Aeth ymlaen i gyhoeddi saith cyfrol o farddoniaeth: Barddoniaeth (1964), Y Ffynhonnau (1970), Y Chwyldro Gwyrdd (1972), Ystlumod (1977), Dei Gratia (1984), Ys Gwn I (1986) a Pedwarawd (1986); casglwyd ei holl gerddi yn y gyfrol swmpus Barddoniaeth Rhydwen Williams 1941-1991 (1991).
Nofelydd toreithiog
Fel nofelydd roedd yn llawn mor gynhyrchiol, er nad yw ei nofelau wedi ennill llawer o glod gan y beirniaid.
Maent yn cynnwys Y Briodas (1969), Y Siôl Wen (1970) a Dyddiau Dyn (1973), sy'n ymgais i gofnodi hanes ei deulu yn y Rhondda a hanes y cwm ei hun: dyma ei ryddiaith fwyaf llwydddiannus, yn ddi-os.
Cyhoeddodd hefyd Breuddwyd Rhonabwy Jones (1972) sy'n dychanu Gorsedd y Beirdd, Apolo (1975) sy'n cael hwyl ar draul byd y teledu, Amser i Wylo (1986) sy'n adrodd hanes y danchwa yn Senghenydd, a Liwsi Regina (1988) a ennillodd iddo Wobr Daniel Owen.
Golygydd a storïwr
O 1981 hyd 1986 bu Rhydwen Williams yn olygydd y cylchgrawn Barn.
Bu farw yn Aberdâr ym 1997.
Roedd Rhydwen yn gwmni da dros ben ac yn hoff iawn o adrodd hanesion am y Cymry enwog a adnabyddai - yn eu plith, Richard Burton ac Emlyn Williams.
Roedd ganddo lu o gyfeillion a oedd yn driw iddo trwy gydol helbulon ei oes, oherwydd eu bod yn ei edmygu ac yn ei hoffi ar gyfrif ei bersonoliaeth diymhongar, twymgalon a hael.
Meic Stephens.