Meddyliwr ac awdur sosialaidd
Un o feddylwyr a haneswyr cymdeithasol praffaf y Chwith Brydeinig oedd Raymond Williams. Cyfrannodd yn helaeth i'n dealltwriaeth o ddatblygiad diwylliant poblogaidd yn ystod yr ugeinfed ganrif gyda'i bwyslais ar ddylanwad y teledu a'r sinema a chyda'i osodiadau treiddgar megis 'Cyffredin yw diwylliant - dyna ein man cychwyn'.
Cadwodd ar yr adain chwith trwy gydol ei yrfa academaidd ond erbyn y chwe degau, ac yntau wedi ail-ddarganfod ei wreiddiau yng Nghymru, dangosodd gydymdeimlad cywir â Phlaid Cymru.
Nid oedd ei Gymreictod yn rhywbeth hawdd a sentimental ond argyhoeddiad wedi ei seilio yn gadarn ar syniadaeth oedd yn llym a threiddgar.
Gwreiddiau yng Ngwent
Ganwyd ef yn Y Pandy, pentref bach yn Sir Fynwy yn agos iawn at y ffin â Lloegr.
Roedd ei dad yn gweithio ar y rheiffordd ac fe dyfodd lan i werthfawrogi cadernid y dosbarth gweithiol yn ystod y tri degau.
Wedi gadael Ysgol Ramadeg y Brenin Harri VII yn Y Fenni, aeth i Goleg y Drindod, Caer-grawnt, ym 1939, ond torrwyd ar ei amser yno gan wasanaeth, milwrol - cymerodd ran yn y glanio yng Ngogledd Ffrainc ym 1944 a'r cyrchoedd yn Arnhem.
Ar ôl y rhyfel dychwelodd i Gaer-grawnt ac, yn y man, fe'i penodwyd yn diwtor mewn efrydiau allannol ym Mhrifysgol Rhydychen. Ym 1974 daeth yn Athro Drama yng Nghaer-grawnt.
Hanesydd diwylliannol
Daeth i amlygrwydd fel hanesydd diwylliant pan gyhoeddwyd ei lyfrau Culture and Society (1958) a The Long Revolution (1966).
Ar yr un pryd chwaraeodd ran amlwg yng ngweithgraeddau'r Chwith Newydd ym Mhrydain, er iddo adael y Blaid Lafur ym 1966.
Mae'r elfen wleidyddol yn gref iawn yn ei holl waith llenyddol.
Yn ogystal â'r cyfryngau torfol fel cyfrwng i ddiwylliant poblogaidd, cymerodd Raymond Williams ddiddordeb byw a chynhwysfawr yn y nofel, y ddrama, yr iaith lafar, addysg ac arferion hamdden y werin bobl.
Parhaodd i roi mynegiant i'r diddordebau hyn yn ei lyfrau Communications (1962) a Television: Technology and Cultural Form (1974).
Ymhlith ei lyfrau eraill, dros ugain i gyd, mae The Country and the City (1973).
Gweithiau safonol yn eu maes yw Marxism and Literature (1977), Keywords (1976), Towards 2000 (1983) a Writing in Society (1983).
Nofelydd
Ceir elfen hunangofiannol gref yn ei nofelau. Border Country (1960) yw'r un orau ym marn y lliaws, yn enwedig o safbwynt Cymreig, gan ei fod yn archwilio ei gefndir yn Y Pandy.
I raddau llai, mae The Volunteers (1978) a Loyalties (1985), ill dwy wedi'u lleoli yn rhannol yng Nghymru, yn taro'r un tant.
Ymddangosodd dwy ran o nofel uchelgeisiol ar ôl marwolaeth yr awdur ym 1988, sef The Beginning (1989) a The Eggs of the Eagle (1990), sy'n ymdrin yn ffuglenyddol â'i fro enedigol yn y cyfnod cyn-hanesyddol.
Mae detholiad o'i ysgrifau sy'n trafod cenedl, diwylliant a hunaniaeth y Cymry wedi ei olygu gan Daniel Williams o dan y teitl Who Speaks for Wales? (2003).
Ysgogi syniadau
Beirniadir Raymond Williams y dadansoddwr cymdeithasol am fod yn drymaidd ac yn or-haniaethol ar adegau.
Ond archwiliodd rychwant eang o bynciau dyrys dros flynyddoedd lawer gyda gwreiddioldeb a chysondeb.
Dylanwadodd ar amryw nad ydynt yn derbyn ei weledigaeth ac mae nifer wedi dod o hyd i syniadau a dehongliadau gwerthfawr yn ei waith.
Mae Cymdeithas Raymond Williams wedi'i sefydlu i hyrwyddo y mathau o ddadansoddi sy'n gysylltiedig â'i enw.
Ceir plac er cof amdano ar y tŷ bychan yn Y Pandy lle ganwyd ef.
Meic Stephens