Llenor, bardd ac ysgolhaig
Daw Mihangel Morgan yn wreiddiol o Aberdâr, Morgannwg. Mae'n llenor, yn fardd ac yn ysgolhaig. Mae'n byw yn Nhal-y-bont, Ceredigion ac yn gweithio yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Cymru, Aberystwyth.
Wedi ei hyfforddi fel ceinlythrennydd bu'n dysgu'r grefft i fyfyrwyr yng Nghymru a Lloegr am flynyddoedd cyn gwneud gradd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Pwnc ei ddoethuriaeth oedd agweddau ar waith John Gwilym Jones.
Fe'i penodwyd yn ddarlithydd yn Adran y Gymraeg a'i ddiddordeb academaidd yw llenyddiaeth ddiweddar ac ysgrifennu creadigol.
Mae'n awdur sy'n mwynhau chwarae triciau a throi ei storïau wyneb i waered. Mae hiwmor a rhyw ddiniweidrwydd yn ei gymeriadau a'i storïau ond pynciau tywyll a dychrynllyd sydd dan yr wyneb yn aml.
Mae nifer o'i gymeriadau yn rhai anrhywiol ac yn unlliw.
Ymysg ei hoff awduron mae Jose Saramago, Italo Calvino, Kafka, Proust, Wiliam Owen Roberts ac Owen Martell.
Awdur toreithiog
Mae Mihangel Morgan wedi cyhoeddi nifer o nofelau, cyfrolau o straeon byrion a cherddi, gan gynnwys:
Diflaniad Fy Fi (1988, Barddas)
Beth yw Rhif Ffôn Duw? (1991, Barddas)
Hen Lwybr a Storïau Eraill (1992, Gwasg Gomer)
Dirgel Ddyn (1993, Gwasg Gomer)
Saith Pechod Marwol (1993, Y Lolfa)
Te gyda'r Frenhines (1994, Gwasg Gomer)
Tair Ochr y Geiniog (1996, Gwasg Gomer)
Melog (1997, Gwasg Gomer)
Corff yn y Parc a Storïau Ffeithiol Eraill (1999, Gwasg Carreg Gwalch)
Dan Gadarn Goncrit (1999, Y Lolfa)
Cathod a Chãn (2000, Y Lolfa)
Creision Hud (2001, Y Lolfa)
Y Ddynes Ddirgel (2001, Y Lolfa)
Pan Oeddwn Fachgen (2002, Y Lolfa)
Melog (Cyfieithiad Saesneg gan Christopher Meredith,2005, Seren)
Digon o Fwydod (2005, Barddas)
Dyma rai pethau a ddywedwyd am waith Mihangel Morgan:
"Drylliwr delweddau yw Mihangel Morgan, fandal o lenor sy'n gwneud popeth y mae'r metanaratif cenedlaethol a llenyddol yn ei wahardd. Ef yw'r un sy'n tynnu llun mwstásh ar y Mona Lisa." John Rowlands.
"Pwysigrwydd Mihangel Morgan yw ei ymwybyddiaeth boenus o ddwy hunaniaeth leiafrifol ac ymylol: y dyn hoyw a Chymro Cymraeg o gefndir trefol. Mae'r lleiafrifaeth honno wedi peri iddo fod yn llenor moesegol eithriadol; y llenor mwyaf moesegol yn holl hanes y Gymraeg, efallai." Simon Brooks
"Dyna pam dwi mor hoff o Dirgel Ddyn oherwydd fod y prif gymeriad yn ymwybodol o'r ffaith fod ei wir hunan yn bodoli y tu allan iddo fo ei hun." Wiliam Owen Roberts
"Rhodd i'r iaith Gymraeg yw ieithwedd unigryw Mihangel Morgan." Jane Aaron