Arweinydd glowyr de Cymru, a nofelydd grymus
Roedd Lewis Jones yn Gomiwnydd, un o arweinwyr y glowyr yn y De yn ystod y 'tridegau; yn anarferol, roedd e hefyd yn nofelydd. Mae'r ddwy ffaith yma yn cael eu plethu yn ei ddwy nofel, Cwmardy (1937) a'i ddilyniant We Live (1939).
Propaganda Marcsaidd, meddai rhai, yw'r nofelau hyn, ac mae yna elfen o wirionedd yn y cyhuddiad.
Ond erbyn hyn mae'r beirniaid wedi dechrau gweld rhinweddau llenyddol ynddynt, ac yn wir, maent yn haeddu cael eu hystyried ar gyfrif eu portreadau lliwgar a'u golygfeydd cofiadwy.
Yn ddi-os, maent yn perthyn i lenyddiaeth adain-chwith Cymru rhwng y ddau ryfel byd.
Profiad yn y pyllau
Ganwyd Lewis Jones yng Nghwm Clydach, heb fod ymhell o Donypandy, ym 1897. Plentyn siawns ydoedd a magwyd ef gan ei fam-gu.
Aeth i weithio o dan ddaear yn Lofa'r Cambrian pan oedd ond yn ddeuddeng mlwydd oed, a phriodiodd bedair mlynedd yn ddiweddarach.
Ymunodd â'r Blaid Gomiwnyddol tra oedd yn fyfyriwr yn y Central Labour College yn Llundain rhwng 1923 a 1925, meithrinfa i genehedlaeth gyfan o Farcsiaid ifainc.
Dylanwadwyd ar ei feddylfryd gan led-syndicaliaeth The Miners' Next Step (1912), dogfen allweddol yn hanes y diwydiant glo yn y De.
Arweinydd streic
Fe'i etholwyd yn Gadeirydd Cyfrinfa'r Cambrian ym 1918.
Yn ystod Streic Gyffredinol 1926, trobwynt yn hanes y cymunedau glofaol, dechreuodd siarad yn gyhoeddus ar ran y glowyr, a dysgu'r grefft o gorddi ei wrandawyr.
Pan fu rhaid i'r glowyr ddychwelyd i'w gwaith ar ôl saith mis, collodd ef, ynghyd â llawer o ddynion eraill, ei swydd fel pwyswr am iddo wrthod gweithio gyda dynion oedd wedi bod yn flaclegs
Daeth i amlygrwydd fel trefnydd Mudiad Cenedlaethol y Gweithwyr Di-waith, ac fe arweinodd sawl gorymdaith newyn o Gwm Rhondda i Lundain a threfnu llu o brotestiadau yn erbyn y Prawf Moddion, gan gynnwys un enfawr ym 1935.
Cafodd ei ethol yn aelod o Bwyllgor Cymreig y Blaid ym 1931 a bu'n un o ddau aelod Comiwnyddol ar Gyngor Sir Forgannwg am dair mlynedd olaf ei oes.
Aeth i Fosco fel cynrychiolydd De Cymru, ond achosodd tipyn o stŵr am iddo wrthod sefyll er parch i Stalin na chymeradwyo ei areithiau.
Ei garcharu
Yr oedd yn siaradwr tanbaid: fe'i carcharwyd am areithiau a ystyriwyd gan yr heddlu o fod yn derfysglyd a denodd lu o ddilynwyr ymhlith y glowyr a gweithwyr eraill yn y diwydiannau trymion.
Cymerodd ran flaenllaw yn yr ymgyrch o blaid Gweriniaeth ddemocrataidd Sbaen, a bu farw o drawiad ar y galon ym 1939 wedi iddo annerch dros ddeg ar hugain o gyfarfodydd awyr-agored yn ystod yr wythnos y cwympodd Barcelona i Ffasgwyr Franco.
Rhyfedd, a dweud y lleiaf, yw'r ffaith fod Lewis Jones, yn ystod bywyd byr a phrysur tu hwnt, wedi llwyddo ysgrifennu dwy nofel o bwys.
Er gwaethaf eu gwendidau o safbwynt llenyddol, efallai, maent yn ddilys iawn ac yn parhau i fod yn eithriadol o rymus.
Ail gyhoeddwyd y ddwy o dan nawdd yr Academi Gymreig ym 1978.
Meic Stephens