Bardd a chymeriad lliwgar
Newyddiadurwr oedd John Tripp, un a weithiodd am rai blynyddoedd yn Llundain, lle oedd ar staff llysgenhadaeth Indonesia. Ni wyddys llawer amdano cyn iddo ddod i amlygrwydd yn ystod y 'chwe-degau fel aelod o grwp o Gymry oedd yn byw yn Llundain ar y pryd.
Wedi ei eni ym 1927, efallai ym Margoed, Sir Fynwy, fe'i magwyd yn Yr Eglwys Newydd, un o faesdrefi Caerdydd, yn fab i of, a chafodd ei addysg yn y ddinas.
Yn Llundain bu'n aelod o'r Guild of Welsh Writers, criw o feirdd ifainc yn bennaf a gyfrannai i'r cylchgrawn The London Welshman o dan olygyddiaeth y diweddar Tudor David.
Roedd Sally Roberts Jones, Robert Morgan a Bryn Griffiths ymhlith yr aelodau amlycaf.
Cymdeithasu oedd prif nod y grwp a chafwyd mwy nag un noson cofiadwy yng ghwmni ei gilydd.
Daeth y Guild, yn y man, o dan Adran Saesneg yr Academi Gymreig, ac yn ystod y degawd dilynol symudodd y rhan fwyaf o'i aelodau, John Tripp yn eu plith, yn ôl i Gymru.
Gwladgarwr di-Gymraeg
Nid oedd yn medru'r Gymraeg ac ni wnaeth unrhyw ymdrech i'w dysgu; serch hynny, roedd yn ystyried ei hun yn wlatgarwr - gydag argyhoeddiadau adain-chwith a heddychaidd.
Ymddangosodd ei gerddi cynnar yn y cylchgrawn Poetry Wales, lle ennillodd enw fel bardd a ganai ar themâu cenedlaethol.
Anodd barnu faint o genedlaetholwr oedd y bardd mewn gwirionedd, gan nad oedd yn boliticaidd yn yr ystyr arferol: aderyn y drycin ydoedd, ac nid oedd yn gallu bod yn aelod o unrhyw blaid politicaidd.
Eto i gyd, ysgrifennodd nifer o gerddi ar themâu hanesyddol a daliodd ysbryd gwlatgarol y 'chwe-degau i'r dim.
Llên-leidr
Cyhoeddodd Meic Stephens ddetholiad o'i gerddi gorau fel un o lyfrynnau Triskel, sef Diesel to Yesterday, ym 1966.
Ar yr un pryd, rhaid cofnodi ei duedd i len-ladrata: addasiadau o gerddi gan feirdd eraill yw rhai o'i gerddi mwyaf adnabyddus, megis 'Welcome to Wales'.
Aeth ymlaen i gyhoeddi chwe cyfrol arall o gerddi: The Loss of Ancestry (1969), The Province of Belief (1971), Bute Park (1971), The Inheritance File (1973), For King and Country (1980) a Passing Through (1984); llyfrynnau yw rhai o'r rhain yn hytrach na llyfrau.
Ymddangosodd detholiad o'i waith yn Penguin Modern Poets (1979) a'i Collected Poems ym 1978.
Golygydd ei gyfaill John Ormond ei Selected Poems a ddaeth o'r wasg ym 1989.
Poeni am gyflwr Cymru
Prif bynciau John Tripp oedd hanes Cymru a chyflwr ei wlad yn sgîl dirywiad y diwydiannau trymion, yn enwedig y pyllau glo.
Ymboenai'n ddwys am ei wreiddiau a'i dylwyth (hanai ei rieni o Gernyw), ac ysgrifennodd nifer o gerddi twymgalon i gyfeillion ac awduron Cymreig a Chymraeg.
Ond y peth a'i gorddai'n fwyaf oedd y fateroliaeth oedd wedi torri pobl Cymru, yn ei dyb ef, oddi wrth eu gorffennol eu hunain.
Roedd yn gallu defnyddio ieithwedd gyfoes a thrawiadol, gan orddweud yn fynych, i drafod yr hyn a'i diddorai fwyaf, sef y rhai a oedd unwaith yn fawr ac enwog ond sydd bellach wedi colli eu bri.
Edrychai arno ef ei hun fel bardd-sylwebydd ond gallai gydymdeimlo, digio a chwerthin hefyd.
Cymeriad lliwgar
Roedd yn ddarllenydd gwych o'i waith ei hun, a dyna paham mae'r Academi Gymreig wedi enwi gwobr blynyddol ar ei ôl ar gyfer beirdd sy'n gallu darllen eu gwaith yn gyhoeddus.
Cymeriad lliwgar oedd John Tripp, a dweud y lleiaf, yn enwedig yn hwyr y nos, un a gafodd ei dowlu m'as o fwy nag un adeilad, ac un y mae llawer o anecdotau'n cael eu adrodd amdano.
Ni ddaliai swydd o unrhyw fath wedi symud yn ôl i Gymru ym 1969, ond bu'n aelod o fwrdd golygyddol Planet o 1973 nes i'r cylchgrawn gael ei ddirwyn i ben dros dro ym 1979.
Bu farw John Tripp yn frawychus o annisgwyl ym 1986.
Ceir plac er cof amdano ar fainc ar gomin yr Eglwys Newydd, maesdref a ddychanwyd yn ddeifiol ganddo, a - diolch i'w gymar Jean Henderson, aelod Tori o'r cyngor lleol - mae heol yng Ngwaelod-y-Garth wedi ei enwi ar ei ôl.
Meic Stephens