Cyn löwr a ddaeth yn nofelydd poblogaidd
Awdur poblogaidd iawn yn ei dydd oedd Jack Jones. Nid oedd llawer o sglein llenyddol ar ei lyfrau, ond roedd yn gallu swyno'r darllenydd â'i storïau difyr a'i bersonoliaeth lliwgar. Ymgymerodd i olrhain hanes ei dref enedigol, sef Merthyr Tudful, a thwf y De fel un o brif ardaloedd diwydiannol gwledydd Prydain yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg a'r ugeinfed ganrif.
Llwyddodd yn rhyfeddol i adlewyrchu yn ei nofelau gymeriad arbennig y dosbarth gweithiol a'i hynt a'i helynt dros genhedlaethau lawer.
Nid oes cymaint â hynny o blot iddynt, efallai, ond mae'r naratif yn cario'r darllenydd ymlaen ar gyfrif cydymdeimlad yr awdur â'r cymeriadau sy'n siarad yn huawdl ac yn dioddef yn dawel trwyddynt draw.
Cefndir yn nhref yr haearn
Brodor o Ferthyr, yr hen dref haearn, oedd Jack Jones. Fe'i ganwyd, un o bymtheg o blant, i deulu tlawd iawn ym 1884, ac fe aeth i weithio dan ddaear yn ddeuddeg oed.
Ymunodd â'r Fyddin bum mlynedd yn ddiweddarach, gan wasanaethu yn Ne Affrica; cafodd ei anafu'n ddifrifol tra'n ymladd yng Ngwlad Belg.
Ond dyn cryf ei gorff a phenderfynol ei gymeriad ydoedd. Roedd yn siarad Cymraeg Merthyr yn atyniadol o hyderus ac roedd yn wlatgarwr pybyr.
Wedi dychwelyd i Gymru ar ôl y Rhyfel Fawr, daeth yn amlwg yng ngwleidyddiaeth y Chwith ac yn 1923, ac yntau'n aelod o'r Blaid Gomiwnyddol, fe'i etholwyd yn swyddog y glowyr dros Gwm Garw.
Gadawodd y swydd yn fuan wedyn ac ymuno â'r Blaid Lafur, ac yn eu tro, y Blaid Rhyddfrydol a Phlaid Newydd y ffasgydd Oswald Mosley.
Tua diwedd ei oes roedd yn hapus i ddangos cydymdeimlad ag amcanion Plaid Cymru.
Amryddawn
Roedd yn gallu troi ei law at unrhyw fath o waith a daliodd nifer o swyddi megis rheolwr sinema a labrwr.
Roedd yn hoff iawn o fynychu'r Monico, y sinema yn Rhiwbeina, Caerdydd, lle roedd yn byw am flynyddoedd lawer: 'the last outpost of culture in this suburb', arferai ddweud am y Monico gydag ei arabedd nodweddiadol.
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd ymwelodd â'r Amerig ar ran y Llywodraeth Brydeinig ac eto ym 1949 ar ran Mudiad Ailarfogi Moesol.
Dechreodd ysgrifennu yn ystod cyfnod o ddiweithdra ym 1928. Ymhlith ei nofelau gorau ceir Rhondda Roundabout (1934), Black Parade (1935), Bidden to the Feast (1938), Off to Philadelphia in the Morning (1947), Some Trust in Chariots (1948) a River out of Eden (1951).
Dilyn hanes teulu dros sawl cenhedlaeth oedd dull Jack Jones o lunio nofel: teulu o Ferthyr yn Bidden to the Feast, un o Bontypridd yn Some Trust in Chariots ac un o Gaerdydd yn River out of Eden.
Mae Off to Philadelphia in the Morning wedi ei seilio ar hanes Joseph Parry, y cerddor o Ferthyr a chyfansoddwr y gân enwog 'Myfanwy'.
Hunangofiant
Ysgrifennodd Jack Jones dair cyfrol o'i hunangofiant hefyd, ac yn y llyfrau hyn mae ei gymeriad dewr ac hoffus yn amlygu eu hunan ar ei orau: Unfinished Journey (1937), Me and Mine (1946) a Give me Back my Heart (1950).
Mae'n druenus nad ydynt mewn print bellach ond mae'r chwilotwr mewn siopau llyfrau ail law yn dod o hyd iddynt yn fynych; y copïau prin yw'r rheini heb lofnod yr awdur, oherwydd roedd yn hoff iawn o dorri ryw gyfarchiad cynnes ar wyneb-dudalen ei lyfrau.
Dyn a wynebai gyda dewrder anghyffredin y caledi a'r gofidiau a ddaeth i'w ran oedd Jack Jones.
Mae ei nofelau gorau'n fywiog iawn, yn llawn o bathos ac hiwmor ffraeth, gydag amrywiaeth o olygfeydd ac yn byrlymu â llu o gymeriadau rhyfedd ac chofiadwy.
Bu farw'r awdur ym 1970; gwelir plac er cof amdano yn llyfrgell Rhiwbeina, lle roedd yn ymwelydd cyson a brwd.
Meic Stephens