Ysgolhaig, a llenor amryddawn a hynod gynhyrchiol
Ysgolhaig, nofelydd, awdur storïau byrion, golygydd, cyfieithydd a beirniad - rhagorai Gwyn Jones ym mhob maes roedd e wedi ei ddewis fel cyfrwng i'w dalent llenyddol a'i egni anhygoel. Am hanner canrif efe oedd un o'n prif lenorion yn yr iaith Saesneg.
Iddo ef, a'i gyd-gyfieithydd Thomas Jones, Athro'r Gymraeg yng Ngholeg y Brifysgol, Aberystwyth, rydym yn ddyledus am y fersiwn Saesneg gorau o'r Mabinogion a gafwyd erioed.
Cyhoeddwyd y gwaith pwysig hwn gan y Golden Cockerel Press ym 1948 a chan Everyman's Library yn y flwyddyn canlynol.
Enillodd glod nid yn unig gan ysgolheigion Cymraeg ond hefyd gan lu o ddarllenwyr tu hwnt i Gymru a ddarllenai gampwaith ein llên am y tro cyntaf.
Prif rinwedd y cyfieithiad yw ei ddarluniad cynnil o ysbryd y testun gwreiddiol, diolch i Thomas Jones, a cheinder sicr ei arddull a oedd mor nodweddiadol o Gwyn Jones.
Magwraeth yn ardal y glo
Ganwyd Gwyn Jones yn Nhredegar Newydd yn Sir Fynwy ym 1907, yn fab i lowr a bydwraig. Cafodd ei addysg yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd, ac aeth i Wigan fel athro Saesneg ifanc ym 1929.
Dychwelodd i Gymru'n fuan wedyn fel darlithydd yn Adran Saesneg ei hen Goleg ac ym 1940 fe'i penodwyd yn Athro Saesneg yng Ngholeg y Brifysgol, Aberystwyth, lle arhosodd tan 1964.
Aeth wedyn i Gaerdydd i ddal y Gadair Saesneg yno nes iddo ymddeol ym 1975.
Cyhoeddod weithiau ysgolheigaidd ar chwedlau Ynys yr Iâ tra oedd yn ddyn ifanc, yn ogystal â'r nofelau Richard Savage (1935), Times Like These (1936), The Nine Days' Wonder (1937) ac A Garland of Bays (1938). Darlunia'r ail nofel hanes teulu yng nghymoedd y De yn ystod Dirwasgiad y tridegau.
Ym 1939 sefydlodd Gwyn Jones The Welsh Review, llwyfan i genhedlaeth gyfan o lenorion Cymru yn yr iaith Saesneg.
Golygydd dylanwadol
Un o'i brif amcanion fel golygydd y cylchgrawn dylanwadol hwn oedd cydnabod arwyddocad parhaol yr iaith Gymraeg a'i ddiwylliant.
Ymhlith ei gyfranwyr oedd bron pob un o'r llenorion a ddaeth i amlygrwydd rhwng y ddau rhyfel byd, megis Caradoc Evans ac Alun Lewis.
Bu'n fforwm gwerthfawr ar gyfer trafodaethau cyhoeddus ar faterion Cymru ar adeg pan nad oedd y fath gyfrwng yn bod yn yr iaith Saesneg.
Nid oedd pall ar gynnyrch creadigol Gwyn Jones: daeth ei gasgliad o storïau, The Still Waters, allan ym 1948, ei nofelau The Flowers beneath the Scythe ym 1952 a The Walk Home ym 1962, a dau gasgliad arall o storïau, The Buttercup Field ym 1945 a Shepherd's Hey ym 1953.
Ymddangosodd ei Selected Short Stories ym 1974 a'i Collected Short Stories ym 1997.
Diddordebau Llychlynaidd
Ymhlith ei lu o lyfrau eraill rhaid crybwyll A Prospect of Wales (1948), The Norse Atlantic Saga (1964), a'i gampwaith A History of the Vikings (1968), un o'r llyfrau mwyaf meistrolgar ar y pwnc; am y gwaith hwn yn bennaf dyfarnwyd iddo Urdd yr Hebog gan Arlywydd Gwlad yr Iâ ym 1963, a Chroes yr Urdd, anrhydedd uchaf y wlad honno, ym 1987.
Golygodd nifer o antholegau safonol, yn eu plith Welsh Short Stories (1941 a 1956), Twenty-five Welsh Short Stories (gydag Islwyn Ffowc Elis, 1971), a The Oxford Book of Welsh Verse in English (1977).
Ei brif ddarlithoedd ar lenyddiaeth Saesneg Cymru oedd The First Forty Years (1957) a Being a Belonging (1977).Ar ôl marwolaeth ei wraig gyntaf, priododd Gwyn Jones â gweddw ei gyd-weithiwr Thomas Jones, a gwnaethant eu cartref yn Aberystwyth.
Cyflwynwyd dau gasgliad sylweddol o'i lyfrau ysgolheigaidd i Lyfrgell Genedlaethol Cymru.
Dyn cryf ei gorff a phendant ei farn oedd Gwyn Jones, un a achosodd fraw yng nghalonau ei fyfyrwyr, ond un a oedd yn hael ac yn garedig i lu o'i gyd-awduron.
Nid oedd yn gallu dioddef diogi a disgwyliai gan bawb yr un egni a dyfalbarhad a oedd ganddo mewn llawn mesur. Bu farw ym 1999.
Meic Stephens