Barddoniaeth ac Arlunio
Llenor ac artist o'r radd flaenaf oedd David Jones. Er ei fod wedi ei eni yn Brockley, swydd Gaint, fe'i ystyriodd ei hun yn Gymro, gan fod ei dad yn hannu o Dreffynnon, Sir y Fflint.
Ni chafodd fawr o addysg ffurfiol, ond dechreuodd dynnu lluniau tra oedd yn blentyn, ac fe aeth yn y man i Ysgolion Celf Camberwell a Westminster.
Y prif ddylanwadau arno oedd y Rhyfel Byd Cyntaf - gwasanaethodd fel preifat gyda'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig ar y Ffrynt Orllewinol - a'r ffydd Gatholig: derbyniwyd ef i Eglwys Rufain ym 1921. Yn yr un flwyddyn ymunodd â chymuned yr artist o Sais Eric Gill yn Ditchley, swydd Sussex.
Pwysigrwydd ei Gymreictod
Yr unig dro iddo fyw yng Nghymru oedd y cyfnod a dreuliodd yng Nghapel-y-ffin yn y Mynydd Du, Sir Frycheiniog, yn ystod y dau ddegau. Yno tyfodd ei ymwybyddiaeth gref o fod yn Gymro a'i werthfawrogiad o dirwedd a diwylliant Cymru.
Ar ôl yr Ail Ryfel Byd ymgartrefodd yn Harrow-on-the Hill yn Llundain, lle bu'n byw mewn llety, wedi ei amgylchu gan ei ddarluniadau a'i lyfrau.
Nid oedd ei iechyd yn caniatau iddo adael y llety: roedd ei brofiadau yn y ffosydd wedi cael effaith andwyol ar ei nerfau.
Gohebu'n eang
Ni phriododd, ond roedd ganddo gylch o gyfeillion, gan gynnwys nifer yng Nghymru, a chadwodd mewn cysylltiad â nhw trwy ohebiaeth.
Roedd yn adnabyddus fel arlunydd dyfrlliw, ysgythru pren a chein-lythrennau cyn cyhoeddi ei waith ysgrifenedig cyntaf, In Parenthesis (1937), un o'r gerddi mwyaf am ryfel yn yr iaith Saesneg. Defnyddiodd yn y campwaith hwn elfennau hanesyddol, mytholegol, crefyddol a llenyddol, Saesneg a Chymraeg (gan gynnwys 'Y Gododdin') i weu darlun o Ynys Prydain ar hyd y canrifoedd.
Darlunir yr arwgerdd The Anathémata (1952) ar gynfas hyd yn oed fwy eang: gwneuthuriad 'Mater Prydain' yw ei destun, yn ddaearegol ac yn ddiwylliannol, ac mae'n defnyddio gweddillion Celtaidd, Rhufeinig a Thiwtonaidd i bortreadu Llundain a Chymru - y ddau begwn yn nychymyg David Jones.
Credai W. H. Auden mai hon yw'r gerdd hir orau a ysgrifennwyd yn Saesneg yn yr ugeinfed ganrif. Boed hynny fel y bo, fe ystyriwyd David Jones yn ffigwr llenyddol llawn mor bwysig ag awduron fel William Blake, G.M.Hopkins, James Joyce ac Ezra Pound.
Statws uchel
Ysgrifennodd nifer o lyfrau eraill sy'n cadarnhau ei staws llenyddol: Epoch and Artist (1959), The Sleeping Lord (1974) a The Dying Gaul (1978); cyhoeddwyd nifer sylweddol o lawysgrifau wedi marwolaeth yr awdur ym1974.
Y mae ei lythyrau at ffrindiau megis Saunders Lewis, Vernon Watkins ac Aneirin Talfan Davies yn arbennig o ddiddorol i'r darllenydd Cymraeg.
Roedd gan y Cymro Llundain hwn farn tanbaid ynglŷn â Seisnigeiddio Cymru ac mae nifer o'i datganiadau i'r perwyl hwn yn cael eu dyfynnu o dro i dro.
Nid hawdd yw gwaith modernaidd David Jones, ond mae wastad yn rhoi boddhad i'r sawl sy'n ymdrechu i'w ddeall. Mae'r llu o gyfeiriadau a'i defnydd o ffynhonellau hyddysg yn gyfoethog ar y naw ac yn hanfodol i ddealltwriaeth o'i gelfyddyd.
Y ffydd Gatholig sydd yn ganolog i'w weledigaeth a'i ymwybyddiaeth o argyfwng diwylliant gorllewin Ewrop mewn oes dechnolegol, a Chymru'n rhan annatod ohono, a swyddogaeth homo faber, yr artist creadigol, sy'n wynebu'r argyfwng ar ran ei gyd-dyn.
Meic Stephens