Un o lenorion pwysicaf ei gyfnod, a ffigwr cwlt hyd heddiw.
Roedd Arthur Machen yn awdur a ennillodd fri mawr ymhlith llenorion Saesneg pwysicaf ei gyfnod ac mae ganddo ei edmygwyr o hyd.Adnabyddai bawb yng nghylchoedd llenyddol Llundain, gan ei fod yn newyddiadurwr ac actor yn ogystal â nofelydd llwyddiannus.
Arbenigodd mewn storïau am y goruwchnaturiol a'r gothig, themâu sy'n cael eu trin byth a beunydd mewn llyfrau fel The Great God Pan (1894), The House of Souls (1906) a The Hill of Dreams (1907).
Mae The Terror (1917) yn rhagweld storïau arswyd, lled-wyddonol, am anifeiliaid yn cynllwynio i ddinistrio dynolryw.
Pwysigrwydd gwreiddiau
Er ei fod yn cael ei gyfrif yn aml fel awdur Seisnig, hannai Arthur Machen o Went ac roedd yn falch iawn o'i wreiddiau, gan briodoli i'r faith ei fod yn perthyn i'r sir bron popeth yr oedd wedi ei gyflawni fel llenor.
Ganwyd ef yng Nghaerllion, Sir Fynwy, ym 1863, yn fab i glerigwr tlawd. Ei enw oedd Arthur Machen-Jones - daeth y Machen o enw morwynol ei Sgotes o fam - ac yn ddiweddarach fe ollyngodd y Jones.
Nid oedd ei dad yn gallu talu am addysg uwch iddo, ac felly fe aeth i Lundain i hyfforddi fel newyddiadurwr.
Ymhlith y prif ddylanwadau arno oedd tirwedd ei annwyl Went, darllen Edgar Allan Poe a barddoniaeth Henry Vaughan, a'i ddiddordeb yn y chwedlau Arthuraidd, stori'r Greal, a chrefyddau Celtaidd a chyn-Gristnogol.
Wedi marwolaeth ei wraig gyntaf ym 1899, aeth yn actor proffesiynol gyda chwmni teithiol a phriodi Purefoy Huddleston, actores, ym 1903. Ymunodd â staff y London Evening News ym 1909, ac yn y papur hwnnw yr ymddangosodd ei ysgrifau llenyddol i gyd rhwng 1910 a 1921.
'Angylion Mons'
Ymhlith ei storïau gorau mae 'The Shining Pyramid', campwaith o stori arswyd.
Ond fe ddaeth i amlygrwydd ehangach gyda 'The Bowmen', a ymddangosodd yn y papur ym 1914.
Disgrifia'r stori sut y gwelwyd rhith o fyddin yn ymladd wrth ochr y Prydeinwyr yn ffosydd Mons - 'llinell hir o ffurfiau gyda rhyw ddisgleirdeb o'u amgylch - a dywedwyd i'w saethau ladd Almaenwyr heb adael archoll gweladwy.
O fewn wythnos newidwyd y saethyddion yn nychymyg y cyhoedd i 'Angylion Mons' ac, er mawr ofid i Arthur Machen, aethpwyd i gredu bod yr hyn yr oedd wedi ei ysgrifennu o'i ddychymyg yn ffaith, yn arbennig gan rai clerigwyr a awgrymodd ei fod yn anwlatgarol i'w amau.
Cyfrannodd y stori hon at enwogrwydd Arthur Machen yn America hefyd, lle daeth yn ffigwr cwlt.
Ysgrifennodd ddwy gyfrol o hunangofiant, sef Far Off Things (1922) a Things Far and Near (1923), lle canmolodd ei fro enedigol, yn enwedig Twyn Barlwm, y bryn lle trigai, yn ôl y chwedl leol, y tylwyth teg.
Ni wnaeth fawr o arian o'i nofelau er iddo dderbyn pensiwn y Rhestr Sifil ym 1932; haelioni ei gyfeillion a'i cynhaliodd yn ystod ei flynyddoedd olaf.
Bu farw ym 1947. Gwelir plac ar rhif 33 yn y Stryd Fawr yng Nghaerllion, y tŷ lle ganwyd yr awdur. Denir llu o'i edmygwyr i fod yn aelodau o Gymdeithas Arthur Machen
Meic Stephens