Nofelydd, storïwr a sgriptiwr
Am y rhan fwyaf o'i oes bu Alun Richards yn un o'r adar prin hynny a lwyddai fyw fel awdur amser-llawn, gyda dim ond ychydig o incwm o ddysgu a darlledu i'w gynnal.Gwnaeth hyn am flynyddoedd lawer ar ôl cefnu ar ei waith fel swyddog prawf a darlithydd mewn addysg bellach yn ystod y 'saithdegau.
O'r herwydd ysgrifennodd gryn dipyn o ryddiaith, gan gynnwys storïau byrion a nofelau, a dramâu ar gyfer y llwyfan, radio a theledu.
Ar yr un pryd, roedd yn gyndyn iawn i ymuno ag unrhyw garfan o awduron neu i wastraffu ei amser yn eu plith: ei unig diddordebau ar wahân i lenydda oedd hwylio a rygbi.
Fe'i ganwyd ym Mhontypridd ym 1929, a sugnodd ysbrydoliaeth di-ben-draw o'r dref a'i phobol.
Cafodd ei fagu gan ei famgu a'i dadcu, ac ni ddatgelwyd wrtho erioed pwy oedd ei dad, er bod hwnnw'n byw yn y dref.
Disgrifiodd ei brofiad o fod yn 'blentyn di-dad' yn ei hunangofiant meistrolgar Days of Absence (1986), un o'r llyfrau gorau o'i fath a gyhoeddwyd erioed gan awdur Cymreig.
Oherwydd amgylchiadau anarferol ei fagwraeth, dysgodd i fod yn 'anweladwy', gan wrando a sylwi ar bopeth a oedd yn digwydd o'i gwmpas - hyfforddiant gwych i'r egin-lenor.
Hwylio a llenydda
Aeth o Ysgol y Bechgyn, Pontypridd, i Goleg Addysg Caerllion yn Sir Fynwy ac i Goleg y Brifysgol, Caerdydd. Ym 1949 ymunodd â'r Llynges a gwasanaethodd am dair blynedd.
Roedd yn hoff iawn o'r môr, ac ymhlith y llyfrau a olygwyd ganddo oedd Against the Waves (1978), antholeg o storïau.
Ysgrifennodd yn ogystal nifer helaeth o sgriptiau ar gyfer y gyfres deledu boblogaidd The Onedin Line ac mae ei nofel Ennal's Point wedi ei osod oddi ar arfordir Cymru.
Un o'i hoff bethau oedd hwylio yn ei gwch ei hun ym Mae Abertawe.
Roedd yn awdur pum nofel arall: The Elephant You Gave Me (1963), The Home Patch (1966), A Woman of Experience (1969), Home to an Empty House (1973) a Barque Whisper (1979).
Darlunio'r Cymoedd
Ennillodd y gweithiau hyn enw i Alun Richards fel prif groniclydd bywyd cymoedd y De yn ystod y 'chwedegau, ar adeg pan oedd y dosbarth gweithiol yn dechrau gwylio teledu, mynd ar wyliau tramor a mwynhau buchedd eithaf hedonistaidd, er gwaethaf y dirywio yn y diwydiannau trymion.
Maent yn llawn o gyfeiriadau at briodasau sy'n torri lawr ac yn dychanu'r dosbarth canol a oedd yn dechrau ymddangos mewn dinasoedd fel Caerdydd ac Abertawe.
Er nad oedd yn greadur gwleidyddol, dosbarth cymdeithasol oedd wrth wraidd ei agwedd tuag at fywyd ac mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn ei waith.
Ffraethineb
Yn ei storïau byrion roedd Alun Richards yn delio â'r un ardal a'r un bobol, ond hyd yn oed yn fwy deifiol o ddychanol.
Cyhoeddodd ddau gasgliad, sef Dai Country (1973) a The Former Miss Merthyr Tydfil (1976); ymddangosodd ei Selected Stories ym 1995 a cheir detholiad yn Scandalous Thoughts (2005) yng nghyfres y Corgi.
Mae teitl y llyfr olaf yn dod o'r stori 'The Scandalous Thoughts of Elmyra Mouth', stori ddoniol dros ben ond yn llawn cydymdeimlad am ferch sydd yn gwrthod symud o Bontypridd er mwyn hybu gyrfa ei gŵr gyda'r BBC yng Nghaerdydd; mae'r stori yn gorffen gyda geiriau ffraeth Elmyra: 'If you was from the valleys, stay in the valleys,' a dyna ddiwedd y mater.
Drwgdybio'r Gymraeg
Golygodd Alun Richards gasgliad safonol o storïau byrion gan awduron o Gymru, sef The Penguin Book of Welsh Short Stories (1976 a 1993), yn ogystal â chofiant Carwyn James, Cymro o fath tra gwahanol iddo ond ffrind mynwesol er hynny.
Nid oedd Alun Richards yn rhy hoff o'r iaith Gymraeg a mynegodd ei ddrwgdybiaeth ohoni'n huawdl ar bob achlysur: ni allai weld sut oedd yr iaith yn berthnasol i'r ran fwyaf o bobl Cymru a siaradai Saesneg yn unig, ac nid oedd yn gallu cytuno â pholisïau cyrff cyhoeddus, megis y BBC, a gadwai swyddi (yn ei farn ef) ar gyfer Cymry Cymraeg yn unig.
Bu farw Alun Richards yn frawychus o sydyn yn 2004.
Meic Stephens