Bardd, llenor rhyddiaith a beirniad llenyddol
Braidd yn anerferol ymhlith llenorion Cymraeg oedd Alun Llywelyn-Williams, ar gyfrif ei gefndir dosbarth-canol yn bennaf. Bardd craff, cynnil, athronyddol, eang ei orwelion ydoedd, un a ymboenai'n ddwys am wareiddiad gorllewin Ewrop ond mewn modd tra gwahanol i Saunders Lewis.
Nid yw ei gerddi'n niferus ond maent wedi ennill parch ymhlith y beirniaid fel drych i feddylfryd sensitif a gwâr, a'u gwneuthuriad crefftus.
Fe'i ganwyd yng Nghaerdydd ym 1913 yn fab i feddyg, a chafodd ei addysg yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd, lle graddiodd mewn Cymraeg a Hanes.
Tra'n efrydiwr, ef oedd golygydd y cylchgrawn byr-hoedlog Tir Newydd.
Ei brif safbwynt golygyddol oedd fod cylchgronau Cymraeg y cyfnod ( Y Llenor yn bennaf) yn rhy wledig eu naws ac yn rhy gul eu maes.
Ei fwriad oedd adlewyrchu syniadau adain-chwith, dinesig am ddiwylliant a chelfyddydau Cymru ymhlith deallusion Cymreig - uchelgais dewr a wireddwyd ond yn rhannol yn ei farn ef.
Profiad rhyfel
Wedi cyfnod o fod yn gyhoeddwr a threfnydd sgyrsiau radio gyda'r BBC, fe'i penodwyd i staff y Llyfrgell Genedlaethol ym 1936.
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd bu'n gwasanaethu gyda'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, gan dderbyn clwyfau difrifol mewn brwydr yn fforestydd yr Ardennes.
Ym 1948 aeth i Goleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, i fod yn Gyfarwyddwr Efrydiau Allannol a daliodd gadair yno o 1975 hyd nes iddo ymddeol.
Ei waith llenyddol
Mae ei gyfrol gyntaf, Cerddi 1934-42 (1944), yn adlewyrchu ei brofiadau o fod yn filwr, ond mae'n cyfeirio hefyd, mewn modd eithaf personol, at argyfwng economaidd a chymdeithasol blynyddoedd y Dirwasgiad.
Fel ambell i fardd Saesneg o gefndir dosbarth-canol megis W. H. Auden, ochrodd Alun Llywelyn-Williams â'r gweithwyr, yn enwedig ei gyd-wladwyr yn y De.
Casgliad mwy sylweddol yw Pont y Caniedydd (1956), ond yr un yw ei themau: barbareiddiwch cynyddol y byd cyfoes a swyddogaeth yr artist yn wyneb yr argyfwng.
Ychwanegodd eto at ei statws fel bardd meddylgar gyda Golau yn y Gwyll (1979).
Awdur rhyddiaith
Ysgrifennodd ryddiaith gaboledig dros ben yn ei gyfrol o hunangofiant, sef Gwanwyn yn y Ddinas (1975).
Mae'r llyfr hwn yn croniclo ei fagwriaeth freintiedig yng Nghaerdydd ac yn arddangos ei ymwybyddiaeth ddinesig, soffistigedig, oleuedig - ac mae hynny'n ei osod ymhlith yr ychydig feirdd Cymraeg o'r fath.
Cyhoeddodd hefyd dwy gyfrol o feirniadaeth llenyddol: Y Nos, Y Niwl a'r Ynys (1960), sef astudiaeth o'r Rhamantwyr Cymraeg o 1890 hyd 1914, a Nes na'r Hanesydd? (1968).
Ef oedd awdur dwy gyfrol ardderchog yn y gyfres Crwydro Cymru, sef Crwydro Arfon (1959) a Crwydro Brycheiniog.
Cyhoeddwyd ei ddarlith radio o dan y teitl Y Llenor a'i Gymdeithas (1963)
Bu farw Alun Llywelyn-Williams ym Mangor ym 1988.
Meic Stephens