Bardd addawol o'r Cymoedd a fu farw'n gynnar
Pan fu farw Alun Lewis ym 1944, barn y beirniaid llenyddol oedd bod yr iaith Saesneg, a Chymru'n enwedig, wedi colli llenor o bwys, un nad oedd wedi gwireddu ei lawn botensial ond oedd wedi cyflawni cryn dipyn yn ystod ei yrfa fer.Cyhoeddodd ddwy gyfrol yn unig o gerddi ac un o storïau byrion, ond roedd yn uchel ei fri am ei waith crefftus a llawn cydymdeimlad â'r werin bobl.
Canmolwyd ef am ei integriti fel dyn ac awdur, ei ddifrifoldeb a'i ddidwylledd; dagrau pethau oedd ei fod e wedi colli ei fywyd ym mlodau'i ddyddiau.
Cefndir yn y Cymoedd
Fe'i ganed yng Nghwmaman, ger Aberdâr yn Sir Forgannwg ym 1915, lle gwelir plac ar y tŷ, sef 16 Heol Llanwynno, a'i addysgu yn Ysgol y Bont-faen, un o'r ysgolion gorau'n y sir.
Aeth ymlaen i ddarllen Hanes yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, ac wedyn i Brifysgol Manceinion lle dyfarnwyd MA iddo.
Ym 1938 ymunodd â staff Ysgol Lewis i Fechgyn, Pengam, yn Sir Fynwy, lle oedd yn athro dawnus a phoblogaidd.
Gwasanaeth milwrol
Er ei fod yn tueddu at heddychiaeth, ac ar ôl cyfnod o densiwn deallusol ac emosiynol, penderfynodd ymuno â'r Fyddin ym 1940, gan obeithio na fyddai'n gorfod lladd ei gyd-ddyn.
Daliodd ati fel llenor, gan gyhoeddi cerddi a storïau mewn rhai o brif gylchgronau'r dydd.
Yn y flwyddyn canlynol priododd â Gweno Lewis, athrawes yr Almaeneg a'i gariad ers dyddiau coleg. Daeth ei gasgliad cyntaf o gerddi, Raiders' Dawn, allan ym 1942.
Nid oedd Alun Lewis yn hapus fel aelod o'r fyddin, gan ei fod yn casau'r ffordd o fyw a ddisgwylid gan swyddog comisiwn: gwell oedd ganddo gwmni'r milwyr cyffredin, y rhan fwyaf ohonynt yn dod o gymoedd de Cymru, fel yntau.
Mae ei gyd-Gymry yn ymddangos yn amlwg ac yn fynych yn ei storïau; cyhoeddwyd The Last Inspection ym 1943. Erbyn hyn roedd yn adnabyddus fel llenor ifanc addawol yng Nghymru a Lloegr.
Teithio i'r India
Ym 1942 teithiodd ei fataliwn i India a'i ymsefydlu ger Poona. Gadawodd y profiad o weld India, ei thlodi a'i thirluniau, effaith ddofn ar gymeriad y Cymro ifanc, ac ysgrifennodd nifer o gerddi a storïau i fynegu peth o'i ymateb i'r is-gyfandir, megis 'The Mahratta Ghats' a 'The Orange Grove'.
Yn ystod cyfnod o wyliau ym 1943 cyfarfu â menyw o'r enw Freda Aykroyd, a syrthio mewn cariad â hi, mae'n debyg.
Ar yr un pryd, daeth 'y ci du' yn ôl i'w drwblu fel o'r blaen: roedd Alun Lewis wedi bod yn ysglyfaeth i'r felan ers tro. Eto i gyd, casglodd ei gerddi at ei gilydd yn barod i'w cyhoeddi o dan y teitl Ha! Ha! Among the Trumpets.
Dirgelwch ei farwolaeth
Ond daeth ei ddiwedd toc wedyn. Tra'n wynebu'r Siapaneaid yn Byrma, fe'i lladdwyd gan ei lawdryll ei hun ar 5 Mawrth 1944.
Ar y pryd y dyfarniad swyddogol oedd ei fod wedi colli ei fywyd mewn damwain, ond erbyn hyn mae'n weddol glir ei fod wedi lladd ei hunan. Nid yw'n hollol sicr beth oedd wedi achosi ei farwolaeth ac mae yna gryn drafod ar y pwnc hyd heddiw.
Dim ond pedair mlynedd cafodd Alun Lewis fel llenor; ysgrifennodd 95 o gerddi a 25 o storïau.
Awen leddf oedd ganddo, ym marn rhai, un a orfodwyd i aeddfedu'n gynnar oherwydd y rhyfel a'i wasanaeth milwrol tramor. Ond fe'i cofir fel llenor o fri, un o'r goreuon a hanai o gymoedd y De erioed.
Oddi ar ei farwolaeth annhymig, cyhoeddwyd nifer o gyfrolau o'i waith, gan gynnwys ei Collected Stories (1990) a'i Collected Poems (1994).
Ceir hanes ei fywyd yn Alun Lewis: a Life (1984; ail arg. 1991) gan John Pikoulis. Am ddetholiad o'i gerddi a'i storïau gweler The Sentry (2004) yng nghyfres y Corgi.
Meic Stephens