Nofelydd hanesyddol
Un o nofelwyr mwyaf poblogaidd ei gyfnod oedd Alexander Cordell, yn enwedig fel awdur nifer o lyfrau a leolir yng Nghymru yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae ei waith yn apelio at ddarllenwyr di-Gymraeg sy'n hoffi storïau sy'n adrodd eu hanes yn ystod y Chwyldro Diwydiannol pan oedd y De'n cynhyrchu'r rhan fwyaf o lo a dur yn yr ynysoedd hyn.
Eto i gyd, rhan gymharol fechan o'i gynnyrch oedd ei nofelau am Gymru.
Gwreiddiau Seisnig
Nid oedd Alexander Cordell yn Gymro. Ei enw iawn oedd George Alexander Graber, a ganwyd ef ym 1914 yng Ngholombo, Ceylon, i deulu milwrol Seisnig.
Treuliodd lawer o'i ieuenctid yn y Dwyrain Pell, gan gynnwys saith mlynedd yn Tsiena, gwlad yr ysgrifennodd lawer amdani yn ei nofelau megis The Sinews of Love (1965), The Bright Cantonese (1967), The Dream and the Destiny (1975) a seilwyd ar Ymdaith Hir Mao-Tse-tung, ac A Dream of Fair Women (1993).
Gwasanaethodd yn y Fyddin o 1932 hyd 1936 ac yn ystod yr Ail Ryfel Byd yr oedd yn uwch-gapten yn y Peirianwyr Brenhinol.
Darganfod Cymru
Ymgartrefodd yng Nghymru ym 1950 a gweithio fel maintfesurydd yn Sir Fynwy hyd 1963.
Yna, darganfyddodd hanes diwydiannol y sir a dechrau ysgrifennu amdani. Cadwodd ei acen a'i osgo militariadd Seisnig ar hyd ei oes.
Am ei nofelau 'Cymreig' y sonnir yma. Yr un cyntaf oedd Rape of the Fair Country (1959), sydd - ynghŷd â The Hosts of Rebecca (1960) a Song of the Earth (1969) - yn ffurfio cyfres am fywyd De Cymru. Mae'r tair nofel boblogaidd yn rhoi hanes tra rhamantus y frwydr dros hawliau undebau llafur yn y gweithfeydd haearn, gan ganolbwyntio ar gynyrfiadau Mudiad y Siartwyr ac Helyntion Beca.
Yn The Fire People (1972) ceir hanes terfysgoedd Merthyr ym 1831.
Ymchwilio'n drylwyr
Roedd cefndir pob un o nofelau Alexander Cordell wedi'i ymchwilio'n drwyadl ac yn y nofel hon datgelodd, am y tro cyntaf, y dystiolaeth nad oedd Dic Penderyn yn euog o'r drosedd y crogwyd o'i herwydd.
Terfysgoedd Tonypandy (1910) yw cefndir This Sweet and Bitter Earth (1977). Aeth ymlaen i gyhoeddi Land of my Fathers (1983), This Proud and Savage Land (1987), a Requiem for a Patriot (1988) sy'n olrhain tynged John Frost, maer Cas-newydd a Siartwr a ddanfonwyd tramor ar gyfrif cyhuddiad o deyrn-fradwriaeth. Ond nid oes gan y nofelau diweddar hyn yr un rhinweddau â'i nofelau cynnar.
Er fod ganddynt edmygwyr brwd, nid yw nofelau Alexander Cordell yn hoff gan bawb yng Nghymru. Mae'n wir eu bod yn tueddu gorliwio'r digwyddiadau hanesyddol sy'n ffurfio'u cefndir ac yn gor-bortreadau eu cymeriadau mewn modd 'Cymreig' eithaf ffals.
Nid oedd Cordell, ychwaith, yn or-boblogaidd ymhlith ei gyd-awduron yng Nghymru: daethant o dan y lach mwy nag unwaith am beidio ceisio ysgrifennu 'nofelau mawr' am eu gwlad, fel y gwnaeth Cordell - yn ei dyb ef ei hun.
Cyfnodau yn Sir Benfro a Wrecsam
Cadwai ei hun ar wahan i fywyd llenyddol y wlad, er iddo fyw am gyfnodau yn Sir Benfro a Wrecsam. Honnai ei fod yn Farcsydd, er ei fod yn dangos cydymdeimlad, o dro i dro, â Phlaid Cymru. Ond un a oedd yn gallu creu cyhoeddusrwydd iddo fe ei hun oedd Alexander Cordell, ac nid oes angen coelio pob un o'i ddatganiadau.
Serch hynny, rhaid cydnabod fod Rape of the Fair Country, ac efallai un neu ddwy o'r nofelau eraill, wedi dal dychymyg llawer o ddarllenwyr yng Nghymru a thu hwnt - i'r fath raddau nes bod yr ardal yng ngogledd Sir Fynwy a Sir Forgannwg lle lleolir rhai o'i nofelau enwocaf wedi cael ei henwi'n 'Cordell Country', os am resymau sy'n ymwneud â thwristiaeth lleol yn unig.
Bu farw Alexander Cordell, yn fuan wedi marwolaeth ei ail wraig, ym 1997.
Meic Stephens