Canwr opera proffesiynol - mae'n adnabyddus fel un o denoriaid telynegol gorau'r byd
Gwrandewch ar yr actor a'r canwr, Huw Euron yn siarad am Stuart Burrows, a'i gysylltiad â'r canwr opera o Gilfynydd ar raglen BBC Radio Cymru, Hywel a Nia (5 Chwefror, 2008):
Bywyd Burrows
Mae William I Williams o Santa Cruz, California yn dweud y cyfan wrthym...
Fe anwyd Stuart Burrows yng Nghilfynydd, Pontypridd ar y 7fed o Chwefror 1933, ac yno cafodd ei fagu.
Dechreuodd ar yrfa fel athro ond cyn hir fe ddaeth ei dalent anferthol fel tenor i'r amlwg gan ddwyn cydnabyddiaeth mawr iddo.
Roedd ei berfformiadau arferol yn cynnwys gwaith gan Mozart, Beethoven, Berlioz, Sullivan, Adams, Tippet, Tchaikovsky, Mallote, Mahler, Offenbach a Handel. Roedd yn brofiadol iawn ym myd yr Oratorio a'r Opera gan arbenigo yng ngwaith Pucci, Verdi, Donizetti a Mozertiano.
Yn 1963 fe ganodd yng Nghaerdydd gydag Opera Cenedlaethol Cymru, gan chwarae rhan Ismael yn Nabucco gan Verdi. Yn 1967 fe'i wnaethpwyd yn seren rhyngwladol wedi perfformio yn Ngŵyl Athen. Roedd ei berfformiad gwefreiddiol yn Oedipus Rex gan Stravinsky yn brawf i'w allu arbennig fel Tenor telynegol.
Mae bellach wedi perfformio mewn nifer o'r tai Opera enwocaf. Perfformiodd rannau yn Don Giovanni ym Mrwsel a San Diego; Madam Butterfly yn Fiena; Faust ym Milan; L'Elisir D'amore a'r Ffliwt Hud yn San Ffransisco; Die Entfuhrung yn Opera Paris; Tales of Hoffman yn Buenos Aires a gwlad Belg; Requiem Mozart yn Ngŵyl Corau Caerdydd; a nifer o weithiau gyda'r Opera Brenhinol gan gynnwys rhannau yn Don Pasquale a La Sonambula. Mae hefyd wedi canu yn yr enwog Neuadd Brahms yn Fiena.
Yn Efrog Newydd mae wedi canu yng nghwmni Sir George Solti, Zubin Mehta, Seiji Ozawa, Leonard Bernstein, Eugene Ormandy ac eraill yn Neuadd Carnegie. Ef hefyd yw'r canwr Prydeinig sydd wedi ymddangos am y nifer fwyaf o dymhorau yn olynol yn y Metropolitan Opera, Efrog Newydd.
Er ei fod yn enwog iawn am ei berfformiadau byw neu ar record, mae hefyd yn ddigon cyfforddus ar y teledu. Mae wedi ymddangos ar sgriniau Awstralia, Gogledd America ac Ewrop. Ar un adeg fe wnaeth y BBC gyfres chwe-rhan o'r enw Stuart Burrows Sings oedd yn arddangos sawl cyfnod ac arddull cerddorol gwahanol.
Fe'i anrhydeddwyd yn 1981 gyda Doethuriaeth Anrhydeddol gan Brifysgol Cymru Caerdydd. Fe roddwyd Cymrodoriaeth iddo yn 1989 gan Goleg y Drindod, Caerfyrddin. Yna yn 1992 fe roddwyd Gymrodoriaeth Anrhydeddol iddo gan Brifysgol Cymru Aberystwyth. Mae'r Eurotunnel hefyd wedi ceisio anrhydeddu'r dyn trwy osod cofeb iddo ar un o'u trenau Le Shuttle.
Bellach mae'n treulio tipyn o'i amser yn dyfarnu cystadlaethau cerddorol.
Dathlodd Burrows ei benblwydd yn 75 mlwydd oed ar 7 Chwefror, 2008.