Un o awduron rhyddiaith enwocaf Cymru.
Cydnabyddir Kate Roberts yn un o awduron mwyaf blaenllaw Cymru yn yr ugeinfed ganrif ac fe'i magwyd yn Rhosgadfan ger Caernarfon. Astudiodd yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru ym Mangor. Ym 1915 fe aeth yn athrawes Gymraeg yn Ystalyfera, lle roedd Gqennalt yn un o'i disgyblion.
Ym 1917 symudodd i Aberdâr a bu'n athrawes yn Ysgol Ramadeg y merched yn y dref am un mlynedd ar ddeg, hyd nes iddi briodi Morris T. Williams yn 1928.
Fe ymsefydlodd y ddau yn Ninbych yn 1935 gan brynu ddau Gwasg Gee. Fe arhosodd Kate Roberts yno am weddill ei bywyd a marw yno yn 1985.
Bu farw ei gwr Morris yn 1946 a hi fu'n gyfrifol am Wasg Gee am ddeng mlynedd wedyn a chyfrannodd at Y Faner. Roedd hi hefyd yn ysgrifennu i'r Ddraig Goch, papur y Blaid Genedlaethol - roedd hi'n aelod mor frwd ohoni. Ond am ei straeon byrion a'i nofelau y mae Kate Roberts yn fwyaf adnabyddus ac yn eu plith mae Traed mewn Cyffion (1936), Y Byw sy'n Cysgu (1956), Te yn y Grug (1959), Tywyll Heno (1962) a Tegwch y Bore (1967).
Yn ôl Kate Roberts ei hun, math ar therapi oedd ysgrifennu yn dilyn marwolaeth un o'i brodyr yn y Rhyfel Byd Cyntaf ac yna'i gwr yn ddiweddarach yn 1946. Y teulu ydy cefndir llawer iawn o'i gwaith sef profiadau dynion a merched cyffredin yn y Gymru wledig.
Tuedda hefyd i edrych yn ôl i gyfnod ei phlentyndod hi ei hun yn Rhosgadfan ar droad y ganrif gan ysgrifennu am ffordd o fyw sydd bellach yn angof.
Mae Te yn y Grug yn gyfres o straeon byrion syn sôn am brofiad Begw wrth iddi hi dyfu fyny a chyfeirir at ei chyfeillion sef Winni Ffini Hadog a Mair a cheir llawer o hiwmor ynddynt.
Mae Traed Mewn Cyffion yn waith llawer mwy difrifol a du. Gosodwyd y nofel rhwng y blynyddoedd 1880 a 1914 mewn ardal chwareli digon tebyg i'r un y magwyd Kate Roberts ei hun ynddi. Y prif gymeriad ydy Jane Gruffydd ac mae'r nofel yn delio efo realiti bywyd a'r caledi wrth iddi hi geisio magu chwech o blant yn ystod y cyfnod.
Fe dderbyniodd Kate Roberts wobrau ac anrhydeddau lu am ei gwaith gan gynnwys doethuriaeth er anrhydedd gan y Brifysgol yng Nghymru a chydnabyddiaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru.