Awdur y gyfres o lyfrau poblogaidd Harry Potter
"Roeddan ni'n methu gwneud yr un fath â phlant y dref, felly roeddan ni allan yn gwneud pethau gwirion yn y caeau."Wyddech chi? : Sylfaenwyd yr Athro Snape dieflig yn rhannol ar gyn athro gwyddoniaeth J K Rowling yn Ysgol Wyedean. Fe sylweddodolodd ei wraig hyn yn fuan ond fentrai hi ddim dweud wrtho!
Magwyd crwr y dewin ysgol Harry Potter ger Casgwent ac roedd hi wastad eisiau bod yn awdur.
Ond gorfu i Joanne Kathleen Rowling ymdrechu am flynyddoedd cyn profi llwyddiant a chyfoeth mawr fel awdur.
Fe'i ganwyd yn Chipping Sodbury ond pan oedd hi'n naw oed symudodd y teulu i Tutshill ger Casgwent.
Ar ôl gadael Ysgol Wyedean, astudiodd Rowling Ffrangeg a Chlasuron ym Mhrifysgol Exeter cyn cymryd swydd efo Amnest Rhyngwladol yn Llundain yn ymchwilio i achosion hawliau dynol.
Fe ddaeth y syniad am hogyn ysgol o ddewin i Rowling ar daith trên o Fanceinion i Lundain ac erbyn iddi hi gyrraedd Kings Cross roedd hi wedi dyfeisio'r cymeriadau a sylfaen y gyfres saith llyfr.
Gweithiodd Rowling ar y llinellau stori mewn tafarndai a chaffis gan ddal ati i ysgrifennu ar ôl symud i Bortiwgal i ddysgu Saesneg.
Yn dilyn priodas fer efo newyddiadurwr lleol, gadawodd Rowling Portiwgal yn fam sengl i ferch ifanc a symud i Gaeredin er mwyn cael bod yn nes at ei chwaer.
Yn dilyn ei hysgariad a hithau'n ddi-waith, treuliai ei hamser yn ysgrifennu yn y café lleol a'i merch fach yn cysgu wrth ei hochr.
Cafodd ysgoloriaeth gan Gyngor Celfyddydau yr Alban i'w galluogi i orffen ei llyfr cyntaf sef Harry Potter and the Philosopher's Stone
Bellach mae J. K. Rowling wedi cyhoeddi sawl llyfr yn y gyfres boblogaidd, a rhyddhawyd y trydydd o ffilmiau Harry Potter yn y sinema ym Mehefin 2004.