Brenin milwrol Lloegr
Wyddech chi? : Roedd Henry yn cyfansodddi cerddoriaeth eglwysig dan y llysenw Roy Henry. Fe gafodd y milwr hwn o frenin fywyd byr ond llawn digwydd fel y gwelir yn nrama Shakespeare o'r un enw.
Ganwyd Henry yng Nghastell Trefynwy ei daid John o Gaunt. Roedd o'n hogyn amryddawn iawn, yn marchogaeth, nofio a hela yn 10 oed. Roedd hefyd yn gerddor ac yn academig, yn medru gwneud popeth!
Roedd ei arddegau yn gyfnod cyffrous iddo. Roedd yn Dywysog Cymru yn 12 oed ac yn 14oed roedd yn brwydro yn erbyn lluoedd Owain Glyndŵr oedd yn bleidiol i'r brenhinoedd Plantagenet a ddiorseddwyd gan dad y Tywysog ifanc Harri IV.
Yn 16 oed, roedd yn arwain lluoedd ei dad mewn brwydr yn yr Amwythig ac yn creu enw iddo'i hun fel milwr eofn a thactegwr cyfrwys iawn. Does na fawr o sôn yn y cofnodion am broblemau arferol ieuenctid fel croen neu ferched!
Yn dilyn marwolaeth ei dad ym mis Mawrth 1413 fe ddaeth Harri i'r orsedd.
Ddwy flynedd yn ddiweddarach ceisiodd briodi tywysoges o Ffrainc sef Catherine ond nid oedd ei thad Charles VI yn fodlon. Fe fyddai'r briodas wedi golygu ildio tiroedd Plantagenet ym meddiant y Ffrancwyr yn draddodiadol.
Yn dilyn y gwrthodiad fe gyhoeddodd Henry ryfel ar Ffrainc. Ar ôl cyrraedd Normandy ac ennill porthladd Harfleur, fe drodd Byddin Lloegr at Calais, ond fe'i daliwyd yn ddirgel yn Agincourt. Yn ôl yr hanes roedd yna 25,000 ar ochr Ffrainc a dim ond 5,700 ar ochr y Saeson.
Roedd y Saeson yn defnyddio bwa hir ac roedd y Ffrancwyr yng nghanol y mwd. Honnir i'r arwydd bysedd canol enwog gychwyn yn Agincourt. Roedd y Ffrancwyr hyderus yn bygwth torri bysedd canol y Saeson er mwyn eu rhwystro rhag defnyddio'r bwa.
Yn groes i'r disgwyl, y Saeson a orfu yn Agincourt a mawr fu'r clodfori a'r dathlu am genedlaethau wedyn. Aeth Harri rhagddo i ennill Normandy, Rouen a thiroedd eraill yn Ffrainc am y tro cyntaf i'r Saeson.
Arwyddwyd cytundeb yn Troyes yn 1420 yn galluogi Henry i briodi Catherine ac yn ei enwi hefyd fel etifedd Ffrainc ond nid felly y bu.
Yn sgîl yr holl frwydro efallai, fe gafodd ddysentri a bu farw yn 1422 gan adael ei fab bychan i lywodraethu Lloegr sef Henry VI.
Ond mae Harri er hynny yn ffigwr cyfarwydd yn enwedig ar sail dehongliad Shakespeare ohono ar geiriau enwog ar ddechrau'r frwydr.
Ysbrydolwyd Laurence Olivier i ymddangos yn y ffilm o'r ddrama yn ystod yr Ail Ryfel Byd er mwyn hyrwyddo'r achos yn erbyn yr Almaen. Gwnaeth Kenneth Branagh fersiwn mwy diweddar o'r ffilm hefyd.
Fe goffheir Harri yn ei dref enedigol gyda cherflun ohono o flaen Neuadd y Sir.