Rocwyr celf wleidyddol a drodd yn sêr pop-roc
Wyddech chi? : Mynn rhai fod yr enw Manics wedi dod o'r llyfr 'Monty Python Life of Brian' sy'n rhestru'r enw Manic Street Preacher ymhlith y cymeriadau. Y Coed Duon - cartref annisgwyl i fand efallai ond mae'r Manics o'r Coed Duon yn un o'r bandiau pwysicaf i ddod o Gymru. Mae'n nhw'n dal i chwarae ar waethaf sawl trawma personol, gwarth, llwyddiant ac enwogrwydd.
Fe anwyd y Manics, ond efo enw gwahanol, yn 1986 pan ffurfiodd James, Nicky, Sean a gitarydd rythm, yn fand o'r enw 'Flicker Betty Blue' ond roeddan nhw wedi newid eu henw i Manics erbyn rhyddhau eu sengl gyntaf 'Suicide Alley'.
Yn gyfeillion bore oes, buan iawn yr ymunodd un arall oedd eisoes ar gyrion y grŵp Richey Edwards.
Methiant oedd y sengl gyntaf a symudodd y grŵp i Lundain ac yno roedd eu siarad uniongyrchol a'u defnyddiau gweledol dan y lach.
Ond roedd un, sef Bob Stanley, yn meddwl yn wahanol ac fe gynorthwyodd hwy i ryddhau EP 'New Art Riot' i Heavenly Records, dyma sylfaen eu llwyddiant yn y dyfodol. Ar ôl rhyddhau dwy sengl arall, fe gawsant ddigon o sylw yn y wasg ac roedd gan bawb rywbeth i'w ddweud amdanynt.
Bellach bron nad oedd y ddelwedd yn fwy na'r gerddoriaeth felly pan ofynnodd y newyddiadurwr roc Steve Lamacq "os oeddan nhw for real?" torrodd Richey Edwards y geiriau 4 Real ar ei fraich i brofi'r pwynt gyda rasal. Chwe diwrnod yn ddiweddarach roedd Manics wedi arwyddo cytundeb efo Sony.
Gwerthodd eu halwm gyntaf 'Generation Terrorists' dros 250,000 o gopïau ar draws y byd ac er i'r band honni mai gwneud un albwm ac yna gwahanu fyddai eu hanes, nid felly y bu.
Roedd yr ail albwm 'Gold Against the Soul' yn siom i rai ac ar ôl teithio fe'u cyhuddwyd o golli cyfeiriad. Gwaethygodd y sefyllfa pan fu farw Philip Hall yn Rhagfyr 1993 a gorfu i Richey fynd i glinig Priory yn Llundain i geisio trin ei broblemau emosiynol.
Cofnodwyd yr holl helyntion yn yr albwm ddu 'The Holy Bible' a ryddhawyd yn llwyddiannus iawn yn 1994. Ar ddiwedd taith llawn digwyddiadau, dinistriwyd gwerth £10,000 o offer ar lwyfan yr Astoria Llundain a dyna'r tro olaf iddynt chwarae'n bedwar.
Yn 1995 cyn iddynt gychwyn ar daith i'r Unol Daleithiau, fe gerddodd Richey allan o Westy'r Embassy yn Llundain ac ni ddychwelodd. Darganfuwyd ei basport a'i arian yn ei fflat yng Nghaerdydd a phythefnos yn ddiweddarach darganfuwyd ei gar ger Pont Hafren. Mae ei ddiflaniad bellach yn rhan o chwedloniaeth hanes roc ac yn eironig ddigon fe roed mwy o sylw i'r grŵp.
Fe benderfynodd y grŵp berfformio eto ar ôl deufis o aros, o deimlo'n sâl, wedi'u parlysu gan flinder ac yn methu gwneud dim yn dilyn diflaniad Richey. Erbyn Ionawr 1996 roeddan nhw yn ôl yn y stiwdio ond y tro hwn yn driawd. Fe gafodd yr albwm 'Everything Must Go' groeso gwresog iawn a bu'n llwyddiant masnachol yn ennill dwy wobr Brit.
Doedd y nesaf 'This Is My Truth Tell Me Yours' ddim mor llwyddiannus ac yn ôl rhai roedd y sŵn yn rhy gyffyrddus epig. Doedd yr un teimlad ddim yno ac roedd y band yn cytuno.
Ond fe ddaethon nhw yn ôl gyda'r sengl pync 'The Mases against the Classes' a ddringodd i rif 1 yn y siartiau gan gyhoeddi sŵn mwy uniongyrchol. Yn dilyn cyngerdd llwyddiannus iawn yn Stadiwm y Mileniwm fe gyhoeddodd Nicky fod pedwerydd cyfnod y Manics ar fin dechrau.
Hyd yn hyn mae'r cyfnod newydd hwn wedi gweld y Manics yn chwarae yn Nghiwba ac erys y dylanwad pync ar yr albwm 'Know your Enemy'. Ar ddiwedd taith 2002 clywyd si am chwalu ac er na ellir rhagweld unrhywbeth efo'r Manics, mae'n go annhebygol.