Cantores a chyfansoddwr sydd yn cael ei chymharu â Dido.
Er gwybodaeth: Mae brawd a chwaer Jem yn aelodau o'r band Weapons of Mass Belief.Bywgraffiad: Mae'r gantores ar hyn o bryd yn ceisio yr un derbyniad yng Nghymru ag y gafodd hi yn Unol Dalaethau'r Amerig.
Magwyd Jemma Griffiths ym Mhenarth a dechreuodd gyfansoddi tra'n ddisgybl yn Ysgol Gyfun Stanwell.
Dechreuodd weithio yn y sîn gerddorol pan oedd yn fyfyrwraig ym Mhrifysgol Sussex yn Brighton, er roedd hyn mewn ffyrdd llai llewyrchus megis hybu clybiau a gwahanol ddigwyddiadau arbennig.
Dychwelodd Jem i Gymru yn Nhachwedd 1999 i recordio sawl demo, ac fe gafod rhai o'r rhain eu darlledu ar y rhaglen Sesiwn yng Nghymru ar Radio 1.
Symudodd i Lundain er mwyn cynyddu ei chyfleuon, ac yno y cyfansoddwyd y gân 'Nothing Falls' ar y cyd â cynhyrchydd Guy Sigworth. Ychydig wedi hyn recordiwyd y gân gan Madonna ac fe'i defnyddiodd ar yr albwm 'American Life'.
Ond yr hyn a ddylanwadodd fwyaf ar ddatblygiad eu gyrfa oedd yn 2002 pan chwarewyd fersiwn demo o'i chân 'Finally Woken' gan ddwyn edmygedd mawr o DJ's a gwrandawyr yr orsaf radio KCRW yn Los Angeles.
Arwyddodd hi gytundeb â'r label ATO a chyhoeddwyd ei EP, 'It All Starts Here' yn Hydref 2003, gyda'r albwm 'Finally Woken' yn dilyn yn Mawrth 2004.
Wedi ei llwyddiant yn yr Amerig, daeth Jem yn boblogaidd yma ym Mhrydain wedi i'r albwm a'r sengl 'They' gyrraedd Deg Uchaf y siartiau ychydig wedi eu rhyddhau yng Ngwanwyn 2005.