Criw o rapwyr gwyllt o ddinas Casnewydd
Goldie Lookin Chain
Er gwybodaeth: Mae Paul Flynn, aelod seneddol Gorllewin Casnewydd, yn ffan o'r grŵp!Bywgraffiad:
"You knows it, clart" - daeth y bois yma yn sêr dros nos, er cryn dipyn o waith ac ymdrech cyn hynny. Mae eu llinellau drygionus am fywyd yng Nghasnewydd wedi dod â lot o sylw i'r ddinas.
Mae gwreiddiau'r grŵp yn ymestyn yn ôl mor bell â 1983, pan ddechreuodd Chon Ben-Wa Balls (a elwir hefyd yn 'Mr Love Eggs') dapio deialog oddi ar rhaglennu teledu ac yna recordio rhegfeydd uwch ei ben.
Tair mlynedd ar ddeg yn ddiweddar dechreuodd Dwayne Xain Xedong, cyd-sefydlydd a bît-feistr syfrdanol, creu cerddoriaeth electronig ar ei beiriant 'Rave Generator'.
Cyfarfu y ddau ar hap ym maes parcio y coleg ac yn y pendraw arweiniodd hyn at sefydlu y Goldie Lookin Chain.
Pum mlynedd wedi hyn dechreuodd y grŵp lewyrchu wrth i 21 person ymaelodu gan ychwanegu eu arddull, rhythmau a barddoniaeth trefol eu hun.
Mae craidd wythblyg i'r criw: Eggsie (Mr Love Eggs), Xain (Dwayne Xain Xedong), Adam Hussein, Two-Hats, Mike Balls (dyn caletaf y byd gwrthdaro pêl-droed), Billy Webb, Mystikal a Maggot.
Mae aelodau eraill, nid llai clodwiw, yn cynnwys: DCI Burnside, Leeroy Fashions, Lloyd Ganja 9T9, 38DD Killa, BBJ (Big Baby Jesus), Eugene the Genius, Mr Compact, MC Flatpress, Cannsie-T, Dipper Nan, Mac Dad, One-Step Down, Will Dionysus ac Adam's Nan.
Fel rhyw gyfuniad gwyllt o'r 'Wu Tang Clan' gyda tamaid o 'Viz', fe ddaeth y GLC yn arwyr lleol wrth iddynt ddathlu realiti a diflastod bywyd yng Nghasnewydd - o 'shell suits' a chyffuriau ysgafn i siopau rhad a "seven seater scum buses".
Ymledodd eu enwogrwydd trwy gyfres o gigiau mewn tafarndai lleol, cryno-ddisgiau wedi eu creu gan y band, ac MP3s oedd ar gael ar eu gwefan.
Ymddangoson nhw ar dudalen flaen y cylchgrawn Heat yn Nhachwedd 2002 gyda'r stori amheus eu bod nhw wedi recordio cân gyda'r gantores enwog Charlotte Church. Roedd yr ymateb cynddeiriog, sylw gan y wasg ac ymddiheuriad printiedig yr union beth roedd y grŵp ei hangen i gamu ymlaen yn y sîn.
Ymddangosodd y grŵp gyda bandiau megis y Super Furry Animals a The Darkness, ac yn fuan wedi hyn fe arwyddon nhw gytundeb gyda'r cwmni recordio anferth WEA ym mis Mawrth 2004.
Ym mis Ebrill fe gyrhaeddodd eu cân 'Half Man Half Machine' i 40 Uchaf y siartiau Prydeinig. Ond yn dilyn hyn fe gafon nhw lwyddiant mawr gyda'r gân 'Guns Don't Kill People, Rappers Do' saethodd i rhif 3 yn y siartiau ym mis Awst.
Ers hynny dydy gyrfa'r band heb fod mor llewyrchus. Er fod ymddangosiad yr aelod Maggot ar y raglen deledu Celebrity Big Brother yn 2006 wedi dod ag ychydig o sylw yn ôl arnynt, doedd hyn ddim yn ddigon i arbed y band rhag cael eu gollwng gan y cwmni Atlantic, wedi i'w hail albwm methu â gwerthu'n dda.