Dyn a grogwyd am lofruddiaeth ond a gliriwyd wedyn
Pan gerddodd dyn bach di-nod, ofnus a diniwed yr olwg i mewn i
swyddfa'r heddlu yn Ynysowen ddechrau mis Tachwedd 1949, prin y
gallai'r swyddog gredu'r hyn oedd ganddo i'w ddweud. Byrdwn ei
neges oedd iddo ddod o hyd i'w wraig, Beryl, wedi marw ac iddo
wedyn guddio'i chorff mewn gwter yn y tŷ golchi.
Aeth plismyn i'r cyfeiriad yn Llundain a roddwyd iddynt gan y dyn
ac yno, yn union fel yr honnai, canfuwyd corff gwraig ifanc.
Yno
hefyd, yn y gwter, roedd corff baban 14 mis oed.
Dair blynedd yn
ddiweddarach, byddai arwyddocâd cyfeiriad y tŷ yn atseinio drwy'r
byd.
Y cyfeiriad oedd 10 Rillington Place.
Pwy oedd y llofrudd?
Byth ers ei grogi yn 1950, mae tynged Timothy John Evans wedi
aflonyddu ar gydwybod dynoliaeth.
Crogwyd Evans am lofruddio'i
blentyn.
Amheuid ef hefyd o lofruddio'i wraig.
Yn ddiweddarach
profwyd nad ef a laddodd ei wraig, ond yn hytrach mai John Reginald
Halliday Christie, deiliad y tfl lle trigai Evans a'i deulu, oedd y
llofrudd.
Yn yr achos a ddygwyd yn ei erbyn, cyhuddodd Evans ei
landlord o ladd Beryl wrth berfformio erthyliad arni, ond
anwybyddwyd ei gyhuddiad.
Yn wir, roedd Christie yn dyst yn yr
achos.
Dair blynedd yn ddiweddarach cyfaddefodd Christie iddo
lofruddio chwech o fenywod, gan gynnwys Beryl Evans.
Gwadodd
iddo ladd y plentyn, ond hyd heddiw mae'r darlun yn hynod aneglur.
Pwy oedd y dyn bach di-nod hwn a ddihunodd gydwybod cynifer
o bobl ledled y byd?
Cefndir Cymreig
Cymro o ardal Merthyr Tudful oedd Timothy
John Evans a symudodd i Lundain lle cafodd waith fel gyrrwr fan.
Cafodd fflat ar rent ar lawr uchaf 10 Rillington Place. Roedd yn
ffantasïwr.
Honnai, ymhlith pethau eraill, ei fod yn fab i Iarll o'r
Eidal.
Y gwir amdani oedd mai meddwl plentyn oedd ganddo, gydag
IQ o ddim ond 70.
Yn 1949 roedd Evans yn 24 mlwydd oed, yn
anllythrennog ac yn briod â Beryl.
Pedair ar bymtheg mlwydd oed
oedd hi, ac roedd ganddynt ferch fach, Geraldine.
Yn wyneb protestiadau eang, crogwyd Timothy John Evans yng
Ngharchar Pentonville ar 9 Mawrth 1950.
Apeliwyd yn ofer am
ddiddymu'r gosb eithaf yn ei erbyn, ac ar ôl iddo dderbyn pardwn
ymhell wedi ei ddienyddiad defnyddiwyd achos Evans fel y ddadl
glasurol a diffiniol yn erbyn adfer crogi.
Onid oedd dyn cwbl ddieuog
wedi ei lofruddio gan y wladwriaeth?
Y gwir lofrudd
Pan ymddangosodd John Christie o flaen ei well, sylweddolwyd
fod honiad Evans mai'r landlord oedd y llofrudd yn hollol wir.
Wrth
i Christie gyfaddef iddo lofruddio chwech o fenywod, a hwyrach
saith neu wyth o fewn cyfnod o 13 mlynedd - ni fedrai gofio'r
manylion - datgelwyd ei fod yn gorffgarwr. Hynny yw, hoffai gael
rhyw â'r meirw.
Ni fedrai gael cyfathrach naturiol ag unrhyw fenyw
fyw.
Ei arferiad fyddai dod â menyw adre i 10 Rillington Place, ei
meddwi, defnyddio carbon monocsid i'w gwneud hi'n
anymwybodol, ei thagu ac yna cael cyfathrach rywiol â hi.
Diddorol
nodi i Christie wadu'n bendant iddo ladd y plentyn.
A oedd yn dweud
y gwir, neu a oedd am osgoi bod yn fwy esgymun fyth yn llygaid
cymdeithas?
Ni chawn fyth wybod y ffeithiau.
Achos a newidiodd hanes
Daeth achos John Christie yn un o glasuron y gyfraith.
Canfuwyd
cyrff chwech o fenywod yn ei gartref ac yn y cyffiniau.
Un ohonynt
oedd ei wraig ei hunan, ac am lofruddio honno y'i cafwyd yn euog.
Plediodd orffwylledd, ond yn ofer.
Yn ymddangosiadol roedd Christie yn ddyn tawel a pharchus, ond
roedd ganddo record fel lleidr ac roedd yn gelwyddgi wrth natur.
Yn
ystod blynyddoedd olaf y rhyfel bu'n gweithio fel Cwnstabl
Arbennig yn yr Heddlu Rhyfel Neilltuedig.
Llofruddiodd ddwy o'r
menywod yn ystod y cyfnod hwnnw.
Fel rhan o'i gyfaddefiad cynhwysodd Christie Beryl Evans ymhlith
y rhai a laddodd.
Naturiol felly oedd credu mai Christie oedd wedi
llofruddio'r ferch fach hefyd.
Wedi'r cyfan, pwy allai gredu fod dau
dagwr yn byw yn yr un tŷ?
Diolch i'w gyfaddefiad, derbyniwyd bod
Christie yn euog o lofruddio pedair menyw.
Fe'i crogwyd ar 15
Gorffennaf 1953 yn Pentonville - ar yr union grocbren y crogwyd
Timothy Evans arni dair blynedd a hanner yn gynharach.
Hyd yn oed petai'r gosb eithaf mewn bodolaeth heddiw, a hyd yn oed
petai'n euog, mae'n sicr na châi Evans ei grogi.
Yn un peth, nid oedd
ganddo feddwl oedolyn.
Yn ail, byddai ple o gyfrifoldeb lleihaëdig wedi
ei dderbyn ar ei ran, ple nad oedd yn bodoli tan ddechrau'r chwedegau.
Golygai hynny leihau'r cyhuddiad i un o ddynladdiad.
Ond erys y
cwestiwn, a oedd Evans yn ddieuog ai peidio?
Y dirgelwch yn parhau
Yn ei hunangofiant esbonia Keith Simpson, y crwner yn yr
ymchwiliad a ddilynodd gyfaddefiad Christie, sef Ymchwiliad
Henderson, mai am lofruddio'i blentyn y cyhuddwyd Evans.
Er bod
mwy o reswm ar y pryd i feddwl iddo lofruddio'i wraig, dim ond ar un
cyfrif o lofruddiaeth y gellid ei gyhuddo ar y tro.
Pan oedd yna ddau neu
fwy o gyhuddiadau, dim ond y cyhuddiad cyntaf gâi ei ddefnyddio gan
yr erlyniad.
Yn yr achos hwn, credai'r erlyniad y byddai'n haws profi'r
cyhuddiad o lofruddio'i blentyn na llofruddiaeth Beryl oherwydd na
fedrai'r amddiffyn ddadlau pryfôc fel amddiffyniad a galw am leihad yn
y cyhuddiad i ddynladdiad.
Eto i gyd, caniatawyd clywed y dystiolaeth
am y ddwy lofruddiaeth gan iddynt gael eu derbyn fel un weithred.
Bu ymgyrchoedd yn galw am bardwn i Timothy John Evans ar hyd
y blynyddoedd, ac yn wir bu'r ymgyrch yn llwyddiannus.
Caniatawyd
iddo Bardwn Brenhinol yn 1966, ond erys un cwestiwn mawr. Tra
derbyniwyd heb unrhyw ddadl mai Christie laddodd Beryl Evans, ai
Evans fu'n gyfrifol am ladd y baban?
Roedd o leiaf un arbenigwr yn
amau bod canlyniad yr achos ymhell o fod yn glir - neb llai na Keith
Simpson eto. Ef fu'n gyfrifol am godi cyrff y fam a'r ferch ar gyfer
Ymchwiliad Henderson.
Roedd dyfarniad yr Ustus Brabin ar ddiwedd
yr achos hwnnw'n un syfrdanol.
Gwrthododd ddilysrwydd cyfaddefiad
Christie iddo ladd Beryl Evans, ond credai mai Christie laddodd y
plentyn.
Os felly, golygai hynny mai Evans oedd llofrudd Beryl wedi'r
cyfan.
Yn fwy syfrdanol fyth, golygai fod Evans wedi ei gael yn euog
yn hollol gyfiawn, ond iddo gael ei grogi am y llofruddiaeth anghywir.
Mae'n debyg na chawn fyth wybod y gwir, ond caiff Timothy John
Evans ei gofio am byth fel dyn a grogwyd ar gam.
Lyn Ebenezer