Arwain ymgyrch fomio yn y 60au
Wrth i gyfres o ffrwydradau siglo a sigo gwahanol dargedau yng
Nghymru a'r gororau yn ystod ail hanner chwedegau'r ganrif
ddiwethaf, derbyniwyd y cyfrifoldeb yn ddigon parod gan Fyddin
Rhyddid Cymru. Er mai mudiad a alwai ei hun yn MAC - Mudiad
Amddiffyn Cymru - oedd yn hawlio'r difrod, roedd yr FWA yn
parhau i fynnu mai aelodau'r mudiad hwnnw oedd y tu ôl i'r cyfan
ac, wrth gwrs, roedd MAC yn ddigon hapus i guddio y tu ôl i fudiad
arall.
Gwyddai'r heddlu o'r gorau mai rhywun - neu rywrai - amgenach
na Byddin Rhyddid Cymru oedd wrthi.
Roedd y dechnoleg y tu ôl i'r
ffrwydradau yn rhy soffistigedig i briodoli'r gwaith i'r FWA.
Eto i
gyd, doedd neb yn rhyw siŵr iawn a oedd MAC yn bodoli, heb sôn
am weithredu.
Daeth yr ateb ar 2 Tachwedd 1969 pan arestiwyd swyddog ifanc
gyda'r fyddin, a hwnnw'n enw dieithr iawn i'r awdurdodau, i'r wasg
ac i'r cyfryngau.
Swyddog yng Nghorfflu Deintyddol Brenhinol y
Fyddin oedd John Barnard Jenkins, gŵr 36 mlwydd oed a
ddisgrifiwyd gan ei uwch swyddogion fel milwr teilwng. Roedd yn
briod ac yn dad i ddau o fechgyn.
Dirgelwch y dyn
Ond pwy, mewn gwirionedd, oedd y gŵr tawel hwn fu'n gyfrifol
am greu hafoc ymhlith yr awdurdodau dros y tair blynedd flaenorol?
Ychydig a wyddai neb amdano, ac ychydig iawn a ŵyr neb amdano
o hyd. Erbyn hyn diflannodd yn llwyr o'r maes gwleidyddol gan
adael ar ei ôl lawn cymaint o gwestiynau ag a gafwyd o atebion
iddynt.
Ganwyd John Jenkins yng Nghaerdydd yn 1933 i rieni di-
Gymraeg.
Fe'i magwyd ym mhentref Penbryn yng Nghwm Rhymni
a'i addysgu yn Ysgol Ramadeg Bargoed.
Ymunodd â'r fyddin yn
1952 gan wasanaethu gyda Chorfflu Deintyddol Brenhinol y Fyddin
yn Awstria a'r Almaen.
Yna, er iddo dderbyn dyrchafiad i radd
Rhingyll, dychwelodd i Gwm Rhymni i weithio yn y gwaith dur ac
mewn glofa cyn dioddef damwain beic modur ddifrifol.
Wedi iddo
wella, arhosodd ymlaen i weithio yn yr ysbyty lle cyfarfu â'i ddarpar
wraig, ac er mwyn gallu fforddio priodi ailymunodd â'r Corfflu
Deintyddol gan dreulio cyfnod yng Nghyprus.
Yna gwasanaethodd ar
gylchdaith yn yr Almaen cyn dychwelyd i Gymru lle trigai ef a'i
wraig yn un o dai'r fyddin yn Wrecsam gan wasanaethu yng
ngwersyll Sychdyn ger Caer.
Dyna esgyrn sychion cefndir John Jenkins, un a fu'n ddraenen yn
ystlys yr awdurdodau am dair blynedd.
Troi at drais
Ond beth a symbylodd y gŵr
ifanc, deallus a thawel hwn i droi at ddulliau uniongyrchol er mwyn
ceisio rhyddhau ei wlad?
Beth wnaeth ei sbarduno i beryglu
bywydau, gan gynnwys ei fywyd ei hun, trwy gychwyn ar ymgyrch
fomio a ymledodd o'r gogledd i'r de a thros y ffin?
Mae'n debyg
mai'r catalydd mawr, fel yn hanes llawer o genedlaetholwyr o'r un
cyfnod, oedd Tryweryn.
Er gwaethaf ambell lwyddiant etholiadol,
teimlai fod Plaid Cymru yn ddi-rym.
Yn wahanol i'r gred gyffredinol, nid atal yr Arwisgo rhag digwydd
oedd bwriad MAC a John Jenkins. Parhaodd y bomio wedi'r
Arwisgo.
Na, y bwriad oedd codi ymwybyddiaeth y Cymry o'u
cenedligrwydd, a gwyddai John Jenkins fod trais yn talu.
Pan oedd
yng Nghyprus gwelodd yr Archesgob Makarios, a frwydrodd dros
annibyniaeth ei wlad yn erbyn byddin Prydain, yn dychwelyd o
gaethiwed fel arwr.
Yn dilyn ei arestio, cadwyd John Jenkins yng ngharchardai
Amwythig a Risley tan ddechrau ei achos ym mis Ebrill 1970.
Cafwyd ef yn euog o nifer o gyhuddiadau o achosi ffrwydriadau a
charcharwyd ef gan yr Ustus Thompson am ddeng mlynedd.
Yn
eironig ddigon, hwn oedd yr un Ustus Thompson a garcharodd
aelodau o'r FWA ar ddiwrnod yr Arwisgo.
'Ei ragordeinio'
Honnai John Jenkins iddo gael ei ragordeinio i weithredu'n
uniongyrchol dros Gymru.
Cyfaddefodd nad oedd yn hoff o ffrwydro
unrhyw beth.
Ni hoffai, meddai, chwarae hap â marwolaeth, ond ni
fedrai ychwaith adael i ddiwylliant, gwleidyddiaeth ac economi
Cymru gael eu boddi, yn arbennig felly ei diwylliant.
Er nad oes neb lawer yn gliriach eu meddwl am gyfansoddiad
MAC, llwyddodd y mudiad rhithiol hwnnw i gipio'r penawdau, ac yn
hynny o beth bu ymdrechion John Jenkins, ynghyd â milwr arall a
arestiwyd gydag ef, Frederick Alders, yn llwyddiannus.
Fel carcharor Categori 'A' tan ganol y saithdegau, gan dreulio rhan
helaeth o'i benyd yng ngharchardai Wormwood Scrubs ac Albany ar
Ynys Wyth, câi llythyron a gyrhaeddai iddo yno eu cadw'n ôl am
gymaint â thri mis.
Cyfyngwyd yn ddifrifol hefyd ar y nifer o
ymwelwyr y câi eu gweld
. Erbyn hyn roedd priodas Jenkins wedi
chwalu a chymerodd at y cyfrifoldeb o drefnu addysg ei ddau fab,
Vaughan a Rhodri.
Gwrthodwyd caniatáu ymweliad gan Eileen
Beasley, athrawes y gofynnodd Jenkins iddi drefnu rhan o addysg y
plant yn Ysgol Gyfun Rhydfelen.
Wrth gwrs, mae teulu'r Beasleys eu
hunain yn rhan annatod o hanes y frwydr dros ryddid Cymru.
'Er mwyn Cymru'
Pan oedd yn y carchar ysgrifennodd John Jenkins ddwsinau o
lythyron, casgliad a gyhoeddwyd yn 1971.
Arwyddai bob llythyr
gyda'r geiriau 'Er mwyn Cymru'.
Amlygodd hefyd ei ddawn fel
artist a dylunydd.
Pan ryddhawyd ef, cafodd swydd fel trefnydd
cymdeithasol gyda mudiad gwrthdlodi ym Merthyr Tudful.
Pan
holwyd ef gan Sulwyn Thomas ar gyfer y rhaglen deledu Heddiw,
gwaharddwyd y rhaglen rhag cael ei dangos gan y BBC.
A phan
gychwynnodd yr ymgyrch llosgi tai haf, tynnwyd John Jenkins i
mewn i'w holi.
Yn wir, ef oedd y gŵr a gâi ei amau fwyaf.
Ar sail gradd a enillodd yn y Gwyddorau Cymdeithasol tra oedd yn
y carchar, a'i brofiad yn y maes cymdeithasol wedi iddo gael ei
ryddhau, gwnaeth Jenkins gais am gael dilyn cwrs perthnasol yng
Ngholeg Prifysgol Cymru, Abertawe.
Fe'i gwrthodwyd gan bwyllgor
ad-hoc a alwyd ynghyd gan y Prifathro, Robert Steele.
Daeth yn
amlwg iddo gael ei wrthod am ei ddaliadau gwleidyddol, a golygai
hynny i'r Brifysgol dorri ei Siarter ei hun.
Yn raddol, diflannodd John Jenkins yn ôl i'r cysgodion yr
ymddangosodd ohonynt mor ddramatig pan arestiwyd ef yn 1969.
Er
gwaethaf yr holl rwystrau a osodwyd ar ei lwybr, caiff ei gofio fel un
a wnaeth, yn gam neu'n gymwys, garu ei genedl gymaint fel iddo
aberthu ei ryddid drosti.
Un anfantais i John Jenkins yn y chwedegau
oedd iddo fod yn wladgarwr pan nad oedd hi'n fanteisiol i fod yn
wladgarwr.
Anfantais fawr arall oedd iddo fod yn wladgarwr oedd
hefyd yn ddeallus.
Hyd heddiw, nid yw'r awdurdodau yn rhyw hoff
iawn o bobl felly.
Lyn Ebenezer