Portreadwyd fel creadur sy'n dueddol o ladd pob cymar a gaiff.
Petai'r holl hanesion am Catrin o Ferain, neu Catrin Tewdwr, yn wir,
yna byddai gan Gymru ei Lucrezia Borgia ei hun. Cafodd ei
phortreadu fel rhyw bry cop y weddw ddu, creadur sy'n dueddol o
ladd pob cymar a gaiff.
Am iddi briodi bedair gwaith - chwech, a hyd
yn oed saith, gwaith yn ôl rhai hanesion - golygai hynny ynddo'i hun
ei bod yn darged i feirdd a haneswyr amheugar.
Dywedid iddi
lofruddio rhwng un a chwech o'i gwŷr, rhai ohonynt wrth iddi
arllwys plwm tawdd i'w clustiau.
Mynnai rhai i'w gŵr olaf, y
chweched (neu'r seithfed), osgoi'r un ffawd drwy ei chadw hi'n
gaeth a'i llwgu i farwolaeth.
Hanesion a chelwyddau
Y stori a adroddir amlaf amdani yw iddi, ar ei ffordd i angladd ei
gŵr cyntaf, addo priodi ei hail ŵr, ac ar ei ffordd allan addo priodi
trydydd gŵr petai'r ail yn marw, ond dengys cronoleg hanesyddol fod
hyn hefyd yn gelwydd.
Roedd hanesion o'r fath yn frith yn y cyfnod,
rhyw fath o storïau Mills and Boon yr unfed ganrif ar bymtheg. Yn
wir, roedd hanesion o'r fath i'w cael ledled y byd.
Fel yn achos cynifer o hanesion ffug y cyfnod, tybir mai Thomas
Pennant, wrth groniclo'i daith drwy Gymru, oedd un o'r rhai cyntaf i
ledaenu'r storïau am Catrin.
Mynnai hwnnw i Syr Richard Clough,
wrth i Catrin fynd i angladd ei gŵr cyntaf, John Salisbury, sibrwd yn
ei chlust yr hoffai ei phriodi.
Yna, wrth iddi fynd o'r angladd,
gofynnodd Morris Wynn o Wydir am ei llaw.
Gwrthododd Catrin
hwnnw ond gan ychwanegu, petai Clough yn marw, y byddai'n barod
i'w briodi.
Harddwch a chyfoeth
Erys un ffactor bwysig sy'n gwahanu stori Thomas
Pennant oddi wrth y gwir.
Yn y cyfnod hwnnw ni fyddai gweddw'n
cael mynd ar gyfyl gwasanaeth angladdol; yn wir, ni fyddai unrhyw
fenyw'n cael bod yn bresennol.
Roedd y gwir am Catrin - neu o leiaf gymaint o'r gwir ag sy'n
bosibl dod o hyd iddo - yn dra gwahanol.
Roedd Catrin o Ferain yn
un o fenywod harddaf ei dydd, fel y dengys portread ohoni gan
Adrian van Cronenburgh a beintiwyd yn 1568 pan oedd hi'n 34
mlwydd oed. Roedd hi'n wyres i Harri VII ac yn fenyw ddeallus a
phwerus.
Oedd, roedd gwir yn y ffaith iddi briodi sawl gwaith. Doedd hynny
ddim yn anghyffredin o gwbl yn y cyfnod dan sylw, mwy nag ydyw
heddiw.
Y gwahaniaeth mawr yw mai ysgaru yw'r prif reswm dros
derfynu priodasau heddiw, tra mai marwolaeth oedd yr achos yng
nghyfnod Catrin. Roedd afiechydon yn rhemp.
Priodasau wedi eu trefnu
Ffactor arall dros
amlbriodi oedd nad cariad, yn aml iawn, fyddai wrth wraidd priodas
ond yn hytrach barhad llinach a chyfoeth.
Yn wir, dau ddewis oedd
gan ferched fel Catrin - priodi neu fynd i leiandy - ac o ystyried y
ddau ddewis, bu Catrin yn hynod ddoeth.
Er mwyn parhau llinach deuluol byddai priodasau'n cael eu trefnu,
rhywbeth a ddirmygir yng ngwledydd y gorllewin heddiw pan fo'n
digwydd rhwng pobloedd yn India a Phacistan, ond roedd parhad
llinach a gwehelyth yn fater holl bwysig bryd hynny.
O'r herwydd
trefnid priodasau'n aml pan fyddai'r ddarpar briodferch a'r darpar
briodfab yn dal yn blant.
Byddai'r ddau deulu yn dod at ei gilydd i
wneud y trefniadau, gyda thad y priodfab yn darparu cartref iddynt a
threfnu incwm ar gyfer y pâr ifanc a phennu faint o'r stad fyddai'n
eiddo iddynt.
Yn ogystal, byddai'n pennu maint y gwaddol a delid i'r
ferch petai hi'n cael ei gadael yn weddw.
Mewn gwirionedd,
cytundeb yn dibynnu ar arian ac eiddo oedd priodi - ceid cytundeb
cyfreithiol rhwng y ddau deulu. Lles teuluol oedd y ffactor bwysicaf.
Pe deuai cariad yn ffactor ychwanegol wedyn, yna bonws fyddai
hynny.
Llwyddo mewn priodas
Ganwyd Catrin Tewdwr yn 1534 yn ferch i Tudur ap Robert
Fychan a Jane Velville.
A do, fe briododd hi fwy nag unwaith -
bedair gwaith i fod yn fanwl gywir - ond nid y ffaith iddi briodi
gymaint o weithiau oedd wrth wraidd y celwyddau a ddywedwyd
amdani.
Yr hyn a wnaeth Catrin yn destun sgandal oedd iddi greu
eiddigedd drwy briodi'n dda bob tro, gan gynyddu ei dylanwad a'i
grym gyda phob uniad.
Mae'n wir mai ei gŵr cyntaf oedd John Salisbury, neu Salsbri.
John Salsbri oedd mab hynaf Syr John Salisbury, Lleweni,
Canghellor a Siryf Dinbych.
Roedd Catrin eisoes yn berchen ar
stadau Môn a Berain, sef ymron i bedair mil o erwau, ac roedd ei gŵr
i etifeddu tiroedd ei dad yn Ninbych a Fflint.
Bu farw Salisbury ac ailbriododd Catrin â Syr Richard Clough,
asiant masnachol yn Antwerp, yn 1567.
Bu Clough ar bererindod i
Gaersalem, a hynny a'i gwnaeth yn Farchog o'r Beddrod Sanctaidd.
Daeth yn ddyn dylanwadol a chyfoethog, ac ef a roddodd gychwyn i'r
Gyfnewidfa Stoc yn Llundain lle gweithiai hefyd fel asiant
gwleidyddol dros y Frenhines.
Daeth hynodrwydd arall i ran Clough
hefyd wrth iddo godi'r tfl brics cyntaf yng Nghymru, Bach y Graig.
Codwyd y tŷ mor gyflym fel i rai gredu fod Clough yn gweithio law
yn llaw â'r diafol. Bu farw Clough yn 1570 ac aeth Catrin yn ôl i
Ferain.
Pedwar gŵr
Y nesaf i ofyn am ei llaw, yn aflwyddiannus, oedd John Vaughan
o'r Gelli Aur yn Sir Gaerfyrddin.
Yn hytrach, priododd Catrin â
Morris Wynn o Wydir, un o Dywysogion Gwynedd a disgynnydd i
Rhodri Fawr, Tywysogion Powys, Iarll Salisbury a Llywelyn Fawr.
Fe'u priodwyd naill ai ym mis Ionawr 1572 neu 1573. Yn wir, bu
uniad arall yn fodd o dynhau'r cwlwm hwn ymhellach wrth i fab
Catrin o'i phriodas gyntaf briodi â merch i Morris Wynn o'i briodas
gyntaf yntau.
Bu farw Morris Wynn ar 10 Awst 1580. Gadawodd i Catrin
brydlesau a ffermydd yn arglwyddiaeth Dinbych a Sir Feirionnydd,
yn cynnwys ei eiddo yn Llannefydd.
Un o dystion ewyllys Morris Wynn oedd Edward Thelwell, Plas y
Ward, ac ef fyddai ei phedwerydd gŵr. Roedd Thelwell yn
ddisgynnydd i'r Tiwtoniaid a'r Normaniaid a dderbyniodd Ddyffryn
Clwyd fel rhodd gan Edward y Cyntaf, yn cynnwys Castell Rhuthun,
a ddaeth yn gartref i'r teulu.
Unwaith eto trefnwyd priodas ddwbl -
Catrin ac Edward, a merch Catrin o'i thrydedd briodas a Simon, mab
Edward o'i briodas gyntaf.
Hon fyddai priodas olaf Catrin. Bu farw ddiwedd Awst 1591. Er
iddi gael pedwar gŵr, nid oedd ond ychydig dros ei hanner cant oed.
Gadawodd chwech o blant, tua 16 o lysblant, tua 32 o wyrion ac
wyresau ac ugeiniau o ddisgynyddion eraill. O ganlyniad fe'i galwyd
yn Fam Cymru.