Michael Sheen - The Passion ,Port Talbot

Michael Sheen yn paratoi ar gyfer y cynhyrchiad

29 Ebrill 2011

Adolygiad Megan Jones o gynhyrchiad Michael Sheen o The Passion : Port Talbot. National Theatre Wales

The Passion, sioe olaf blwyddyn gyntaf National Theatre Wales oedd cynhyrchiad hiraf, mwyaf mentrus a mwyaf uchelgeisiol y cwmni gan barhau'n ddi-stop am dri diwrnod o ben bore Gwener y Groglith tan yn hwyr nos Sul y Pasg.

Roedd y cynhyrchiad, a grëwyd ar y cyd â chwmni theatr WildWorks ac a gyfarwyddwyd gan Michael Sheen, yn adfer traddodiad drama'r dioddefaint gan ddod â'r theatr i strydoedd, siopau, clwb cymdeithasol a thraeth Port Talbot.

Cynnwrf a brwdfrydedd

Efallai mai rhan Michael Sheen yn y cynhyrchiad oedd wedi denu sylw'r cyfryngau, ond o'r eiliad y cerddais i Ganolfan Siopau Aberafan ar y prynhawn Sadwrn, roedd y cynnwrf a'r brwdfrydedd ymysg pobl gyffredin y dref yn gwbl amlwg.

A chynhyrchiad pobl Port Talbot oedd The Passion: y corau, y grwpiau dawns a gymnasteg, y bandiau pres, plant ysgol a cherddorion a chantorion lleol a gymrodd ran a'r rhieni a ddaeth i wylio eu plant yn perfformio a'r bobl hynny a wyliodd wrth wneud eu siopa.

Roedd The Passion yn gyfle i drigolion ac ymwelwyr ymfalchïo yn y dref hynod hon. Ond yn fwy arwyddocaol, roedd y cynhyrchiad yn rhoi'r cyfle i drigolion tref sydd mor aml yn cael ei diystyru a'i beirniadu, i rannu eu straeon a'u hatgofion ynghyd â'u gobeithion am y dyfodol.

Y gynulleidfa'n rhan

Nid pobl Port Talbot yn unig oedd yn rhan o'r cynhyrchiad gan y teimlai'r holl gynulleidfa'n rhan annatod o'r perfformiad.

Roedd hyn yn arbennig o wir yn ystod golygfa'r "Gwrthsafiad" (Resistance), wrth i'r ganolfan siopa gael ei thrawsnewid yn rhan o Wladwriaeth yr Heddlu gyda milwyr arfog mewn lifrau duopn yn gorymdeithio o amgylch tra bo'r heddlu yn goruchwylio a gwylio'r siopwyr.

Yna'r gwrthdystwyr yn rhes swnllyd yn cyrraedd drwy'r dorf a chasglu'n gwlwm yng nghanol y ganolfan.

Ymunodd côr cymunedol â hwy, unwaith eto yn ymddangos o ganol y gynulleidfa.

Heb amheuaeth, roedd hyn yn cynyddu'r cyffro ymysg y gynulleidfa, ynghyd â sicrhau ein bod ni'n teimlo ein bod ni'n chwarae rhan yn y digwyddiad, yn hytrach na'i wylio'n unig.

Yr Athro

Uchafbwynt yr olygfa hon, heb os nac oni bai, oedd ymddangosiad Michael Sheen fel Yr Athro, y cymeriad Crist debyg.

Ond nid Crist y Testament Newydd oedd hwn. Yn hytrach dyn cyffredin mewn crys chwys a throwsus tracsiwt. Dyn cyffredin gyda'i wendidau, ei ansicrwydd a'i amheuon yn union fel pawb arall. Dyn heb ystyr i'w fywyd, oedd yn chwilio am arweiniad.

Archie

A dyna galon The Passion - bywydau pobl cyffredin mewn tref gyffredin a hynny i'w weld drwy gydol y cynhyrchiad, yn enwedig yng ngolygfa'r "Dychwelyd" (The Return).

Golygfa drist a thyner yn Stryd Llywellyn, cymuned a rwygwyd yn gareiau pan adeiladwyd traffordd yr M4 ac sy'n parhau i ddioddef hyd heddiw.

Rhannai Archie, dyn unig lleol, ei atgofion o'r gymuned a arferai fod mor brysur a bywiog - plant yn chwarae yn y stryd, y wraig brydferth yn canu wrthi'i hun wrth ddisgwyl i'w gŵr ddychwelyd o'r môr, y bachgen oedd yn chwarae'r un gân drosodd a throsodd ar ei chwaraewr recordiau.

Ond roedd popeth wedi diflannu. Popeth heblaw am Archie a'i stori oedd wedi ei chuddio mewn stryd gefn fechan a di-nod.

Archie, y dyn oedd wedi digalonni ac anobeithio, y dyn oedd wedi'i garcharu gan ei atgofion. Daeth yr atgofion yn fyw o flaen ein llygaid wrth i res o ffigyrau rhithiol, y meirwon a arferai fyw yn Stryd Llywellyn, ddod i'r amlwg.

Rhain oedd cymdogion a ffrindiau Archie - ei gymdeithas a'i gymdogaeth, ond ef yn unig oedd ar ôl o'r gymuned a ddymchwelwyd yn enw cynnydd.

Llwyddiant ysgubol

Roedd y cynhyrchiad hwn yn llwyddiant ysgubol a lwyddodd i ddod â'r gymuned at ei gilydd yn ogystal â rhoi'r cyfle i'r gynulleidfa ymuno â'r gymuned honno.

Ond yn fwy na hynny hyd yn oed, adfywiodd The Passion Bort Talbot trwy ddathlu ei gorffennol a'i phresennol ac ysbrydoli ei dyfodol.


BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.