Cath ddall ydi arwr annisgwyl llyfr i blant sydd newydd ei gyhoedd - Morgan y Gath Ddall gan Llinos Griffin.
Pum stori sydd yn y llyfr am y gath sy'n byw yng Nghaerdydd sydd a chryn ddoniau er yn ddall.
I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i BBC Webwise (Saesneg) am gyfarwyddiadau.
Ac wrth gael ei holi gan Caryl Parry Jones ar BBC Cymru fore Mercher Hydref 28 2009 datgelodd bod Morgan wedi ei sylfaenu ar gath go iawn - cath neb llai na'r Prifardd Twm Morys a'i wraig Sioned.
"Sioned ddaeth a'r syniad gan fod y gath yn medru gwneud pethau efo synhwyrau eraill - ond yng Nghaerdydd y gosodwyd Morgan gan fod hynny yn rhoi mwy o sgôp iddo fynd ar anturiaethau," meddai Llinos sydd, meddai, wedi bod yn sgrifennu ers gadael coleg yn 2003 ac wedi bod yn addasu DVDs i blant.
Ychwanegodd mai anabledd y gath sbardunodd y straeon yn y lle cyntaf ac mae'r llyfr yn gwneud ymdrech amlwg i ddangos sut mae Morgan yn goresgyn ei anabledd trwy ragori mewn cyfeiriadau eraill.
"Roedd gen i ewythr oedd yn ddall ac mae hynny yn rhywbeth sy'n agos at fy nghalon i ac roedd o yn dweud o hyd, 'Mae gan bawb wendid mae gan bawb anabledd a'r ffordd i ddod drosto yw defnyddio pob dim arall sydd gynno chi'," meddai Llinos.

"A dyna'n union mae Morgan yn ei wneud a dwi'n gobeithio mai dyna ydi'r neges neith o yrru i blant bach hefyd," ychwanegodd..
A'r tebygrwydd yw y cyhoeddir rhagor o straeon Morgan yn y dyfodol gan fod gan Llinos syniadau eraill.
"Dwi jyst wrth fy modd sgwennu i blant. Mae o'n sgwennu mor syml a dwi'n cael rywbeth mawr allan o'r ffaith fod plant yn darllen fy llyfrau i ddysgu darllen hefyd," meddai wrth Caryl.
Gwasg Carreg Gwalch sy'n cyhoeddiMorgan y Gath Ddall gan Llinos Griffin yn seiliedig ar syniad gan Sioned Morys. Lluniau gan José Solís. £5.50.



