- Enw
Meilyr Siôn. - Beth yw eich gwaith?
Actor. - O ble'r ydych chi'n dod?
Neuaddlwyd yng Ngheredigion. - Lle'r ydych chi'n byw yn awr?
Y Barri. - Wnaethoch chi fwynhau eich addysg?
Do. - Beth wnaeth ichi sgrifennu eich llyfr diweddaraf - dywedwch ychydig amdano?
Tra'n gweithio ym meithrinfa Silwli mi fyddwn ni' mynd â'r plant am dro o gwmpas Parc Thompson. Dyna lle cefais i'r syniad ar gyfer y gyfres Parc Deri. Mae'n ymwneud â'r anifeiliaid sy'n byw yn y parc a'u hymdrechion i ymdopi â'r amgylchfyd sydd ohoni ac effaith dyn ar ein bywydau. -
Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu?
Dyma'r un cyntaf. - Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn?
Sali Mali ac Asterix. - A fyddwch yn edrych arnynt yn awr?
Na. - Pwy yw eich hoff awdur?
JRR Tolkien. - A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch?
Affluenza gan Oliver James. - Pwy yw eich hoff fardd?
R. S Thomas. - Pa un yw eich hoff gerdd?
Reservoirs. - Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth?
Come to Wales to be buried - 'Welcome to Wales', RS Thomas. - Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
Hoff raglen deledu - Natural World. - Pwy yw eich hoff gymeriad a'ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth?
Hoff gymeriad - Bilbo Baggins, The Hobbit. -
Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?
Yn araf ond yn sicr. - Pa un yw eich hoff air?
Ie. - Pa ddawn hoffech chi ei chael?
Y ddawn o deithio amser. - Pa dri gair sy'n eich disgrifio chi orau?
Emosiynol,
gonest,
gweithgar. - A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan?
Mae yna ormod i'w nodi! - Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi'n ei edmygu fwyaf a pham?
Gandhi am ddisodli'r ymerodraeth Brydeinig o India yn heddychlon. - Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono?
Gwrthryfel Merched Beca. - Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu ei ofyn?
William Turner. Beth oedd dy hoff olygfa? - Pa un yw eich hoff daith a pham?
Unrhyw daith am adre. - Beth yw eich hoff bryd bwyd?
Unrhyw beth gan y fam yng nghyfraith - mae'n dda yn y gegin! - Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
Pysgota, cerdded a chasglu celf. - Pa un yw eich hoff liw?
Melyn. - Pa liw yw eich byd?
Coch. - Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?
Gorfodi gyrwyr i ddefnyddio eu indicators ac os nad ydynt, eu bod yn colli eu trwydded! - A oes gennych chi lyfr arall ar y gweill?
Ddim ar hyn o bryd ond pwy a ŵyr yn y dyfodol. - Beth fyddai'r frawddeg agoriadol ddelfrydol i nofel neu waith arall?
So chi'n dal i ddarllen, ydych chi?



