- Enw: Eurgain Haf
- Beth yw eich gwaith?
Swyddog y Cyfryngau gydag elusen Achub y Plant ac awdures yn fy amser sbâr. - Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?
Swyddog y Wasg i S4C a gweithio mewn amryw o westai a chaffis yn gweini. - O ble'r ydych chi'n dod?
O Beinisarwaun, pentref bach yn Eryri sy'n swatio yng nghesail Yr Wyddfa. - Lle¹r ydych chi'n byw yn awr?
Pontypridd - Wnaethoch chi fwynhau eich addysg?
Do. Ro'n i'n ffodus i ddod dan ddylanwad athrawon a darlithwyr ysbrydoledig iawn. - Beth wnaeth ichi sgrifennu eich llyfr diweddaraf - dwedwch ychydig amdano?
Mae'r nofel wedi ei hysbrydoli gan fy mhlentyndod yn Eryri, ardal sy'n frith o chwedlau am dylwyth teg, corachod, cewri, ffynhonnau a thwneli hud.
Mae sawl cysylltiad â'r Brenin Arthur ym Mhenisarwaun gan mai yma y mae Ffynnon Cegin Arthur.
Nofel ffantasi i blant yw Yr Allwedd Aur wedi ei gosod yn y flwyddyn 2050. Mae'n dilyn hanes Llwyd Cadwaladr, 13 oed, wrth iddo chwilio am y Brenin Arthur a'r allwedd aur i achub dyfodol Cymru rhag pwerau tywyll Gedon Ddu. - Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu?
Siencyn a'r Clociwr Cas (Dref Wen 2010)
Siencyn a'r Sipsiwn (Dref Wen 2009)
Dan Draed Dan Glo (Dref Wen 2009)
Siencyn a Dan Draed (Dref Wen, 2008)
Nerth Bôn Braich (un o saith o awduresau y nofel gywaith hon) (Gwasg y Bwthyn, 2008)
Stablau Seren (Dref Wen, 2006)
Fferm Ffion (Dref Wen, 2005)
Yn Nes at Baradwys - gol. Angharad Dafis (cyfrannwr) (Gwasg Carreg Gwalch, 2005)
Chwileniwm - gol. Angharad Price(cyfrannwr) (Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 2002) -
Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn?
The Magic Faraway Tree gan Enid Blyton. - A fyddwch yn edrych arno'n awr?
O dro i dro, am ysbrydoliaeth! - Pwy yw eich hoff awdur?
Mae gen i nifer ohonyn nhw: Caradog Prichard, Kate Roberts, Sonia Edwards, Angharad Price a Llwyd Owen yn y Gymraeg. Thomas Hardy, Jane Austen, Roald Dahl a Zizou Corder yn y Saesneg. -
A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch?
Y Dŵr gan Lloyd Jones. - Pwy yw eich hoff fardd?
T H Parry-Williams. - Pa un yw eich hoff gerdd?
Hon - Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth?
A rhodio'i heddwch wrthyf f'hun,
Neu gydag enaid hoff, cytûn.
Eifionydd, R.Williams Parry - Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
Ffilm: Trioleg Lord of the Rings
Rhaglen deledu: Holby City - Pwy yw eich hoff gymeriad a'ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth?
Hoff: Siôn Blewyn Coch, Llyfr Mawr y Plant
Cas: Alec d'Urberville o Tess of the d'Urbervilles gan Thomas Hardy. Hen gena' mewn croen! - Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?
Amynedd yw mam pob doethineb. - Pa un yw eich hoff air?
Sisial. - Pa ddawn hoffech chi ei chael?
I wefreiddio drwy ganu. - Pa dri gair sy'n eich disgrifio chi orau?
Trefnus
Petrus
Hapus. - A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan?
Mae gen i ddawn o wneud pethau'n anodd i mi fy hun! - Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi¹n ei edmygu fwyaf a pham?
Caryl Parry Jones. Dw i'n edmygu ei dawn a'i didwylledd. -
Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono?
Does dim byd amlwg. Dwi wedi profi sawl digwyddiad hanesyddol yn fy oes yn barod fel cael Cynulliad i Gymru a phenodi Arlywydd croenddu cyntaf America. - Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn?
Y Brenin Arthur. "Lle ti 'di bod?" - Pa un yw eich hoff daith a pham?
Dw i wrth fy modd yn cerdded y ci ar hyd y comin ym Mhontypridd sy'n fangre ysbrydol iawn. Dw i hefyd yn hoff o gerdded y daith i ddiwedd Cwm Pennant. - Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?
Sŵp pys mam. Does dim i'w guro! - Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
Cerdded yn Eryri, canu mewn côr a marchogaeth ceffylau. - Pa un yw eich hoff liw?
Pinc a du. - Pa liw yw eich byd?
Gwyrdd ac oren. - Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?
Sicrhau dyfodol S4C a'r iaith Gymraeg. Hefyd cael gwared ar fagiau plastig. - A oes gennych lyfr arall ar y gweill?
Gobeithio. - Beth fyddai'r frawddeg agoriadol ddelfrydol i nofel neu waith arall?
Hwyr glas.



