- Enw:
Eigra Lewis Roberts. - Beth yw eich gwaith?
Awdur. - Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?
Athrawes. - O ble'r ydych chi'n dod?
Blaenau Ffestiniog. - Lle'r ydych chi'n byw yn awr?
Dolwyddelan. - Wnaethoch chi fwynhau eich addysg?
Yn rhannol. - Beth wnaeth ichi sgrifennu eich llyfr diweddaraf - dywedwch ychydig amdano?
Darllen gormod o hunangofiannau. Nofel o fewn nofel yw Hi a Fi, yn cydio'r heddiw a'r ddoe, ffaith a dychymyg. - Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu?
Pob math o lyfrau, yn cynnwys nofelau, storïau byrion, cyfieithiadau. Dros ddeg ar hugain i gyd. - Pa un oedd eich hoff lyfr yn blentyn?
Llyfr Mawr y Plant a llyfrau Enid Blyton. - A fyddwch yn edrych arnynt yn awr?
Anaml iawn, - Pwy yw eich hoff awdur?
Yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn ond William Trevor sy'n dal ar y brig. - A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch?
Wedi gwneud argraff do; dylanwadu - naddo. - Pwy yw eich hoff fardd?
T.H. Parry-Williams. - Pa un yw eich hoff gerdd?
Ar hyn o bryd - 'Y ferch ar y Cei yn Rio' (T.H.P.W) a'r gerdd 'Gwanwyn' (R.Williams Parry) - Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth?
'Tybed fy mod i O Fi fy hun/ Yn myned yn iau wrth fyned yn hŷn'. - Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
The Killing of Sister George, Ryan's Daughter, The Full Monty, ac yn Gymraeg, Dau Frawd, Wil Sam a Con Passionate. - Pa un yw eich hoff gymeriad a chas gymeriad mewn llenyddiaeth?
Sawl hoff gymeriad. Cas gymeriadau, Lora Ffennig, Y Byw sy'n Cysgu a George Owen, Y Trydydd Peth, oherwydd eu hunanoldeb. - Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?
Y brycheuyn a'r trawst. - Pa un yw eich hoff air?
Heddwch. - Pa ddawn yr hoffech ei chael?
Y ddawn i ganu. - Pa air sy'n eich disgrifio chi orau?
Diffuant, goddefgar, gweithgar. - A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan?
Oes, ond a' i ddim i'w datgelu! - Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi'n ei edmygu fwyaf a pham?
Iesu Grist, am fod mor ddynol. - Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono?
Rydw i'n ddigon bodlon bod yn rhan o'r heddiw. - Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu ei ofyn?
Lloyd George. Ni fyddai angen geiriau. - Pa un yw eich hoff daith a pham?
Yr un sy'n dod â fi adra. - Beth yw eich hoff bryd bwyd?
Mae'n dibynnu ar yr hwyl, y tywydd, a maint yr eisiau bwyd. - Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
Darllen, sudoku, croeseiriau, arlunio, garddio, carafanio. - Pa un yw eich hoff liw?
Lliwiau llachar, cynnes. - Pa liw yw eich byd?
Cymysg iawn. - Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?
Unrhyw ddeddf a allai sicrhau dyfodol yr iaith Gymraeg. - A oes gennych chi lyfr arall ar y gweill?
Oes. Nofel a chyfrol o storïau byrion. - Beth fyddai'r frawddeg agoriadol ddelfrydol i nofel neu waith arall?
Mae hynny'n gyfrinach ar hyn o bryd.




