Geraint Jones - Epil Gwiberod yr Iwnion Jac

Rhan o glawr y llyfr

20 Tachwedd 2009

Adolygiad Glyn Evans o Epil Gwiberod yr Iwnion Jac gan Geraint Jones. Bwthyn. £8.95.

Yn yr Observer cychwynnodd Carole Cadwallader ei hadolygiad o lyfr Roger Lewis gyda'r geiriau:

"Roger Lewis is a bad-tempered, embittered, foul-mouthed, cantankerous old fart."

Oni bai am y foul-mouthed yna fe fyddwn i wedi gofyn iddi hi am fenthyg ei geiriau ar gyfer Epil Gwiberod . . ..

Clawr y llyfr

Ac fe fyddwn innau - fel y gwnaeth hithau - wedi ychwanegu ar ôl y frawddeg y geiriau, Ac rwy'n golygu hynna fel canmoliaeth ("And I mean that as a compliment").

Ond beth bynnag arall ydi o, dyw Geraint Jones ddim yn foul-mouthed - yn yr ystyr o regi beth bynnag. Ond gall fod yn un gerwin iawn ei dafod serch hynny.

Ac mae o'n Feldrewaidd dymherus, chwerw a chynhennus - a dyna sy'n gwneud hon yn gyfrol mor afaelgar. Hynny, a'r ffaith fod ganddo afael mor sicr ar y Gymraeg; weithiau a'i ddannedd yn ei gwar yn ysgwyd a 'sgytian cyffelybiaethau yn y ffordd fwyaf bendigedig.

Yn 'Y Cymro'

Casgliad ydi'r llyfr o erthyglau Sêt y Gornel a gyhoeddwyd yn Y Cymro a dihangfa wythnosol i'r gingroeniaid yn ein plith am ysbaid rhwng 2005 a 2006 - a waeth cyfaddef mae'r rhan fwyaf ohonom yn gingroen yn y bôn ond heb fod mor eofn a Geraint Jones i arddangos hynny.

Pennawd erthygl a gyhoeddwyd Fehefin 2006 yw teitl y llyfr - a'r awdur wedi ei wylltio, naci'n tad, wedi ei gynddeiriogi achos dydi Geraint byth yn jyst gwylltio, gan faneri croesgoch Lloegr oedd pobl yn eu harddangos ar y pryd i gyd-fynd a rhyw ornest bêl-droed bwysig.

A hynny maes o law yn ei arwain i roi inni hyd a lled Dug Caeredin.

Wrth gyflwyno'r eisteddwr 'Sêt y Gornel' inni mewn rhagair mae'r Prifardd Ieuan Wyn yn peintio darlun o wladgarwr cydnerth a diwyro ei argyhoeddiadau. Y cyntaf i'w garcharu yn ystod ymgyrchoedd iaith y Chwedegau (a'r hanes yng ngeiriau'r dyn ei hun ymhlith penodau gorau'r llyfr).

"Ei frogarwch gwydn a chreadigol yw sail naturiol ei wladgarwch tanbaid. Ei brofiad a'i ymrwymiad a roes iddo'i weledigaeth gymdeithasol o ddiwylliant yn ei amryfal weddau . . ." meddai Ieuan Wyn.

Gwytnwch a thanbeidrwydd

Mae gwytnwch a thanbeidrwydd yn y sgrifennu hefyd a phe byddai Geraint Jones yn gartwnydd Geraint Scarfe fyddai o; yn ddidrugaredd ei estumiadau llinellog i bwysleisio'r drwg i'w ddychan a'i waldio.

Fel sgrifennwr, gordd yw ei gwilsen ac y mae'n gorddio'n ddidrugaredd yma pan yw'n gweld yr angen gan fynd a'ch gwynt chi gyda'i arabedd a'i osodiadau sgubol.

Peryg hynny, wrth gwrs, yw i bobl yn y diwedd stopio gwrando a pheidio a'ch cymryd o ddifrif.

Cadw'u blas

Hyd yn oed wedi darllen y 'colofnau' o'r blaen yn Y Cymro - a rhyfeddu weithiau at ddewrder y golygydd - mae ffresni'r rhan fwyaf yn parhau gan beri syndod cyn lleied o ôl dyddio sydd ar y cyfraniadau.

Mae sawl hen glasur gwerth ymweld ag ef megis ei ymweliad â "dinas ddihenydd" y Bermo - "un o'r profiadau mwyaf swrrealaidd ac adwythig ac annaearol" a gafodd erioed, meddai:

Dim na gair nac acen Gymraeg mewn tri chwarter awr a "llenwid yr holl awyr, nid ag awelon mwynion y môr, ond ag arogleuon seimllyd sglodion a synau aflafar gwagedd estron Barmouth-by-sea.

"Llusgai surbychod coman a budron eu gwedd a'u diwyg heibio i ni, llawer ohonynt yn hanner meddw er mor gynnar yr awr, a'u hacenion yn gwbwl amddifad o dinc hyfryd lledfain de Meirion. Bolrythion glythion oll."

Ei dweud hi fel y mae, ddwedsoch chi?

Yr unig un

Weithiau mae'n rhoi'r argraff o'r unig ddyn gwâr sydd ar ôl mewn Gehenna o wlad a'i rhuddin yn deilchion.

Wrth ofidio am y prinder sylw i ddau gan mlwyddiant a hanner geni Thomas Charles o'r Bala mae'n beio'r "seciwlareiddio felltith a achosodd y fath wagedd a gwacter ym mywyd y genedl".

Gwareda mewn lle arall at "y diffyg affwysol o gyfleoedd geir yng Nghymru wasaidd a dianrhydedd i dderbyn addysg prifysgol cyfrwng Cymraeg".

Mae Cymru yng ngafael "yr estron ddwrn dur a hualau gwaseidd-dra."

Ei lach ar lenorion

Fan arall mae'n cystwyo to o lenorion ifanc am sgrifennu Saesneg yn Gymraeg gan ddweud:

"Mae llenyddiaeth Gymraeg yn frith o gystrawennau, ymadroddion a phriod-ddulliau Saesneg gyda dos go dda o gamddefnyddio geiriau Cymraeg syml," meddai.

"Y gwir amdani yw nad yw llenorion y genhedlaeth iau, ar y cyfan, yn ymddangos fel petaent yn darllen llyfrayu Cymraeg nac yn gyfarwydd â chlasuron ein llên," meddai mewn pennod arall.

"A barnu'n ôl a welaf mae eu hiaith - yn eirfa, cystrawen, gramadeg, priod-ddull, troeon ymadrodd, a hyd yn oed sillafu - yn ddiffygiol a thlawd a dweud y lleiaf. A rheswm da paham. Saesneg yw eu priod iaith er bod lle i gredu na sylweddolant hynny. Maent cyn belled oddi wrth safonau ieithyddol awduron cydnabyddedig y Gymraeg ag yw'r dwyrain oddi wrth y gorllewin."

Mor wahanol iddo ef ei hun y mae ei gyfeiriadaeth mor gyfoethog ac yn arddangos pori maith mewn llên â Beibl.

Cymaint felly y mae rhywun yn ofni y bydd llawer o'r cyffelybiaethau nid yn unig yn ddieithr ond yn gwbl ddiystyr i lawer o ddarllenwyr - ac ni ddywedir hynny fel beirniadaeth ar Geraint Jones.

Mae ei rychwant yn y gyfrol yn eang yn amrywio o unigolion i sefydliadau.

Ei bobl

Fel pawb ohonom, mae ganddo ei bobl wrth gwrs. Elfed Roberts "siriol ei groeso" o'r Penrhyn bob amser "a'i frwdfrydedd yn goferu" ond yr Arglwydd Dafydd Elis Thomas yn gowtowiwr sy'n dod dani droeon heb drugaredd yn y gyfrol - a hynny'n annheg ac annheilwng hefyd yn fy marn i.

Kneel Kinnock yw'r cyn arweinydd Llafur a chymer yr ordd hefyd at y canwr Aled Jones mewn erthygl anghysurus sy'n mynnu parhau tu hwnt i'w hamcan.

Ond dyna fo, fyddech chi ddim yn troi at y gyfrol hon i chwilio am gymrodedd a chyfaddawd gan mai byd o dduon a gwynion yw'r un a welir o Sêt y Gornel. Byd o gadwedig a cholledig. O ddefaid a geifr. A Geraint yn didol.

Ond diawch, mae rhyw apêl i wrando'r bytheirio a'r hefru pan yw'n cael ei wneud yn dda a chydag argyhoeddiad ac arddeliad. Y pleser o gael eich cyffroi a'ch cynddeiriogi bob yn ail.

Rhyfeddu gydag edmygedd at lif y brawddegau rhwysgfawr a'r ddawn i ddefnyddio trigain gair lle bodlonai arall ar dri!

A synnu, mewn gwirionedd, faint o weithiau rydych chi'n gofod cydnabod, Wel ie, y fo sy'n iawn!

I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i BBC Webwise (Saesneg) am gyfarwyddiadau.

  • Yn awr; gwrandewch ar Vaughan Hughes yn trafod Epil Gwiberod yr Iwion Jac ar y rhaglen radio, Wythnos Gwilym Owen.

A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn BBC Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.