Adolygiad o Llyfr lloffion Cae'r gors gan Dewi Tomos. Llyfrau Llafar gwlad 72. Gwasg Carreg Gwalch. £6.50.
Lladd ar ragfarn pobl leol
Yr adnod am broffwyd a'i wlad ei hun a ddeuai i'r cof wrth dynnu at derfyn y gyfrol ddifyr hon am hen gartref y wraig a fedyddiwyd yn dywysoges ac yn frenhines ein llên - Kate Roberts.

Ar ddalen 98 mae'r awdur yn feirniadol o ragfarn yn lleol tuag at adfer Cae'r Gors a hefyd tuag at Kate Roberts ei hun.
"Mae rhai pobl yn siŵr o ymateb yn negyddol bob tro y bydd menter yn sicrhau nawdd o arian cyhoeddus. Wast o bres! Mi fasa'n rheitiach eu gwario ar ysbytai neu ysgolion ayyb," meddai gan ychwanegu:
"Mae 'na ragfam yn erbyn Kate Roberts yn parhau i fodoli yn lleol, gan gynnwys pobl wnaeth erioed ei chyfarfod gan mwyaf erbyn heddiw.
"Daethom ar draws enghreifftiau o hyn wrth gynllunio i greu'r Ganolfan Treftadaeth. 'Beth wnaeth hi i ni?' 'Doedd hi byth yn dŵad i Rosgadfan'. 'Doedd hi ddim yn sbïo ar bobol.' 'Gwastraff arian ydi adnewyddu Cae'r Gors.'
Pam y rhagfarn
"Beth sy'n gyfrifol am hyn? Nifer o ffactorau mae'n debyg a'r lobscows cyfan wedi dŵad yn rhan o'r syniad lleol amdani, a'r trafod ar aelwydydd o genhedlaeth i genhedlaeth.
"Trosglwyddo heb feddwl, heb ystyried yn gyntaf. Gallwn gynnig y canlynol fel rhyw fath o eglurhad. Mater arall ydi cyfiawnhad.
"Fel ei mam a'i neiniau roedd Kate yn gymeriad cryf, yn dweud y gwir plaen, costied a gostio, ac felly'n gallu creu gelynion neu wrthwynebiad o leiaf. A chof hir gan bobl, a maddeuant yn absennol o'u geirfa.
"Pan gyhoeddwyd ei chyfrol gyntaf, O Gors y Bryniau yn 1926, mae'n debyg bod nifer go helaeth o'r trigolion lleol wedi ei darllen. O bosib bod rhai'n chwilio am debygrwydd yn y cymeriadau a'r digwyddiadau i bobl yr ardal a digwyddiadau go iawn, ac efallai ddim yn hoffi bod KR wedi sgwennu am eu teuluoedd fel y tybient.
"Efallai bod cam-ddehongli'r sôn am galedi a thlodi yn ei straeon, pobl falch oeddynt, heb weld mai tosturio, cyd-ymdeimlo â hwynt oedd KR ac nid 'rhedag amynt'. Straeon byrion oeddan nhw ac nid hanes," meddai Dewi Tomos.
Mae'n nodi hefyd mai aelod amlwg o Blaid Cymru oedd hi ond y chwarelwyr at ei gilydd yn "Llafurwyr rhonc".
Cadw draw
Mae'n ymddangos i Kate Roberts ddod dan lach rhai hefyd am gadw draw o'r ardal ar ôl gadael ond yr oedd rhesymau dealladwy am hynny yn ôl Dewi Tomos gan nad oedd ganddi berthnasau agos yno mwyach.
"Felly mae'n ddealladwy nad ymwelai yn aml. Atgofion trist y colledion ddaeth i'w rhan yn gwneud mynd i Rosgadfan yn boenus. Ond deuai draw yn achlysurol, tybed pa argraff gai ei gweld yn cyrraedd mewn car mawr du a chauffeur. Gwraig fawr? Gan na fu erioed yn gyrru car, pa ffordd arall allai wneud y siwrnai heb gymryd hydion?" meddai gan ddod i'r casgliad;
"Mae yna dueddiad i geisio gweld brychau ym mywydau y rhai sy'n llwyddo yn toes. Salwch trist ydi cenfigen."
A chan holi, "Beth wnaeth hi i Rosgadfan?" mae;n ateb ei gwestiwn ei hun trwy ddweud, " Ei anfarwoli."
O gyfrifiad i gyfrifiad
Mae'r llyfryn yn dilyn hanes Cae'r Gors, o'i godi yn 1833, o gyfrifiad i gyfrifiad gan gynnwys ymddangosiad cyntaf enw Kate Roberts wedi i'w theulu symud yno yn 1895 a hithau'n ferch pedair oed wedi ei geni ym Mryn Gwyrfai, Rhosgadfan, Chwefror 13, 1891.
Yr oedd hi'n 1971 pan gyflwynodd yr awdur yr eiddo "i'r genedl" ac olrheinir wedyn yr ymgyrch i addasu'r eiddo yn Ganolfan Dreftadaeth.
Ond mae'r gyfrol yn llawer iawn mwy na hanes adeilad. Mae'n gofnod o hanes ardal yn ei holl amrywiaeth a datblygiad a cheir nifer o ddyfyniadau perthnasol o weithiau Kate Roberts ei hun i liwio'r darlun cyflawn.
Manteisir ar y cyfle hefyd i olrhain ei gyrfa hynod amrywiol a'i chyfraniad fel un o brif lenorion ein gwlad eto gyda dyfyniadau difyr.
Daw'r gyfrol i'w therfyn gyda bywgraffiad blwyddyn wrth flwyddyn, llyfryddiaeth sy'n cynnwys nid yn unig restr o'i gweithiau ei hun, gan gynnwys cyfieithiadau ohonyn nhw, ond hefyd weithiau amdani a llyfrau am yr ardal.
Casgliad o luniau
Yng nghanol y gyfrol mae ugain dalen o luniau - ond cryno iawn yw'r wybodaeth gyda rhai ohonyn nhw, ond megis enwau person neu dŷ, ac er bod yr wybodaeth i'w chael yn y testun byddai wedi bod yn fuddiol i'r darllenydd gael brawddeg fer dan y lluniau hefyd.
Y Lôn Wen yn SaesnegCyrhaeddodd Llyfr Lloffion Cae'r Gors o fewn ychydig i gyfieithiad Gillian Clarke o Y Lôn Wen "darn o hunangofiant" Kate Roberts y dyfynnir yn helaeth ohono gan Dewi Tomos.
Cyhoeddir Y Lôn Wen / The White Lane gan Wasg Gomer gyda'r dalennau Saesneg bob yn ail a'r rhai Cymraeg gwreiddiol.
Cyhoeddwyd Y Lôn Wen gyntaf yn 1960 pan oedd Kate Roberts yn 69 oed.
"Erbyn hyn roedd yn cael ei chydnabod yn eang fel llenor rhyddiaith gorau'r ganrif," meddai Katie Gramich mewn cyflwyniad i'r cyfieithiad.

"Gan ddefnyddio'r person cyntaf a'r modd presennol yn amlach na pheidio, daw Roberts (ac mae'n odi i ddarllenydd Cymraeg weld cyfeirio at y Dr Kate wrth ei chyfenw moel fel yna) â'r darllenydd yn bersonol glos at y byd lle cafodd ei magu yn Arfon ar droad y ganrif.
"Tua diwedd yr hanes, mae hi ei hun yn cydnabod iddi gychwyn y dasg gydag agwedd ddiwyd y croniclwr, ac nad oedd hi'n disgwyl i ysbrydion y meirw ddod yn fyw a siarad â hi. Mae hyn yn arbennig o amlwg yn ei theyrngedau emosiynol i'w thad a'i mam; y naill yn ffigur ag iddo dawelwch gweddus ac urddasol, tra bod y llall lawer yn fwy cymhleth ac yn tynnu'n groes, ond y ddau yn dod yn fyw mewn modd cofiadwy," meddai gan wneud yn amlwg tamaid o ba frethyn oedd y llenor ei hun.
Mae'n ddifyr cael y ddwy gyfrol gyda'i gilydd ac fe fyddant, heb os, yn sbarduno diddordeb newydd yn yr awdur ac yng nghanolfan Cae'r Gors sydd ar gychwyn cyfnod newydd yn ei hanes gyda phenodiad diweddar Bethan Jones Parry.
I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i BBC Webwise (Saesneg) am gyfarwyddiadau.
Credu mewn siarad yn blaen
- Wrth drafod ei gyfrol gyda Gwilym Owen ar ei raglen, Wythnos Gwilym Owen, ddydd Llun, Mai 4, 2009 dywedodd Dewi Tomos fod y rhagfarn y mae'n cyferitrio ato yn ei lyfr "yn rhywbeth i'w ddisgwyl".
"Yr oedd y rhagfarn yna'n bodoli ymhell cyn i ni ddechrau cynllunio [y ganolfan]," meddai.
"Efallai ei fod yn beth iach. O leiaf mae'r bobl yna yn datgan barn yn dydyn - er mai barn negyddol ydi hi ond dwi'n teimlo ein bod ni wedi mynd gamau pell iawn ar ol dwy flynedd yn agored fel canolfan i ddangos beth sydd ganddom ni i'w gynnig i drigolion Rhosdgadfan," ychwanegodd gan ganmol hefyd gefnogaeth ysgolion lleol.
Ac er bod gwrthwynebwyr dywedodd fod yna bobl leol sy'n gefnogol iawn.
"Felly dydw i ddim yn poeni o gwbl ond eto fuaswn i ddim yn lecio anwybyddu hwnna yn y gyfrol yma . Dwi'n credu fel siarad yn blaen fel roedd Kate Roberts yn gwneud." Ychwanegodd er i'r Dr Kate ymddieithr io o ran presenoldeb ers marw ei brawd yn y Pumdegau dywedodd na wnaeth hi erioed adael y fro "yn ei meddwl".
I glywed y sgwrs yn llawn cliciwch ar y blwch ar y dde.



