John Gwynne - Ar Lan y Môr y mae . . . Adolygiad

Rhan o glawr y llyfr

08 Medi 2010

  • Adolygiad Janice Jones o Ar Lan y Môr y mae . . . gan John Gwynne. Carreg Gwalch. tt. 273. £4.95.

Mae'r newyddion yn llawn hanes marwolaeth y gŵr ifanc talentog o Fôn a oedd yn gweithio i MI6, a dyma dderbyn y nofel hon i'w hadolygu, nofel sy'n cysylltu Ceredigion ag ymgyrch i roi taw ar rai o arweinwyr isfyd Llundain yn y 60au.

Dyma nofel gyntaf John Gwynne, nofel swmpus 273 o dudalennau wedi eu rhannu'n 32 o benodau.

Yn anffodus, nid yw'r broliant ar glawr y gyfrol yn gwneud unrhyw gymwynas â'r nofel, gan ei fod yn ymdebygu i froliannau nifer fawr o nofelau Cymraeg eraill; hynny yw, effaith y gorffennol ar bresennol y cymeriadau.

Hanes Ditectif Chief Superintendent Alun Morgan, dirprwy arweinydd y Flying Squad, a'i ymgyrch i waredu'r byd o'r brodyr Capelo sydd yn y nofel, gyda'r ymgyrch honno yn arwain trwy ddirgel ffyrdd i ardal enedigol Alun yng Ngheredigion a chyfarfyddiad ag Elisabeth Wiliams, hen gariad iddo.

Stori 'cops and robbers' yw'r prif linyn storïol yn y bôn ac yn hynny o beth mae'r gyfrol ychydig yn simplistig o'i chymharu â llawer o nofelau ditectif cyfoes eraill: mae'r da yn dda drwyddynt draw a'r drwg, yn ddrwg i gyd.

Mae'r elfen hon yn dod i'r amlwg yn benodol yng nghymeriadau'r nofel; at ei gilydd, maent yn gymeriadau difyr, ond, oherwydd nad ydynt yn gyfuniad boddhaol o'r da a'r drwg, nid ydynt bob amser yn gredadwy.

Wedi elwa

Mae'r duedd hon at gymeriadau ystrydebol yn agwedd dderbyniol ar y stori dditectif 'draddodiadol', wrth gwrs, ond byddai cymeriadau'r nofel hon wedi elwa o fod ychydig yn fwy amlochrog.

Oherwydd hyn, yn ogystal, mae'r frwydr rhwng y 'da' a'r 'drwg' yn cael ei phortreadu mewn modd sydd yn gogwyddo tuag at y melodramatig mewn mannau.

Ond mae'r nofel yn cynnig darlun o sut yr oedd merched yn cael eu trin yn y cyfnod arbennig hwn a hynny o fewn yr heddlu a'r tu allan.

Yn wir, yn hyn o beth, mae'r nofel yn dwyn i gof gyfresi teledu fel The Sweeney, ble roedd merched yn ennill eu lle drwy wneud paneidiau diddiwedd o de ac addurno'r swyddfa!

Mewn iaith syml, uniongyrchol, hawdd ei ddarllen, mae'r stori'n symud o strydoedd Llundain i gefn gwlad Ceredigion lle mae'r awdur yn llwyddo i bortreadu naws ac awyrgylch Ceredigion a'i chymeriadau yn ystod 60au'r ganrif ddiwethaf, gyda'r golygfeydd sydd wedi eu lleoli yn siopau'r ardal yn darlunio bywyd y cyfnod mewn modd cynnil ac effeithiol.

Yn anffodus, nid yw uchafbwynt yr elfen 'cops and robbers' yn llwyddo i argyhoeddi cystal: heb ddifetha'r olygfa i ddarllenwyr, digon yw dweud nad yw efelychu un o uchafbwyntiau godidog Conan Doyle yn syniad da!

Yn allweddol

Mae'r stori garu rhwng Alun Morgan ac Elisabeth Williams hefyd yn rhan allweddol o'r nofel hon a, gwaetha'r modd, nid yw'r llinyn storïol hon ychwaith yn argyhoeddi.

Mae llawer o or ysgrifennu ynghlwm â'r elfen hon o'r gyfrol a syndod o'r mwyaf yw na fu golygu mwy buddiol a llym arni.

Gwnaed cam â John Gwynne yn hyn o beth: byddai chwynnu a thocio, yn enwedig ar yr elfen hon o'r gyfrol wedi gwneud cymwynas fawr â'r gwaith a'r awdur.

Oherwydd diffyg cynildeb, mae'r stori garu yn troi'n llinyn storïol Mills-&-Boonaidd nad yw'n asio mewn modd boddhaol ag elfennau eraill y nofel.

Mae yn y rhannau hyn o'r gwaith lawer gormod o ogordroi a bogail syllu ar y gorffennol, a byddai golygydd cymwys wedi gallu cynnig cymorth i awdur cymharol ddibrofiad ar sut i droi 'dweud, nid dangos' yn 'ddangos, nid dweud'.

Serch hyn, mae hon yn nofel gyntaf ddifyr ac addawol, a gobeithio na fydd hi'n hir cyn inni gael cyfrol arall gan John Gwynne.


A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn BBC Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.