Hoffman a Thompson

12ATair seren

  • Y Sêr: Dustin Hoffman, Emma Thompson.
  • Cyfarwyddo: Joel Hopkins.
  • Sgwennu: Joel Hopkins.
  • Hyd: 93 munud

Rhamant dau ddieithryn

Adolygiad Lowri Haf Cooke

Rhamant aeddfed a geir yn Last Chance Harvey, sef comedi ysgafn am ddau ddieithryn unig sy'n cwrdd ar hap ac yn syrthio mewn cariad ar ôl treulio diwrnod yng nghwmni ei gilydd.

Mae'r ffilm yn dechrau wrth i Harvey Shine (Dustin Hoffman) - cyfansoddwr cerddoriaeth hysbysebion o Efrog Newydd - lanio yn Heathrow ar gyfer priodas ei unig ferch, Susan (Liane Balaban), ac yn ei hast i gyrraedd y gwesty, mae'n anwybyddu Kate Walker (Emma Thompson), wrth iddi geisio holi cwestiynau i deithwyr yn rhinwedd ei swydd yn y maes awyr.

Ar gyrraedd parti'r noson cyn priodas, daw Harvey i ddeall y byddai'n well gan Susan gael ei thywys at yr allor gan ei llysdad, Brian (James Brolin), ac er mor boenus yw hyn, mae Harvey yn derbyn mai dyna fyddai orau gan ei fod e wedi addo dychwelyd ar gyfer cyfarfod allweddol nôl yn Efrog Newydd gan olygu gadael y briodas yn syth ar ôl y seremoni

Colli'r awyren

Yn anffodus, mae Harvey yn colli'r awyren yn ôl ac o fewn dim yn derbyn galwad ffôn i ddweud na fydd ganddo swydd i fynd nôl iddi gan fod y cwmni wedi penderfynu rhoi'r cytundeb i gyfansoddwr iau.

Does yna le'n byd arall i droi ond bar y maes awyr am wisgi mawr ac yno'n eistedd a gwydraid o chardonnay o'i blaen a nofel ramantus yn ei llaw y mae Kate Walker ar ddiwedd diwrnod digon diflas, yn dilyn dêt aflwyddiannus y noson gynt.

Mae'r cyfarfyddiad annisgwyl yma'n arwain at ddiwrnod pur anghyffredin ym mywydau'r ddau a chyfle euraidd i wneud iawn am gamgymeriadau'r gorffennol.

Ceir adlais o sawl ffilm arall yng nghynhyrchiad cyntaf y sgwennwr gyfarwyddwr Prydeinig Joel Hopkins, gan gynnwys Before Sunrise a Four Weddings and a Funeral.

Nid ystrydebau

Ond nid pentwr o ystrydebau a geir ynddi chwaith, diolch yn bennaf i sgript fywiog a pherfformiadau difyr gan Dustin Hoffman ac Emma Thompson.

Oherwydd mai pâr hŷn sydd yma, efallai mai'r gymhariaeth amlycaf ydy Something's Gotta Give am ramant pur annisgwyl rhwng sgwenwraig niwrotig Diane Keaton a playboy hynafol Jack Nicholson nôl yn 2003.

Ond rhaid dweud fod rhywbeth sy'n fwy hudolus fyth am y trysor hwn.

Yn un peth, mae Last Chance Harvey yn cynnig rhan flaenllaw i'r unigolion tawel hynny yn y cefndir sy'n teimlo iddynt golli eu cyfle olaf am hapusrwydd ac er iddynt geisio'u gorau i ddianc rhag eu bywydau papur wal, yn gorfod derbyn na ddaw na'r un dylwythen deg i wireddu eu breuddwydion nhw.

Pur anaml y caiff cymeriadau mor 'gyffredin' eu cynrychioli mewn ffilm gymharol fawr fel hon, heb sôn am gymeriadau dros eu hanner cant oed, a rhaid canmol y ddau brif actor am gynnig perfformiadau mor hyfryd o ddiymhongar.

Yn blodeuo

Braf gweld Dustin Hoffman yn dewis hepgor ei ticks arferol a brafiach fyth gweld Emma Thompson yn blodeuo mewn perl o ran sy'n cyffwrdd ag is stori ingol o drist.

Pleser o'r mwyaf hefyd yw gweld un o Gymru yn chwarae rhan allweddol. Cylluniwyd ffrog briodas brydferth Susan - sy'n ymddangos yn un o'r golygfeydd mwyaf dirdynnol - gan Stephanie Alinn o'r Mwmbwls.

Yng nghanol môr o flocbysters cynhyrfus yr haf mae hon yn ffilm sy'n cyffwrdd â chyffroi yn llawer mwy na'r cyffredin. Rhowch gyfle iddi.


Mwy

Llyfrau

Matthew Rhys

Holi ac adolygu

Holi awduron ac adolygu'r llyfrau Cymraeg diweddaraf

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.