
 |  | Hotel Rwanda
Pan yw pobl dda yn dewis gwneud dim
|
Sylwadau wythnosol Aled Edwards Mawrth 12, 2005
Yn rhyfedd iawn, wrth weld y ffilm ysgytwol Hotel Rwanda daeth atgofion cymysg yn ôl o ddyddiau dedwydd yn gweinidogaethu ym Mhen Llyn.
Darlunio mae'r ffilm sut yr aeth Hwtw Rwanda ati dros gyfnod o dri mis, ddeng mlynedd yn ôl, i ddifa miliwn o Twtsi'r wlad.
Y mae hefyd yn datgelu sut, mewn byd sy'n pwyso cymaint ar rwyddineb ei gyfryngau torfol,sut y llwyddodd pawb i droi llygad dall ar y cyfan.
Nid hon oedd awr oraf y gymuned ryngwladol.
Darluniau yw'r rhain sy'n bell iawn o'r fan honno yng ngogledd Cymru sy'n enwog am fod yn lle da i enaid gael llonydd.
Bro Botwnnog Fel offeiriad plwyf ifanc ym Motwnnog yn ystod yr wythdegau bûm yn hynod o ffodus yn nhermau'r hyn a drosglwyddwyd imi gan fy rhagflaenydd, y diweddar Ganon John Vevar. Cristion annwyl ac uchel ei barch.
Yn fy llaw fe roddwyd cynulleidfa a oedd yn tyfu, eglwysi Cymraeg hynod o braf i'w bugeilio ar y cyd ac ymrwymiad penodol i Genhadaeth Canol Affrica.
Yn flynyddol, cynhaliwyd Ffair Awst er hyrwyddo a chynnal ysbyty arbennig yn Uganda.
Derbyn cenhadon Yn achlysurol, byddai meddygon o'r ysbyty yn Uganda yn ymweld â Llyn gan drafod cryfderau ac anawsterau'r ffydd Gristnogol yn Rwanda a'r gwledydd cyfagos.
Adroddwyd hanes y diwygiadau ysbrydol mawrion a gafwyd mewn gwledydd fel Rwanda a Bwrwndi.
Soniwyd am eglwysi llawn.Ystyriai mwyafrif llethol pobl Rwanda eu hunain yn Gristnogion. Rhoddwyd diolch i Dduw am hyn mewn sawl cyfarfod gweddi yn Rheithordy Botwnnog.
Dychryn a syndod Testun braw, dychryn a syndod oedd derbyn y newyddion yn 1994 am yr hil-laddiad dieflig ac erchyll a fu yn Rwanda wrth i'r Hwtw ladd o ddeutu miliwn o Twtsi.
Fe'u lladdwyd yn eu miloedd yn y modd mwyaf gwaedlyd.
Yn ystadegol anorfod, bu Cristnogion yn lladd Cristnogion eraill. Os nad hynny, dewisodd rai weld, gwneud a dweud dim.
Er tristwch, y mae'n rhaid i'r eglwysi fyw â'r gwirionedd i Gristnogion Rwanda wneud pethau erchyll i Gristnogion eraill.
Paul Rusesabagina Wedi dweud hyn, gallwn lawenhau i eraill wneud pethau gwirioneddol ddewr a da. Un ohonyn nhw oedd Paul Rusesabagina.
Er mawr glod iddo, gwahoddodd dros fil o drueiniaid i'w westy.
Yng nghanol ymddygiad cwbl ddieflig cafwyd ychydig o oleuni.
Yr hyn a wna'r ffilm Hotel Rwanda yw dathlu'r hyn a wnaeth yr un unigolyn hwn a gwneud hynny mewn modd sy'n tanlinellu'r dioddefaint a'r creulondeb ond heb foddi ynddo.
Trwy'r cyfan cynhelir yr ymdeimlad o ofn heb lithro i sentiment afreal.
Lle'r unigolyn Erbyn hyn, ar ôl ffoi y cyfan a ddigwyddodd yn Rwanda, y mae Paul Rusesabagina yn byw gyda'i deulu yng Ngwlad Belg.
Heddiw, gellir dathlu'r hyn a wnaeth.
I mi, prif rinwedd y stori hon yw'r gwirionedd tragwyddol y gall un unigolyn greu newid.
Erys y tristwch damniol i filoedd fethu â gwneud hynny ac i ddrygioni ffynnu wrth i bobl dda weld, dweud a gwneud dim.
Mae'r her hon yn addas ar gyfer pob cyswllt, gan gynnwys ein cyswllt ni.
.
Cliciwch i ddarllen Sgyrsiau Dweud ei ddweud, Post Cyntaf
Ebostiwch ymateb
|  | 
  |  |
 |  | | Y Parchedig Aled Edwards yn rhoi'r byd yn ei le. |  |
|
|
|