bbc.co.uk
Home
Explore the BBC

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
BBC Cymru'r Byd

News image

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd
»Straeon
Wythnos o Feddwl
Meddygol
Llythyrau
Miss Jones

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


AlexanderAlexander
yn siom fawr


Methu darlunio
mawredd realiti

Sylwadau wythnosol Aled Edwards

Ionawr 9 2005

Aled Edwards, awdur yr erthygl hon
Bûm yn edrych ymlaen ers wythnosau lawer i weld ffilm epig newydd Oliver Stone, Alexander.

Yn fy mrwdfrydedd roeddwn ymysg y cyntaf i'w gweld yng Nghaerdydd yr wythnos hon.

O ymchwilio ychydig i hanes Alexander, roeddwn yn gobeithio'n fawr y byddai'r ffilm yn trafod athrylith milwrol yr arwr o Facedonia a aeth ymlaen nid yn unig i wthio ffiniau'r byd ond i'w goncro hefyd.

Cafwyd haid o sêr ymysg y goreuon yn Hollywood er mwyn sicrhau llwyddiant y cyfan: Colin Farrell, Angelina Jolie, Val Kilmer, Anthony Hopkins, Jared Leto, Rosario Dawson, Gary Stretch, Jonathan Rhys-Meyers, Elliot Cowan, Rory McCann, Raz Degan a Brian Blessed.

Hel atgofion
Mae'r ffilm yn dechrau gyda Ptolemy (Anthony Hopkins) yn hel atgofion ac yn eu hysgrifennu ar gyfer hanes.

I Ptolemy, roedd methiannau Alexander yn rhagori ar lwyddiannau dynion eraill.

Oliver StoneDywedir weithiau, yn yr un modd, bod ffilm wael o eiddo Oliver Stone yn fil gwell na ffilmiau cyfarwyddwyr eraill.

Efallai bod hynny'n wir ond ffilm wael oedd hon ar y cyfan.

Er tegwch, ni allai unrhyw actor neu gelfyddyd wneud tegwch â dyn a deithiodd dros 20,000 o filltiroedd gan goncro'r cyfan a aeth o'i flaen.

Wedi dweud hyn, roedd y dechneg o gael Ptolemy i adrodd sawl hanes o bwys yn dechneg hynod o siomedig.

Gan fy mod wedi mynd i'r drafferth o wybod rhywfaint am athrylith milwrol Alexander roeddwn yn ysu gweld y cyfan. Fe gefais fy siomi.

Pethau od
Mae tad Alexander, Philip o Facedonia, yn cael ei ddarlunio fel dipyn o iob. Roedd gan y dynion o Facedonia acenion a oedd yn swnio'n Wyddelig braidd.

Os oedd hynny'n wirion, roedd yr acen a roddwyd i Olympias druan, mam Alexander, yn hynod o od.

Treuliodd Angelina Jolie y ffilm yn siarad fel rhywun o Transylvania. Gan ei bod bron yn gwisgo nadroedd cafwyd y teimlad nad oedd y wraig hon yn real.

O weld y cecru rhyfeddol rhwng mam a thad Alexander, nid syndod efallai oedd iddo ffoi i fannau pell y byd gan briodi Roxane (Rosario Dawson).

Gwleidyddiaeth
Mae'n debyg taw'r hyn a gododd y cyfog mwyaf arnai oedd yr ymresymu a gafwyd dros goncro a lladd pobl er mwyn eu rhyddhau o ormes. Gobeithiaf yn fawr nad bwydo gogwydd Americanaidd er mwyn gwerthu'r ffilm oedd amcan hyn.

Cafwyd rhyw fath o rwdlan o gwmpas rhyddhau holl bobl y byd yn rhagori fel gorchwyl ar y cyfan a wnaeth Achilles a Herakles heb sôn am Prometheus ei hun.

Agwedd arall ar ddiwylliant cyfoes America a gafodd ddylanwad ar y ffilm oedd amharodrwydd y gwaith i ddangos bod ymwneud rhywiol dynion â dynion eraill ym myd gwlad Groeg y cyfnod yn wahanol i'r hyn a fyddai diwylliant America am ei weld ar ffilm heddiw.

Oherwydd hyn, caniatawyd llawer gormod o le a gofod ar gyfer awgrymu perthynas rhwng Alexander a Hephaistion.

Y frwydr fawr
I mi, yr hyn sy'n gwneud y ffilm yn un gwerth i'w gweld yw brwydr fawr Guagamela yn erbyn lluoedd Darius.

Ffilmio brwydrY mae'r berthynas rhwng y lladd gwaedlyd ar y ddaear a'r hyn y mae'r duwiau yn ei weld o'r awyr yn gweithio'n dda.

Y mae'n bechod nad oedd gweddill y ffilm cystal gan i mi adael y sinema yn atgoffa fy hun na all holl gelfyddyd a dawn marchnata dyn ddarlunio mawredd realiti.

Efallai, mewn wythnos drychinebus fel hon, taw da o beth yw hynny.

Ebostiwch ymateb




Wythnosau Blaenorol:

News image
Chwiliwch
Chwiliwch
Chwiliwch
Chwiliwch
News imageCyfoes
News image
News imageCofio gof gwlad
Atgofion am gyfnod sydd wedi darfod yng nghefn gwlad Cymru

John RobertsAr drywydd John Roberts
Dyn sy'n dipyn o sant


News imageStraeon a lluniau o Eisteddfod Eryri 2005


News imageCofio Gwenynen Gwent
Cymdeithas Arglwyddes Llanofer

Wythnos o Feddwl
Y Parchedig Aled Edwards yn rhoi'r byd yn ei le.
Wythnos o Feddwl



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy