
 |  | Dewis dewis . . .
. . . rhwng Bush a Kerry |
Sylwadau wythnosol Aled Edwards Hydref 31, 2004
Bush neu Kerry? Pedair blynedd yn ôl roeddwn yn ddigon gwirion i ddweud y byddwn yn aros ar fy nhraed i weld pwy fyddai'n fuddugol - Bush neu Gore.
Nid oeddwn yn rhagweld y byddai'n rhaid i mi gadw'n effro am wythnosau lawer i weld pwy a fyddai'n cipio'r goron arlywyddol.
Onibai fy mod yn deall ychydig yn well erbyn hyn pa mor bwysig yw taleithiau i'r Americanwyr, byddwn yn mentro awgrymu'n gyhoeddus fod y drefn yn un gwbl hurt.
Y tro diwethaf, Gore oedd y mwyaf poblogaidd yn nhermau pleidleisiau ar draws y wlad.
Yn hyn o beth, gellir dweud rhywbeth cyffelyb am etholiadau San Steffan. Yma, gellir cael mwyafrif mawr ar sail cefnogaeth gweddol fychan. Trefn a fu'n rhy garedig wrth Thatcher a Blair.
Daeth rhywbeth arall i'r amlwg ers yr etholiad diwethaf. Er taw Saesneg ydi iaith mwyafrif yr Americanwyr, nid Saeson ydyn nhw.
Maen nhw'n bobl cwbl wahanol. Fe allwn ni fod yn gas mewn etholiadau Prydeinig, ond fe fu'r etholiad hwn yn un rhyfeddol o gas.
Y taleithiau allweddol Er mwyn ceisio dirnad pwy fydd yn fuddugol eleni, cefais gyfle i daro golwg ar bolau piniwn y taleithiau allweddol hyn: Pennsylvania, Ohio, Michigan, Iowa a Minnesota.
I mi gofio, ond un o'r taleithiau, Ohio, a welodd yn dda i gefnogi Bush y tro diwethaf. Wythnos cyn yr etholiad yr oedd Kerry ar y blaen yno ac ym mhob un o'r gweddill heblaw am Iowa sy'n gwyro i gyfeiriad Bush.
Dim llawer o newid yno felly.
Ymddengys bod mwyafrif llethol y polau yn ffarfrio Bush yn Florida. Mae hi'n dalaith fawr sy'n meddu ar sawl sedd ar gyfer y coleg etholiadol ond, hyd yn oed yn Florida, y mae mwyafrif y polau yn dwyn canlyniadau sy'n hynod o agos.
Ar hyn o bryd, fe fyddai'n cymryd proffwyd i ddirnad nid yn unig pwy sy'n mynd i gipio'r goron ond a fydd canlyniad i'w gael yr wythnos hon.
Adnabod yr ymgeiswyr Bûm yn gweithio'n galed yn ceisio deall sut y gallai unrhyw un yn ei iawn bwyll bleidleisio dros Bush, heb sôn am hanner gwlad.
O'i wylio'n agos ers wythnosau, gwelaf erbyn hyn, bod mwy yn perthyn i'r arweinydd hwn na'r hyn y mae nifer fawr yn Ewrop yn ei dybio.
Mae'n fwy nag arian hefyd.
Yn dilyn trychineb '9:11' roeddwn yn pregethu mewn eglwys a oedd yn cynnwys ymwelwyr o America.
Daeth un o'r ymwelwyr hyn i fynegi ei diolchgarwch ar ddiwedd y gwasanaeth taw Bush oedd wrth y llyw.
Y mae'r dyn yn meddu ar rinwedd sy'n gwneud i nifer fawr o'i gydwladwyr deimlo'n ddiogel dan ei ofal. I mi, mae'r peth yn rhyfeddod, ond yn wir.
Cafwyd cyfle hefyd i adnabod Kerry a'i deulu ac i mi mae'n llawer mwy credadwy na Bush.
Gogwydd wleidyddol ar fy rhan i sy'n bennaf gyfrifol am hynny fe dybiwn. Ond, cred llawer bod ei berfformiad yn y dadleuon teledu yn well.
Wedi dweud hyn, un o'r cyfoethogion ydi Kerry hefyd a thu hwnt i ambell gam eithaf ceidwadol, nid wyf yn dirnad gwahaniaethau polisi enfawr rhwng y ddau.
Defnyddio teuluoedd
Yr hyn sydd wedi fy rhyfeddu y tro hwn yw'r lle amlwg a roddwyd nid yn unig i Laura Bush a Teresa Heinz Kerry ond i'w plant.
Bu gwerthu caled ar rinweddau Alex a Vanessa Kerry. Y mae Alex am fod yn actores a Vanessa yn feddyg.
Felly hefyd y gwerthu ar Barbara and Jenna Bush. Cafodd y ddau gi eu crybwyll yn ogystal, Spot a Barney.
Nid wyf ond yn gweddïo y bydd y sawl fydd yn cael ei ethol i swydd mwyaf grymus y byd yn cael ei ddewis ar rywbeth llawer amgenach nag agwedd tuag at Spot a Barney.
Yr un arall Peidied neb ag anghofio'r un ymgeisydd arall - Ralph Nader, sy'n ymgyrchu ar faterion amgylcheddol.
Fe all hwn greu difrod i ymgyrch Kerry yn y mannau hynny sy'n hynod o agos.
Yr eironi, os nad y tristwch, pennaf fyddai gweld Nader unwaith eto yn rhoi'r fuddugoliaeth i'r Gweriniaethwyr a fu mor hynod o ddi-hid ynghylch materion amgylcheddol.
Ceir un arall pellach, sef Duw. Mae Bush yn efengylaidd: mae Kerry yn babydd.
Y mae sawl un yn America yn gwybod pwy y mae Duw am bleidleisio drosto ond nid wyf i yn rhannu eu hyder.
Yn sgil dewis yr wythnos hon dwi'n wirioneddol falch bod Duw yn fwy nag unrhyw ddehongliad ohono ac nad yw ym mhoced yr un ohonon ni.
Bethan Lewis yn Efrog Newydd
Ebostiwch eich ymateb
|  | 
  |  |
 |  | | Y Parchedig Aled Edwards yn rhoi'r byd yn ei le. |  |
|
|
|