
 |  | Diwedd cyfnod - dechrau cyfnod
Wrth ddirwyn rhywbeth i ben, dymunaf fendithion hael ar gyfer ein dyfodol |
Sylwadau wythnosol Aled Edwards Mehefin 25, 2006
Dechrau Cyfnod Daw'r darn olaf hwn a chyfnod i ben. Ar ôl ysgrifennu pytiau wythnosol am gyfnod o chwe blynedd, daeth yr amser i ddirwyn y gyfres Wythnos o Feddwl i'w therfyn. Y mae hynny'n ddealladwy ac yn briodol.
Rhywbeth sy'n peri llawenydd mawr i mi yw gweld sut y mae cornel darpariaeth grefyddol BBC Cymru'r Byd wedi ymestyn i gynnwys sgyrsiau Dweud Eich Dweud a sawl cyfraniad arall gan ystod eang o gyfeillion sydd â phethau gwerthfawr i'w ddweud.
Croesawaf yn fawr yr ymestyn a fu. Er hyn, fe fyddaf yn colli'r ddisgyblaeth wythnosol o ysgrifennu'r myfyrdodau bychain hyn. Diolchaf hefyd am gwmni ambell ddarllenwr cyson. Diolch am y cwmni.
Gwaith cyfaill Ar ffurf gwasanaeth cyhoeddus, daeth cyfnod arall i ben yr wythnos hon.
Cafwyd cyfle nos Wener diwethaf i ddathlu gweinidogaeth allweddol bwysig y Parchedig Gethin Abraham-Williams yn Eglwys Gadeiriol Llandaf.
I mi, bu Gethin yn gyfaill ac yn gydweithiwr agos. Byddaf yn colli ei lywio gofalus yn ogystal â'i gyfeillgarwch cyson.
Dros y misoedd nesaf hyn fe fydd Gethin yn ymddeol ar ôl blynyddoedd o wasanaeth neilltuol o ffyddlon i'r broses eciwmenaidd Gymreig.
Yn fwyaf penodol yn ddiweddar, bu'n gwasanaethu fel Ysgrifennydd Cyffredinol CYTUN, sef Eglwysi Ynghyd Yng Nghymru.
Cydnabod dyled Y mae dyled sawl un sydd am weld eglwysi yn gweithio a'i gilydd yng nghwmni cyfeillion o gredoau eraill yn fawr i Gethin.
Yn sgil datganoli, gwelodd Gethin yn dda i ddarparu modd i ddwyn cymunedau ffydd Cymru at ei gilydd trwy gyfrwng Fforwm Aml Ffydd y Cynulliad Cenedlaethol.
Ef hefyd fu'n bennaf gyfrifol am osod perthynas yr eglwysi a'r Cynulliad yng nghanol bywyd cyffredin yr eglwysi.
Yn fwy na dim, gallwn ddiolch i Gethin am ei waith da o gynnal fflam eciwmenaidd ynghyn yng Nghymru mewn cyfnod anodd yn hanes y gymuned Gristnogol Gymreig.
Gweddïaf ar i Dduw ganiatáu iddo ymddeoliad hir a bendithiol.
Llythyr annisgwyl Wrth ddirwyn ambell beth i ben, agorodd pennod bersonol cwbl annisgwyl yn fy hanes. Felly y mae pethau'n gweithio o dan ras Duw. Daw penderfyniadau anodd weithiau i ran yr unigolyn yn sgil gwahoddiadau.
Pum wythnos yn ôl cyrhaeddodd llythyr cwbl annisgwyl ein ty ni yng Nghilfynydd.
Ar flaen yr amlen, cafwyd cyfeiriad trawiadol 10 Downing Street.
Heb yn wybod i mi, roedd cyfeillion agos ymysg ffoaduriaid Cymru, rhai o'n lleiafrifoedd ethnig ac ambell gyfaill o fyd aml ffydd Cymru wedi fy enwebu ar gyfer anrhydedd.
O dderbyn y llythyr arbennig hwn roedd rhaid penderfynu yn gyflym os oeddwn am ei dderbyn ai peidio.
Gallaf ddeall a gwerthfawrogi safiad egwyddorol y Cymry da hynny a wrthododd dderbyn anrhydeddau o'r fath: gallaf ddeall a gwerthfawrogi safiad egwyddorol y Cymry da hynny a dderbyniodd anrhydeddau o'r fath.
Beth oeddwn i'w wneud?
Yr hyn sy'n aros Fe benderfynais yn union syth o'r bron y byddwn yn derbyn yr hyn a gafodd ei gynnig gyda'r un haelioni a'r brwdfrydedd y cafodd ei gynnig.
Yr oedd rhan ffoaduriaid Cymru yn y cynnig hwnnw yn golygu llawer i mi.
Efallai taw teg yw galw pobl sy'n derbyn pethau o'r fath i ryw fath o gyfrif cyhoeddus. Mater cyhoeddus wedi'r cwbl yw anrhydedd cyhoeddus.
Yn fy ymateb i'r cyfan fe ddysgais rywbeth newydd amdanaf fi fy hun.
Fe ddysgais hefyd am bobl eraill yn eu hymateb nhw i'r newyddion.
Beth bynnag, nid wyf am boeni'n fawr am gael fy nghreu yn swyddog o ymerodraeth nad yw bellach yn bod.
Yr hyn sy'n aros i mi heddiw, fel Cristion cenedlaetholgar Cymreig, yw'r dyheu personol am Gymru ddatganoledig gyfoes fel gwlad lle y mae pobl yn dod at ei gilydd a lle nad oes neb yn cael ei adael ar ôl.
Diolchaf am y fraint anhygoel o gael hel meddyliau o gwmpas y pethau cysegredig hyn yng nghymdeithas Cymru'r Byd dros gyfnod o chwe mlynedd.
Wrth ddirwyn rhywbeth i ben, dymunaf fendithion hael ar gyfer ein dyfodol. Dyfodol dwi'n mawr obeithio fydd yn gynyddol well.
Dymunwn ddiolch i Aled Edwards am ei gyfraniadau wythnosol ers cychwyn BBC Cymru'r Byd. Rydym yn falch o ddweud y bydd yn parhau i gyfrannu'n achlysurol i'n gwefan newydd, Crefydd Cymru.
Gwefan Aled Edwards
Gwefan Crefydd Cymru
I ddarllen detholiad o Sgyrsiau Dweud ei Ddweud, Post Cyntaf Cliciwch
Bwrw Golwg
Ebostiwch ymateb
|  | 
  |  |
 |  | | Y Parchedig Aled Edwards yn rhoi'r byd yn ei le. |  |
|
|
|