
 |  | Llythyr:
'Mwy o gyts na sens' gan Sant?
7 Tachwedd 2001
| Llythyr oddi wrth Aled Edwards
Annwyl Gyfeillion,
Dim ond gair bach i ddiolch i Gymru'r Byd am roi sylw teilwng i ymdrechion trigolion Trawsfynydd i gofio un o hogia' amlycaf y pentref.
Fel un a gafodd ei fagu yn yr ardal, gallaf ond rhyfeddu i ni fod mor amharod i roi'r lle priodol i Sant John Roberts ym mywyd y fro a'r genedl. Efallai i gymeriad ymneilltuol yn yr ardal gadw’r hanesion dan ryw fath o orchudd.
A ninnau'n byw bellach mewn byd sy'n fwy parod i ddwyn Cristnogion at ei gilydd, gellir ond gobeithio y bydd Cymru gyfan yn cynorthwyo bobl Traws yn eu hymdrechion i godi cofeb deilwng i un o gewri mwyaf yr ardal.
Bydd y traddodiad Catholig yn parchu John Roberts fel rhyw fath o ail Awstin. Ef oedd y sant a ddaeth yn ôl i Brydain wedi'r diwygiad Protestannaidd i adfer y ffydd Gatholig yn y tir.
Gobeithiaf yn fawr erbyn hyn, y gall holl Gristnogion Cymru hawlio tystiolaeth gadarn a diffuant John Roberts a'i debyg. Mae ei hanes yn perthyn nid yn unig i un gymuned ffydd, ond i genedl gyfan.
Wedi dweud hyn i gyd, fel un o hogia' Traws, rhaid cyfaddef bod stori John Roberts yn peri syndod. Cafodd ei garcharu sawl tro a'i rybuddio'n aml cyn ei ddienyddiad erchyll. Maddeuwch y dweud lleol anffodus, ond o ystyried dull ei farw, bum yn meddwl yn aml iawn bod gan y boi llawer mwy o gyts na sens.
Yr eiddoch, Aled Edwards Caerdydd.
Beth yw eich barn chi? Ebostiwch i ddweud.
|  | 
  |  |
 |  | | Y Parchedig Aled Edwards yn rhoi'r byd yn ei le. |  |
|
|
|