bbc.co.uk
Home
Explore the BBC

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
BBC Cymru'r Byd

News image

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd
»Straeon
Wythnos o Feddwl
Meddygol
Llythyrau
Miss Jones

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Sant John RobertsPwy oedd John Roberts?

Hanes rhyfeddol y sant o'r Traws

25 Hydref 2001
Dydio ddim yn enw y byddai rhywun yn disgwyl ei weld ar sant - felly, pwy oedd John Roberts?

• Ganwyd John Roberts yn Rhiw Goch, Trawsfynydd ym 1577. Mae’n debyg iddo gael ei fedyddio yn Eglwys St. Madryn, Trawsfynydd. Credir iddo fyw wedyn naill ai yn y Gelli Goch neu Dyddyn Gwladys, Trawsfynydd.

• Ef oedd mab hynaf Robert ac Anna Roberts. Roedd yn frawd i Ellis, Cadwaladr, Gwen, Margaret ac Ellen.

• Mae ei linach yn mynd yn ôl i Cunedda ac ymysg rhai o’i hynafiaid uniongyrchol mae
Maelgwn Gwynedd,
Rhodri Fawr,
Hywel Dda,
Gruffydd ap Cynan
Owain Gwynedd.

• Ymysg ei hynafiaid anuniongyrchol mae
Dewi Sant,
Uthr Pendragon,
y Brenin Arthur,
Owain Glyndwr,
Llewelyn Fawr
Llewelyn ein Llyw Olaf.

• Mae’n debyg mai mab fferm oedd o. Ond rhaid cofio mai’r system gyntaf-anedig oedd yn gweithredu yn y cyfnod. Rhiw Goch oedd fferm y teulu ac fe aeth honno i ewythr John Roberts, nid i’w dad.

• Yn Rhiw Goch y magwyd Robert Lloyd, aelod seneddol cyntaf Meirionydd a chefnder John Roberts.

• Ond mae’n amlwg fod teulu John Roberts yn eithaf cefnog gan iddo gael y cyfle i fynd i’r coleg.

• Credir iddo gael ei addysg gynnar gan hen fynach a ddifeddiannwyd o Abaty Cymer, wedi i Harri’r VIII gau’r mynachlogydd.

• Magwyd John Roberts yn Brotestant ac aeth i Goleg St. Ioan, Rhydychen ar Chwefror 26, 1595, i gael ei addysg ond gadawodd a mynd i Furnival’s Inn i astudio’r gyfraith.

• Bu'n teithio'r Cyfandir a thra ym Mharis trodd yn Babydd yn eglwys gadeiriol Nôtre Dame.

• Aeth i Bordeaux ac wedyn i’r Coleg Saesneg yn Valladolid, Sbaen. Wedi blwyddyn yma aeth i Abaty St. Benedict, Valladolid, ac wedyn i wneud ei nofyddiaeth yn Abaty St.Martin yn Santiago de Compostella.

• Wedi iddo gael ei ordeinio aeth i genhadu yn Lloegr. Ef oedd y mynach cyntaf i ddychwelyd i Loegr wedi i Harri’r VIII ddiddymu’r mynachlogydd.

• Er bod ysbïwyr y llywodraeth yn ei ddilyn llwyddodd i lanio yn Lloegr.

• Daliodd yr awdurdodau ef bedair neu bum gwaith - unwaith ym mis Tachwedd 1605 yn ystod Brad y Powdr Gwn.

• Ar bob achlysur wedi cyfnod byr o garchar dedfrydwyd ef i alltudiaeth.

• Yn ystod y cyfnod pan oedd y Pla Du yn ymledu trwy Gymru a Lloegr bu John Roberts yn gweini ar gleifion yn Lundain.

• Yn 1610 dychwelodd i Loegr am y tro olaf er ei fod yn gwybod mai dienyddiad fydda’r gosb pe caffai ei ddal. Un diwrnod tra'r oedd yn ei urddwisg ac yn gorffen yr Offeren aethpwyd ag ef i Newgate.

• Cafwyd ef yn euog o uchel frad ac fe’i dienyddiwyd ar Ragfyr 10, 1610, trwy ei grogi, ei ddadberfeddu a’i chwarteru. Ymgasglodd tyrfa enfawr yn dyst i'r digwyddiad gan iddo ddod mor boblogaidd ymysg y tlodion yn ystod cyfnod y pla.

• Er mai'r arfer oedd i ddadberfeddu person tra'r oedd yn dal yn fyw ni chaniatawyd hynny gan y dorf yn achos John Roberts gan fod ei garedigrwydd yn dal yn fyw yn eu cof.

• Traddodiad arall oedd bod y dadberfeddwr wedi’r weithred yn dal y galon i fyny gan ddatgan "Wele galon bradwr!". Byddai’r dorf wedyn yn ateb "Hir oes i’r Brenin". Ond y tro hwn roedd y dorf yn fud.

• Roedd John Roberts yn 33 oed pan gafodd ei ddienyddio gydag un offeiriad arall a 16 o ffelwmiaid.

• Ond nid yw’r stori’n diweddu â’i farwolaeth.
Wedi’r dienyddiad aeth y mynachod â’r corff i Douai yn Ffrainc. Ond roedd un goes wedi disgyn i ddwylo’r gelyn. Aethpwyd â rhannau o'i gorff i Goleg St Gregory, coleg yr oedd ef yn un o’i brif sefydlwyr ym 1606-7. Roedd y coleg yn hyfforddi offeiriaid i’r genhadaeth Saesneg.

• Aethpwyd â rhannau eraill o’i gorff i Valladolid a Santiago de Compostella ond diflannodd y rhain yn ystod y Chwyldro Ffrengig a’r Chwyldro Sbaenaidd.

• Mae bys iddo yn Eglwys Gatholig Blaenau Ffestiniog ac un arall mewn lleiandy yn Tyburn a thrydydd yn Taunton.

• Darganfuwyd un o’i freichiau’n ddiweddar ym meddiant teulu brenhinol Sbaen. Erbyn hyn mae hwn yn Santiago de Compostella.

Gellir gweld dau lun gwahanol o John Roberts yn Eglwys Gatholig Gellilydan ac mae llun ohono newydd ei osod yn Valladolid.

• Yn ddiweddar gosodwyd cerflun ohono mewn eglwys ym Mhortiwgal.

• Mae dau gerflun yn Abaty Downside ger Caerfaddon, prif ganolfan Benedictaidd Prydain. Yma hefyd ceir llawer o wybodaeth ysgrifenedig amdano ac mae un o dai’r ysgol wedi ei enwi ar ei ôl.

• Cynhelir gwasanaeth i’w goffáu ar ddiwrnod ei ferthyrdod, Rhagfyr 10, bob yn ail flwyddyn yn Eglwys Gatholig Gellilydan ac Abaty Cymmer.

• Ddiwedd y 1950au a dechrau’r 60au daeth nifer o Wyddelod ar bererindod i Drawsfynydd gan ymgasglu yn neuadd y pentref i’w drafod.

• Ar Orffennaf 21, 1960, dathlwyd ei fywyd yn Rhiw Goch a daeth dros fil o Gatholigion o bob rhan o ogledd Cymru yno.

• Enwyd Eglwys Gatholig ar ei ôl yng Nghorwen ond erbyn hyn mae wedi ei chau a'i gwerthu.

• Ar hyn o bryd mae archifydd yn Santiago de Compostella yn paratoi bywgraffiad Sbaeneg ohono.

 
Wythnosau Blaenorol:

News image
Chwiliwch
Chwiliwch
Chwiliwch
Chwiliwch
News imageCyfoes
News image
News imageCofio gof gwlad
Atgofion am gyfnod sydd wedi darfod yng nghefn gwlad Cymru

John RobertsAr drywydd John Roberts
Dyn sy'n dipyn o sant


News imageStraeon a lluniau o Eisteddfod Eryri 2005


News imageCofio Gwenynen Gwent
Cymdeithas Arglwyddes Llanofer

Wythnos o Feddwl
Y Parchedig Aled Edwards yn rhoi'r byd yn ei le.
Wythnos o Feddwl



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy