bbc.co.uk
Home
Explore the BBC

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
BBC Cymru'r Byd


A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd
»Straeon
Wythnos o Feddwl
Meddygol
Llythyrau
Miss Jones

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Richard TurnerPatagonia ym Mhenmaenmawr

Blas yr Ariannin yng ngogledd Cymru

Chwefror 2003

gan Cathrin Williams
Beth sy'n cysylltu cofeb Gwenllian yn Sempringham a bwyty Patagonia ym Mhenmaenmawr? Yr ateb ydi, gwr o'r enw'r Capten Richard Turner.

Yn y flwyddyn 1993, wedi iddo ddarllen erthygl ar y Dywysoges Gwenllian yn y Guardian, gosododd y diweddar Richard Turner garreg goffa ar ei bedd yn Sempringham ac yn dilyn ymgyrchu ganddo fo, Angharad Thomas ac eraill, sefydlwyd Cymdeithas y Dywysoges Gwenllian.

I'r Ariannin yn fachgen ifanc
Mae'n deg dweud na fyddai enw Gwenllian mor gyfarwydd inni heddiw oni bai am y cyn-forwr hwn o Gaernarfon.

Fel morwr yr aeth Richard Turner allan i Ariannin yn fachgen ifanc. Yno, yn Buenos Aires ble bu'n gweithio am gyfnod, cyfarfu â merch o'r Wladfa a'i phriodi.

Ganed mab iddyn nhw, ond yn fuan chwalodd y briodas, ac ymhen amser ailbriododd Elda Cooper, a chyda hi a'i lystad y magwyd y mab, sef Juan, neu John Turner.

Priododd yntau a ganed iddo ef a'i wraig bedwar o blant. Yn y flwyddyn 1990 bu farw gwraig Juan a blwyddyn yn ddiweddarach daeth ef i Brydain, gan dreulio blwyddyn yn Lerpwl yn dysgu Saesneg cyn dod at ei dad, y Capten Richard Turner, i Gaernarfon.

Daeth dau o'r plant ato yma, a chafodd y ferch, Myfanwy, beth o'i haddysg yn y dre fel ei bod bellach, a hithau ar ei blwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol Caerdydd, yn dairieithog.

Gwireddu breuddwyd
BwytyYma, yng Nghymru, y cafodd Juan Turner wireddu ei freuddwyd o agor bwyty. Wedi gweithio am gyfnod yn gogydd mewn cartref preswyl, yn ystod haf 2002 agorodd Patagonia, ym Mhenmaenmawr, bwyty â blas Ariannin ar y fwydlen.

I Juan, rhyw estyniad ar fywyd y teulu oedd agor y bwyty hwn, ond â chanddo bedwar o blant i'w magu a rhoi addysg dda i bob un, dyma ei gyfle cyntaf i fentro.

Yn Patagonia mae rhywbeth at ddant pawb, ond mae rhai pethau arbennig i'r rhai sy'n hoffi arbrofi.

Gellir dechrau'r pryd gyda'r "platiau bach" sef dysglau o wahanol fwydydd, oer gan fwyaf, y gellir eu rhannu rhwng dau neu dri.

Er bod modd bwyta pasta, yn naturiol ddigon, a hwn yn lle Archentaidd, ar y cig mae'r pwyslais, a hwnnw wedi ei weini gyda llysiau gwahanol yn ôl pa gig a ddewisir.

Mae'n braf cael bwyty sy'n gwybod nad yr un llysiau sy'n addas gyda phob math o gig. Os bydd lle ar ôl, mae digon o ddewis o bwdinau. Ac i fynd gyda'r bwyd mae gwinoedd da o Ariannin.

Menter i Juan yw rhedeg bwyty wedi'r holl flynyddoedd o freuddwydio, ond fel ei dad o'i flaen, pan fo'n cael syniad mae'n mynnu gweithredu.

Yr un ysbryd ag a osododd y garreg gyntaf honno ar fedd Gwenllian sydd wedi agor bwyty Archentaidd ym Mhenmaenmawr.

O ddechreuad bychan y datblygodd Cymdeithas y Dywysoges Gwenllian a dymuna ei gyfeillion yr un llwyddiant i fenter y mab.

Wythnosau Blaenorol:


Chwiliwch
Chwiliwch
Chwiliwch
Chwiliwch
Cyfoes
Cofio gof gwlad
Atgofion am gyfnod sydd wedi darfod yng nghefn gwlad Cymru

John RobertsAr drywydd John Roberts
Dyn sy'n dipyn o sant


Straeon a lluniau o Eisteddfod Eryri 2005


Cofio Gwenynen Gwent
Cymdeithas Arglwyddes Llanofer

Wythnos o Feddwl
Y Parchedig Aled Edwards yn rhoi'r byd yn ei le.
Wythnos o Feddwl



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy