
 |  | Cartref gwyrdd y Steddfod
Edrych ymlaen at Wyl dwy fil yn Llanelli
Dydd Iau, Mehefin 22, 2000
| Parc arfordir y mileniwm fydd cartre Eisteddfod Genedlaethol Llanelli a’r Cylch ym mis Awst. Llecyn ar lan moryd y Burry sy’n gyfleus i dre a thraeth a’r bwriad yw defnyddio’r safle ar ôl y Brifwyl ar gyfer gwyliau eraill.
Mae’r maes wedi ei rannu’n dair ardal ar wahan a bydd rhwydwaith o lwybrau tarmac yn cysylltu’r cyfan. Y gobaith yw y bydd yn help i sicrhau y bydd Steddfod Llanelli yn steddfod heb fwd!
Un atyniad newydd sbon fydd amphitheatr ar ffurf grisiau mawr yng nghanol y maes. Bydd hwn yn ganolfan ac atyniad newydd i’r Brifwyl … ac yn llwyfan trawiadol ar gyfer perfformiadau neu arddangosfeydd awyr agored.
Tua milltir i’r gorllewin o’r maes bydd y maes carafanau ar lecyn sydd wedi ei harddu ac yn mwynhau golygfeydd dros y foryd. Bydd modd teithio o’r maes carafanau i bentre Porth Tywyn a Pharc Gwledig Penbre a hyd rhwydwaith o lwybrau beicio a llwybrau troed.
Cafodd y rhain i gyd eu hagor yn ddiweddar fel rhan o gynllun uchelgeisiol Parc Arfordirol y Mileniwm. I deithio i’r maes bydd bws wennol.
O son am deithio mae’n bosib disgrifio Steddfod Llanelli fel y steddfod werdd gyntaf. Mae’r holl drefniadau parcio a thrafnidiaeth yn amlygu gwyrddni'r wy gyda phwyslais ar drafnidiaeth gyhoeddus a beiciau.
Ond os ydych yn teithio yn y car bydd lle i wyth mil o geir ar faes parcio Machynys. Munudau fydd hi wedyn ar y bws o’r meysydd parcio i’r maes. Bydd digon o gerbydau a cherbydau wedi’u haddasu ar gyfer ymelwyr anabl.
Mae’r gwaith ar y gweill ers blynyddoedd i sicrhau y bydd yr wyl yn un i’w chofio. Bydd steddfodwyr a chefnogwyr y Brifwyl yn Llanelli wrthi fel lladd nadroedd yn yr wythnosau sy’n dod i sicrhau mai Steddfod 2000 yn Nhre’r Sosban fydd yr orau eto!
Garry Owen |  | 
  |  |
 |  | | Y Parchedig Aled Edwards yn rhoi'r byd yn ei le. |  |
|
|
|