
 |  | Deffro yn Llanelli
Edrych ymlaen yn nhref Eisteddfod Genedlaethol 2000
Dydd Iau, Mai 12, 2000
| Gellifeelliynllanelli - neu Dewch am dro i fro y Sosban
Yr erthygl gyntaf mewn cyfres yn edrych ymlaen at ymweliad yr Eisteddfod Genedlaethol â Llanelli, fis Awst eleni. Yr awdur yr wythnos hon yw Gari Nicholas, Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith.
Fe ges i fy magu rhyw dair milltir y tu allan i dre Llanelli, mewn pentre bach o’r enw Y Bryn.
Bu’r diweddar Barchedig W. Rhys Nicholas yn weinidog ar Gapel y Bryn ar un adeg, er taw nid yno y bydden ni fel teulu yn addoli.
Fe fydden ni’n mynd o’r Bryn, trwy bentre Llangennech ac i’r Hendy. Yno, yn uchel uwchben y pentre y saif yr Hen Gapel, capel teulu fy mamgu. Ym mynwent yr Hen Gapel y mae bedd Gwili.
Tref o siopau teuluol Pan ymwelodd Aneirin Talfan Davies â thre Llanelli wrth Grwydro Sir Gâr, flynyddoedd yn ôl, fe sylwodd mai tre gartrefol iawn oedd yma ac mai un o'i nodweddion ydoedd nad oedd wedi "syrthio’n gymaint ysglyfaeth i’r siopau cadwyn â rhai o drefi eraill y Deheudir."
’Roedd yn nhre Llanelli nifer o siopau teuluol a rheini yn asgwrn cefn masnach y dre. Honno oedd tre fy mhlentyndod i.
Os dowch chi i Lanelli yn y flwyddyn 2000 fe welwch chi fod rhai o’r archfarchnadoedd mawr erbyn hyn wedi cyrraedd ac un ohonyn nhw yn rhan ganolog iawn o Ganolfan Siopa newydd, ysblennydd canol y dre, sef Canolfan Sant Elli.
Cerddwch trwy stryd Vaughan, Stryd Cowell a Stryd Stepney ac fe gewch chi, o hyd, deimlo yr awyrgylch gartrefol y soniai Aneirin Talfan amdano.
Yn anffodus ’dyw’r Cymreigrwydd y soniodd e amdano ddim mor amlwg ag y bu er y clywch chi o hyd rywfaint o dafodiaith hyfryd yr ardal.
Rhyw sgwrs debyg i hyn efallai:
"Hylo na, siwd y fe?"
"Iawn thenciw, siwd y fe?"
"Tamed o beswch fe’n gwbod - ond alla i ddim conan. Odi fe wedi cwpla ’i siopa ’to?"
"Ddim cweit. Well i fi fynd. Wela i fe?"
"Ie, da bo fe."
Maes arbennig iawn Pan fu’r Eisteddfod Genedlaethol yn Llanelli ddwetha, ’nôl yn 1962, bachgen ysgol oeddwn i. Cofiaf iddi gael ei chynnal ar feysydd y Llannerch.
Yn ymyl y meysydd hynny heddiw y saif Ysgol Gymraeg Dewi Sant. Erbyn hyn mae meysydd y Llannerch yn rhy fach i gynnal ein Prifwyl.
Eleni bydd raid cerdded i ochr arall y dre, i gyfeiriad Y Pwll, dros Bont y Sandy ac i Barc Dwr y Sandy. Yno mae Cylch newydd yr Orsedd ac yng ngolwg y Cylch hwnnw y bydd Maes Prifwyl 2000.
A bydd yn Faes arbennig iawn.
Rhan ydyw o Barc Arfordirol y Mileniwm. Prosiect y Mileniwm. Prosiect cyffrous gan Gyngor Sir Gaerfyrddin ydyw hwn sydd am sicrhau fod arfordir Llanelli - o Fachynys i Borth Tywyn - yn cynnig llu o atyniadau i ddenu miloedd o ymwelwyr i’r ardal bob blwyddyn.
Yn ’Steddfod ’62 fe ddaeth dwy fraint i’m rhan i. Yr oeddwn yn llefarydd ym Mhasiant y Plant - a luniwyd gan Aeres Evans ac a lwyfannwyd gan Miss Olwen Williams a Miss Myfanwy Davies. Teitl y gwaith oedd Ymlaen Llanelli.
Dyna fu arwyddair y dre gydol y blynyddoedd ac wrth i’r Brifwyl ddod yma eleni, ar ddechrau’r mileniwm newydd, ’rydym yn sicr y bydd yn gallu camu "ymlaen" yn hyderus i mewn i’r ganrif nesaf.
"Dewch bawb i Barc y Sandy Daw Gwyl dwy fil i’n bro ni, Ffarweliwn oll a’r ganrif fu Awn ’mlaen yng Ngwyl Llanelli."
Tref sy'n deffro Yr ail fraint ddaeth i’m rhan oedd cael bod yn un o’r macwyaid yn Seremoniau’r Orsedd. Cofio cael clyweliad gan Cynan ei hun a wedi hynny cael y cyfle i siarad â’r Archdderwydd Trefîn.
Erbyn hyn y Prifardd Meirion Evans yw’r Archdderwydd ac eleni fe dyfodd y macwy ifanc hwnnw yn Gadeirydd y Pwyllgor Gwaith ac fe ges innau’r fraint yng Ngwyl y Cyhoeddi y llynedd o gyflwyno y copi cyntaf o’r Rhestr Testunau iddo ar y Maen Llôg.
"Tref sy’n deffro gyda’i gilydd. Tref o bentrefi ynghlwm yw Llanelli."
Dyna sut y disgrifiwyd y dre ’nôl yn 1962. Fel Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith ’rydw i wedi bod yn dyst i’r un defforoad hwnnw.
Mae’r pentrefi o gwmpas wedi deffro gyda’i gilydd unwaith yn rhagor a wedi trefnu llu o weithgareddau amrywiol. Bu’r brwdfrydedd yn heintus o’r cychwyn cyntaf.
Rhin yr enwau Mae rhyw rin yn perthyn i rai o enwau’r pentrefi hyn - Cydweli a Mynyddygarreg, Pontiets a Phontyberem, Y Tymbl a Llannon, Yr Hendy a Phontarddulais, Llangennech a’r Bryn, Llwynhendy a Bynea, Pwll, Porth Tywyn a Phenbre.
Mae’n anodd disgrifio beth sy’n digwydd pan ddaw’r Genedlaethol i fro. Rhaid ei brofi drosoch eich hun.
Profi’r wefr o weld y cannoedd o weithwyr gwirfoddol yn dod at ei gilydd yn enw’r Eisteddfod Genedlaethol. Pobol hwyrach na fu’n cydweithio o’r blaen, pobol na fu’n cyd-gyfarfod o’r blaen ond gan eu bod i gyd erbyn hyn â nôd i anelu ato yn cyd-dynnu, yn cyd-ymdrechu ac yn cyd-lawenhau yn eu llwyddiant.
Dewch i fro’r Sosban ym mis Awst. Fe fydd yno groeso twymgalon yn eich aros.
Ac os ydych chi’n gofyn i chi eich hun - alla i gael rhywbeth i ’mhlesio i yng Ngwyl 2000 - cofiwch yr ateb - "gellifeelliynllanelli!"
|  | 
  |  |
 |  | | Y Parchedig Aled Edwards yn rhoi'r byd yn ei le. |  |
|
|
|