Wrth i addolwyr brinhau mae nifer o'r capeli a oedd mor niferus ar hyd a lled Cymru yn cau fesul un. Mae defnydd newydd i rai ohonyn nhw a hynny'n amrywio o fod yn gartrefi i fod yn siopau neu'n feddygfeydd hyd yn oed. Mae eraill yn sefyll yn wag ac yn dadfeilio.
Dewch ar daith o amgylch rhai o gapeli Cymru nad ydynt yn gapeli mwyach . . .