Y mae dyn sy'n gywir yn y pethau lleiaf yn gywir yn y pethau mawr hefyd; a'r dyn sy'n anonest yn y pethau lleiaf yn anonest yn y pethau mawr hefyd.
Luc 16:10.
Gwasanaeth
Ni ddichon neb wasanaethu dau arglwydd.
Mathew 6;24
Gweddïo
Ond tydi, pan weddïech, dos i'th ystafell; ac wedi cau dy ddrws gweddïa ar dy Dad yr hwn sydd yn y dirgel.
Mathew 6:6
Gweddwon
Os oes gan weddw blant neu wyrion dylai'r rheini yn gyntaf ddysgu ymarfer eu crefydd tuag at eu teulu a thalu'n ôl i'w rhieni y ddyled sydd arnynt.
1 Timotheus 5:4
Gweniaith
Yr hwn a ddywed weniaith i'w gyfeillion, llygaid ei feibion ef a ballant.
Job 17:5
Gwiriondeb
Y mae y craff yn gweld perygl ac yn ei osgoi ond y gwirion yn mynd rhagddo ac yn talu am hynny.
Diarhebion 22:3
Gwraig - gwragedd
Y mae gwraig fedrus yn goron i'w gŵr ond un ddigywilydd fel pydredd yn ei esgyrn.
Diarhebion 12:4
Gwraig ddoeth a adeilada ei thŷ ond y ffolog a'i tyn ef i lawr â'i dwylaw.
Diarhebion 14:1
Pwy all ddod o hyd i wraig fedrus? Y mae hi'n fwy gwerthfawr na gemau.
Diarhebion 31:10.