Y mae tafod y doeth yn clodfori deall ond genau ffyliaid yn parablu ffolineb.
Diarhebion:15:2
Y mae ffolineb yn ddifyrrwch i'r disynnwyr.
Diarhebion 15:21
Nid yw geiriau gwych yn gweddu i ynfytyn.
Diarhebion 17:7
Y mae pwysau mewn carreg a thywod yn drwm, ond y mae casineb y ffŵl yn drymach na'r ddau.
Diarhebion 27:3
Ateb y ffŵl yn ôl ei ffolineb rhag iddo fynd yn ddoeth yn ei olwg ei hun.
Diarhebion 26:5
Y mae'r sawl sy'n anfon neges yn llaw ffŵl yn torri ymaith ei draed ei hun.
Diarhebion 26:6
Ffydd
Ffydd yn wir yw sail y pethau yr ydys yn eu gobeithio a sicrwydd y pethau nid ydys yn eu gweled.
Hebreaid 11:1
Pe bai gennych ffydd gymaint â hedyn mwstard, fe allech ddweud wrth y forwydden hon, 'Coder dy wreiddiau a phlanner di yn y môr,' a byddai'n ufuddhau i chwi.
Luc 17:7
Ffyddlondeb
Os gadewch yr Arglwydd a gwasanaethu duwiau estron, bydd yn troi yn eich erbyn a gwneud niwed i chwi ac yn eich difodi, er yr holl dda a wnaeth i chi.
Josua 24:20