 |  | D: Diogi - Doethineb - Dialedd - Diogi - Drwg
|  |  |
 | Diogi Y mae blys y diog yn ei ladd am fod ei ddwylo yn gwrthod gweithio.
Diarhebion 21:25
Dialedd Y cyfiawn a laenycha pan welo ddial: efe a ylch ei draed yng ngwaed yr annuwiol.
Salm 58:10
Llygad am lygad - dant am ddant, llaw am law, troed am droed, llosg am losg, archoll am archoll a chlais am glais.
Exodus 21:24
Peidiwch a gwrthsefyll y sawl sydd yn gwneud drwg ichwi. Os bydd rhywun yn dy daro ar dy foch dde, tro'r llall ato hefyd. Mathew 5:6
Paid a llawenhau pan syrth dy elyn, nac ymfalchïa pan feglir ef, rhag i'r Arglwydd weld, a bod yn anfodlon, a throi ei ddig oddi wrtho.
Diarhebiob 24:17.
Diogi Fel finegr i'r dannedd, neu fwg i'r llygaid, felly y mae'r diogyn i'w feistr.
Salm 10:26
DoethinebY mae y craff yn gweld perygl acyn ei osgoi ond y gwirion yn mynd rhagddo acyn talu am hynny.
Diarhebion 22:3
Y mae doethineb yn gwneud i wyneb dyn ddisgleirio ac yn newid caledwch ei drem.
Pregethwr 8:1.
Gwell yw doethineb na gemau.
Diarhebion 6:11
Dyro addysg i'r doeth ac efe fydd ddoethach.
Diarhebion 9:9
Trwy rodio gyda'r doeth ceir doethineb , ond daw niwed o aros yng nghwmni ffyliaid.
Diarhebion 13:20
Gwae'r rhai sy'n ddoeth yn eu golwg eu hunain ac yn gall yn eu tyb eu hunain.
Eseia 5:21
Gwell yw bachgen tlawd a doeth na brenin hen ac ynfyd..
Pregethwr 4:13
Y mae pedwar peth ar y ddaear sy'n fach ond yn eithriadol ddoeth: Y morgrug syddheb gryfder ond sy'n casglu eu bwydyn yr haf. Y cwningod sydd heb nerth ond sy'n codi eu tai yn y creigiau. Y locustiaid, nad oes ganddynt frenin ond syddi gydyn mynd allan yn rhengoedd.
Y madfall, y gelli ei ddal yn dy law, ond sydd i'w gael ym mhalas brenhinoedd.
Diarhebion 30:24-28
Drwg Dymchwelir y drygionus gan ei ddrygioni ei hun.
Diarhebion 14:32
Y mae y drygionus yn wrthryfelgar o'r groth, a'r rhai sy'n dweud celwydd yn cyfeiliorni o'r bru.
Salmau 58:3
 |  |  |  |
| |
|