 |  | C: Cariad - Cenedl - Cosbi - Cyfeillgarwch - Cyfoeth - Cymorth
|  |  |
 | Cariad Y mae cariad yn hir-ymaros, yn gymwynasgar; cariad nid yw yn cenfigennu; nid yw cariad yn ymffrostio, nid yw yn ymchwyddo. Nid yw yn gwneuthur yn anweddaidd, nid yw yn ceisio ei eiddo ei hun, ni chythruddir, ni feddwl ddrwg.
1 Corinthiaid 14:4,5.
Y mae'n goddef i'r eithaf, yn credu i'r eithaf, yn gobeithio i'r eithaf, yn dal ati i'r eithaf.
1 Corinthiaid 13:7
Nid yw cariad yn darfod byth.
1 Corinthiaid 13:8
Carwch eich gelynion a gweddïwch dros y rhai sy'n eich erlid.
Mathew 5:44
Gadewch i ni garu ein gilydd, oherwydd o Dduw y mae cariad, ac y mae pob un sy'n caru wedi ei eni o Dduw..
1 Ioan 4:7
Os ydym yn caru ein gilydd, y mae Duw yn aros ynom, ac y mae ei gariad ef wedi ei berffeithio ynom ni.
1 Ioan 4:12
Nid oes ofn mewn cariad ond y mae cariad perffaith yn bwrw allan ofn; y mae â wnelo ofn â chosb, ac nid yw'r hwn sy'n ofni wedi ei berffeithio mewn cariad.
1 Ioan 4:18
Cenedl Y mae cyfiawnder yn dyrchafu cenedl ond pechod yn warth ar bobloedd.
Diarhebion 14:34
Cosbi Casáu ei fab a wna'r un sy'n arbed y wialen, ond ei garu y mae'r sawl a rydd gerydd cyson.
Diarhebion 13:24
Os gadewch yr Arglwydd a gwasanaethu duwiau estron, bydd yn troi yn eich erbyn a gwneud niwed i chwi ac yn eich difodi, er yr holl dda a wnaeth i chi.
Josua 24:20
Cyfeillgarwch Y mae cyfaill agos yn well na brawd ymhell.
Diarhebion 27:10
Cyfoeth Derfydd cyfoeth a gafwyd yn ddiymdrech
Diarhebion 13:11
Nid y cyflym sy'n ennill y ras, ac nid y cryf sy'n ennill y rhyfel.
Pregethwr 9:11
Cymorth Os bydd dyn dall yn arwain dyn dall, bydd y ddau yn syrthio i bydew.
Mathew 15:14
 |  |  |  |
| |
|