 |  | B: Balchder - Bedydd - Bodlonrwydd - Bwyd - Bychander - Bywyd
|  |  |
 | Balchder Llygaid balch a chalon ymffrostgar, dyma nodau'r drygionus, ac y maent yn bechod..
Diarhebion 21:4
Bedydd Yr hwn a gred ac a fedyddir, fe gaiff ei achub, ond yr hwn ni chred fe'i condemnir.
Marc 16:16
Bodlonrwydd Y mae dyn wedi ei ddigoni yn gwrthod mêl, ond i'r newynog melys yw popeth chwerw.
Diarhebion 27:7.
Bwyd Nid ydych i fwyta dim ffiaidd. Dyma'r anifeiliaid y cewch eu bwyta: eidion, dafad, gafr, carw, iwrch, ewig, gafr wyllt, gafr hirgron, gafrewig a hydd.
Cewch fwyta pob anifail sy'n hollti'r ddau ewin ac yn eu fforchi i'r pen, a hefyd yn cnoi cil.
Deuteronomium 14:3
Bychander Y mae pedwar peth ar y ddaear sy'n fach ond yn eithriadol ddoeth: Y morgrug syddheb gryfder ond sy'n casglu eu bwydyn yr haf. Y cwningod sydd heb nerth ond sy'n codi eu tai yn y creigiau. Y locustiaid, nad oes ganddynt frenin ond syddi gydyn mynd allan yn rhengoedd.
Y madfall, y gelli ei ddal yn dy law, ond sydd i'w gael ym mhalas brenhinoedd.
Diarhebion 30:24-28
Bywyd Llwch wyt ti ac i'r llwch y dychweli.
Genesis 3:19.
 |  |  |  |
| |
|